Mae Swyddfa'r Bwrdd Gweithredol yn darparu cefnogaeth i holl aelodau'r Bwrdd Gweithredol. Rheolir y Swyddfa gan Ysgrifennydd y Brifysgol ac fe'i cefnogir gan dîm o Gynorthwywyr Gweithredol ac Uwch Gynorthwywyr Gweithredol.

Mae Kelly yn cefnogi’r Is-ganghellor ym mhob agwedd ar ei swyddogaeth. Mae Kelly yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad sy’n ymwneud â’r Is-ganghellor dros y ffôn a thrwy ohebiaeth ysgrifenedig/e-bost. Daw Kelly â chyfoeth o brofiad i Swyddfa’r Bwrdd Gweithredol ar ôl gweithio mewn sawl ysgol ar draws y brifysgol, gan gynnwys Ysgol Busnes Bangor a’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol. Cyn hyn, bu Kelly yn gweithio fel Cynorthwyydd Personol i’r Pennaeth yng Ngholeg Llandrillo, yn Ysgrifenyddiaeth Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ac yng Ngwasanaethau Proffesiynol y Gwasanaeth Tân.

Mae Bethan yn cefnogi’r Prif Swyddog Cyllid, Mr Martyn Riddleston, a’r Prif Swyddog Trawsnewid, Mr Michael Flanagan. Mae Bethan wedi gweithio i Brifysgol Bangor ers 2005, yn gweithio’n gyntaf yn y Gwasanaethau Ystadau a Champws ac yna fel Cynorthwyydd Personol i Is-gangellorion blaenorol.

Mae Jaci yn cefnogi'r Prif Swyddog Gweithredol a Chofrestrydd, Dr Kevin Mundy, a'r Prif Swyddog Strategaeth a Chynllunio, Mr Mike Wilson. Mae Jaci yn un o’r aelodau tîm sydd wedi bod yma hiraf, ers ymuno â’r brifysgol ym 1996, gan ddechrau yn yr Ysgol Cyfrifeg, Bancio ac Economeg (fel y’i gelwid bryd hynny) am ddwy flynedd, cyn symud i’r Gofrestrfa Academaidd ym 1998. Ar ôl cefnogi’r Cofrestrydd Academaidd a’r tîm ehangach am dros 20 mlynedd, ymunodd Jaci â’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Corfforaethol yn 2018, fel Cynorthwyydd Personol.

Mae Heather yn cefnogi’r Dirprwy i’r Is-ganghellor, yr Athro Oliver Turnbull a’r Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil), yr Athro Paul Spencer. Mae Heather wedi bod gyda'r Brifysgol ers 20 mlynedd, i ddechrau fel Cynorthwyydd Personol i Bennaeth yr Ysgol Seicoleg. Ers 2011, mae Heather wedi darparu cefnogaeth Cynorthwyydd Gweithredol yn swyddfa’r Dirprwy Is-ganghellor i nifer o Ddirprwy Is-gangellorion gwahanol.

Mae Donna yn cefnogi’r Dirprwy Is-ganghellor (Addysg), yr Athro Nichola Callow a'r Prif Swyddog Marchnata Dros-dro, Mrs Patrcia Murchie. Cyn ei swydd bresennol, roedd Donna yn weinyddwr i’r GIG tra'n astudio HNC rhan-amser mewn Gweinyddu Busnes; Cynorthwyydd Personal am 20 mlynadd yn darparu cymorth cynorthwyydd personol mewn Marchnata, Celfyddydau Pontio; a Chynorthwyydd Gweithredol Cymorth i Ddeon Coleg y Gwyddorau Dynol ym Mhrifysgol Bangor, tra astudio gradd rhan-asmer.

Mae Karen yn cefnogi’r Dirprwy Is-ganghellor (Y Gymraeg, Cysylltiadau Dinesig a Phartneriaethau Strategol), yr Athro Andrew Edwards a’r Dirprwy Is-ganghellor (Ymgysylltu Byd-eang), yr Athro Paul Van Gardingen. Dechreuodd Karen weithio ym Mhrifysgol Bangor am y tro cyntaf yn 1996 fel Cynorthwyydd Swyddfa yn yr Ysgol Cyfrifeg, Bancio ac Economeg. Bu’n Gynorthwyydd Personol i uwch-aelodau staff y brifysgol ers dros ugain mlynedd, ar ôl gweithio i wahanol Benaethiaid Ysgolion, Penaethiaid Colegau ac yn fwy diweddar i Ddirprwy Is-gangellorion.