Fy ngwlad:

Hyfforddiant, datblygiad ac adnoddau

Fel rhan o'n gwaith ar y Siarter Cydraddoldeb Hil, mi wnaethom ofyn i’r staff a’r myfyrwyr beth arall y gallem ei wneud mewn perthynas â Chydraddoldeb Hil, a dywedodd llawer o aelodau o staff wrthym eu bod eisiau gwella eu hyder i siarad yn agored am hil a chynyddu eu dealltwriaeth o’r hyn y mae cydraddoldeb hil yn ei olygu i Brifysgol Bangor fel cymuned.

 

Modiwlau E-ddysgu Cydraddoldeb Hil i Staff 

Mae'r e-ddysgu’n ymateb i adborth y staff, a'r nod yw cynnig cyflwyniad i chi droi ato yn eich amser eich hun. Cafodd y ddau fodiwl eu llunio er budd unigolion sy'n gweithio mewn addysg uwch gan arbenigwyr sy'n deall addysg uwch.

Cynnwys / Hyfforddiant Adnoddau Dynol a Chydraddoldeb / HR and Equality Training

 

Cyfleoedd Hyfforddi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gallwch hefyd gael mynediad at unrhyw un o'r hyfforddiant canlynol a gynigir yn y brifysgol, neu gymryd rhan ynddynt, a fydd yn cefnogi eich dysgu a'ch datblygiad mewn perthynas ag amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant: