A headshot of Tony-Hamburger

Roedd Iddewon De Affrica yn rheng flaen y frwydr yn erbyn Apartheid rhwng 1948 a 1990/1992. Roedd yr wrthblaid gyfreithiol yn dibynnu arnynt yn ogystal ag ar sefydliadau radical a milwriaethus er mwyn herio’r gorthrwm hiliol. Tra mai Helen Suzman am nifer o flynyddoedd oedd yr unig un i leisio ei hanfodlonrwydd mewn senedd o wleidyddion gwyn yn unig, cynllwyniodd Ruth First a Joe Slovo gyda'u cymrodyr ym Mhlaid Gomiwnyddol De Affrica i ddod â democratiaeth i'w gwlad. Beth oedd effaith ymgyrchwyr Iddewig ar y frwydr dros ryddid mewn cymdeithas aml-ethnig fel De Affrica? Beth oedd eu cymhellion? Beth oedd eu profiadau mewn gwladwriaeth heddlu hynod hiliol? Beth am eu  Hiddewiaeth – neu ai Iddew-iaeth ydoedd? A oes gwersi y gallem eu dysgu o frwydr rhyddid De Affrica ar gyfer yr heriau sy'n ein hwynebu heddiw?

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?