Llofnododd Prifysgol Bangor Ymrwymiad y Technegwyr ym mis Medi 2024. Drwy'r ymrwymiad hwn, rydym yn gweithredu i gefnogi, cydnabod a datblygu ein gweithlu technegol, gan sicrhau bod technegwyr yn chwarae rhan weladwy a gwerthfawr ledled y Brifysgol.
Beth yw Ymrwymiad y Technegwyr?
Mae Ymrwymiad y Technegwyr yn fenter ledled y DU ar gyfer prifysgolion a sefydliadau ymchwil. Fe'i cefnogir gan y Science Council ac fe'i cynhelir gan UK Institute for Technical Skills & Strategy.
Drwy ddod yn sefydliad sydd wedi llofnodi'r ymrwymiad, mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i adolygu a gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i dechnegwyr ledled y sefydliad.
Ein hymrwymiad
Mae Ymrwymiad y Technegwyr yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol.
Gwelededd
Sicrhau bod pob technegydd o fewn y sefydliad yn adnabyddadwy a bod cyfraniad technegwyr yn weladwy o fewn y sefydliad a thu hwnt iddo.
Cydnabyddiaeth
Cefnogi technegwyr i ennill cydnabyddiaeth drwy gofrestru proffesiynol a chynlluniau gwobrau allanol.
Datblygu Gyrfa
Galluogi cyfleoedd ar gyfer cynnydd gyrfa i dechnegwyr drwy ddarparu llwybrau gyrfa clir sydd wedi’u dogfennu.
Cynaliadwyedd
Sicrhau cynaliadwyedd sgiliau technegol yn y dyfodol ar draws y sefydliad a sicrhau bod arbenigedd technegol yn cael ei ddefnyddio’n llawn.
Sut rydym yn cyflawni'r ymrwymiad
Mae ein Grŵp Llywio Ymrwymiad Technegwyr, dan arweiniad Dr Charlotte Baxter, yn dod â staff technegol ymroddedig ynghyd o bob rhan o’r sefydliad i sicrhau bod technegwyr yn cael eu cydnabod, eu cefnogi a’u grymuso yn eu rolau. Mae’r grŵp yn gyfrifol am oruchwylio gweithrediad ein cynllun gweithredu ar gyfer yr Ymrwymiad Technegwyr.
Ein cynllun gweithredu
Ym mis Medi 2026, cyflwynodd Prifysgol Bangor ei hunanasesiad a'i chynllun gweithredu dwy flynedd. Mae'r cynllun yn nodi sut y byddwn yn cyflawni gwelliannau ar draws pedwar maes blaenoriaeth Ymrwymiad y Technegwyr rhwng 2026 a 2028.
Lawrlwytho
Cynllun Gweithredu Ymrwymiad y Technegwyr Prifysgol Bangor 2026–2028