Bwyd iach a chynaliadwy

Arlwyo

Mae ein gwasanaeth danfon prydau bwyd yn cynnig dewis bwyd o'r ansawdd uchaf, llawn maeth a ffres i unrhyw achlysur. Mae ein gwasanaeth arlwyo, sydd wedi ei leoli yn Neuadd Reichel, yn paratoi bwyd blasus y gellir ei ddanfon ar y campws ac i leoliadau o fewn 15 milltir i Fangor.

Ffynonellau gwybodaeth a chyngor

Ryseitiau rhad

  • Cook with Campus Life Mae Prifysgol Bangor wedi llunio llyfr coginio bach gwych (yn cynnwys ryseitiau coctels di-alcohol) sy'n llawn o brydau bwyd blasus, maethlon a syml. Mae ein holl ryseitiau wedi eu creu i fod yn hawdd i'w gwneud, ac yn flasus iawn.
  • Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig syniadau da i fyfyrwyr greu prydau bwyd iach, maethlon a rhad.
  • Mae’r The Student Food Project yn anelu at helpu myfyrwyr i ddarganfod ryseitiau hawdd eu dilyn, cyflym a rhad i'w gwneud gan ddefnyddio adnoddau a chynhyrchion ffres a maethlon.
  • Mae’r The Student’s Guide to Nutrition yn trafod y pum grŵp bwyd, pob un yn cyflawni pwrpas penodol. Gall deall sut mae'r grwpiau bwyd hyn yn effeithio ar eich corff eich helpu i benderfynu beth, a faint, y dylech ei fwyta.

Bwyta'n iawn ar gyfer eich microbau

  • Beth ddylwn i ei fwyta i gael perfedd iach? Yn aml, ystyrir bod bacteria a microbau eraill (gan gynnwys ffyngau a firysau) yn ffynonellau afiechyd, ond mewn gwirionedd mae llawer ohonynt yn cyfrannu at eich cadw'n iach.
  • The Gut-Brain Connection Mae eich perfedd yn sensitif i emosiynau fel dicter, pryder, tristwch a llawenydd, a gall eich ymennydd ymateb i arwyddion o'ch stumog. Dyna fwy o reswm byth dros fwyta diet cytbwys a maethlon er mwyn i’ch perfedd a'ch ymennydd fod yn iach.

Paratoi a choginio bwyd iach

  • Nid yw bwyta’n iach yn golygu peidio byth â bwyta eich hoff fwydydd. Gallwch addasu eich hoff ryseitiau yn hawdd i ddarparu dewis arall iachach trwy ddilyn cyngor yr Healthy Cooking and Food Preparation Tips

Podlediadau

  • Mae Food For Thought gyda Rhiannon Lambert, maethegydd cymwys, yn cynnig yr holl gyngor yn seiliedig ar dystiolaeth sydd ei angen arnoch i fyw’n iach. Mae gwesteion arbennig yn ymuno â Rhiannon, sydd i gyd yn arbenigwyr lles, i edrych yn fanwl ar gwestiynau poblogaidd am ddiwylliant diet a gwahanu'r ffeithiau o'r ffuglen.
  • Podlediad Food Medict yn y podlediad hwn, dan ofal meddyg, hyfforddwr personol, blogiwr, ac awdur, Dr Hazel Wallace, byddwch yn clywed gan arbenigwyr blaenllaw yn eu maes sy'n rhannu cyngor ar sail tystiolaeth ynglŷn â sut y gallwn fyw’n iachach ac egluro’r wybodaeth ddryslyd sydd ar gael ar-lein.
  • The Spark mae'r epidemiolegydd genetig Tim Spector yn dadlau bod bron popeth a ddywedwyd wrthym am fwyd yn anghywir.

Edrych ar fwyd mewn ffordd gytbwys

  • British Nutrition Foundation gyda chymaint o wybodaeth anghyson ar gael, mae'n hawdd drysu ynglŷn â bwyta'n iach. Datblygwch eich gwybodaeth am fwyta'n iach, maeth a dewisiadau yn seiliedig ar yr ymchwil gwyddonol diweddaraf.

  • Mae gwefan ffordd o fyw Care First yn cynnig gwybodaeth a chyngor am faeth i staff y brifysgol ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys sut i fwyta’n synhwyrol rhwng prydau, bwyta llai o halen, a bwydydd sy’n brwydro yn erbyn blinder ac yn lleihau lefelau colesterol.
  • Mae Healthy Eating yn darparu cyngor ar ddiet cytbwys sy'n cryfhau eich system imiwnedd.
  • Mae NHS Eat Well yn dysgu am y grwpiau bwyd i sicrhau diet cytbwys, ryseitiau ac awgrymiadau i fwyta'n iach a chyngor i gael system dreulio iach.

Mathau o de a'u manteision iechyd

Mae te yn ddiod hynafol a gaiff ei yfed ledled y byd ac mae'n parhau i fod yn ddiod boblogaidd. Gall te annog colli pwysau, lleddfu anghysur corfforol, helpu i ostwng colesterol, a sicrhau bywiogrwydd meddwl. Dangoswyd bod rhai mathau o de yn helpu yn erbyn radicalau rhydd a all gyfrannu at ganser, clefyd y galon a rhydwelïau wedi tagu.

Mae Tea UK yn darparu ffeithiau am dros 30 o wahanol fathau o de.

Teas to drink for a healthier body and mind yn de du a gwyrdd, yn hibiscus a chamomile, dysgwch am yr wyth te sy'n cynnig llu o fanteision iechyd.

Beth yw un dogn?

  • Portion Size Guide Mae canllawiau Bupa yn argymell maint dognau ar gyfer y grwpiau bwyd allweddol a fydd yn diwallu gofynion maethol ac ynni unigolyn cyffredin ac yn cynnig awgrymiadau i leihau maint dognau.
  • Portion Control Nid yw rheoli faint byddwch yn ei fwyta yn golygu bod rhaid i chi fwyta ychydig bach na mesur yn union nifer y pys ar eich plât.

Beth mae'n ei olygu i fwyta'n lân?

  • What is Clean Eating for Beginners? Gall dechrau ffordd newydd o fwyta deimlo’n llethol ar y dechrau. Yma gallwch ddysgu'n union beth ddylai bwyta'n lân ei olygu i'ch bywyd a sut i ddechrau.
  • Clean Eating Recipes yma ceir pob rysáit sydd ei hangen arnoch i fwyta'n lân, gan ddefnyddio bwyd cyfan a heb ei brosesu, o'r bore tan y nos.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?