Y Canghellor

Canghellor Prifysgol Bangor yw Syr Robin Williams.

Y Canghellor yw pennaeth seremonïol y brifysgol ac un o’i llysgenhadon amlycaf sy’n gweithio gyda’r Is-ganghellor ac uwch swyddogion eraill i hyrwyddo llwyddiannau’r brifysgol, gartref a thramor.

Photo of Sir Robin, the University's Chancellor, in Bangor Graduation robes

Meddai Syr Robin, a raddiodd ei hun o Brifysgol Bangor ac sy’n eiriolwr cadarn dros natur ddwyieithog y Brifysgol, “Mae’n anrhydedd enfawr cael gwasanaethu fel Canghellor Prifysgol Bangor. Mae cael dychwelyd i’r sefydliad lle dechreuais ar fy ngyrfa academaidd yn anrhydedd arbennig ac rwy’n edrych ymlaen at allu rhoi rhywbeth yn ôl i’r Brifysgol wych hon.”

Ychwanegodd yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, “Mae’n bleser mawr gen i estyn croeso i Syr Robin sydd â hanes rhagorol a nodedig o wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ac a fydd o gymorth i godi proffil y brifysgol ac i ddatblygu ein cynlluniau uchelgeisiol a’n buddiannau yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”

Cafodd Syr Robin ei eni ar fferm fynydd yn Llanuwchllyn a chafodd ei addysg yn ysgol y pentref ac yna yn y Bala cyn mynd i astudio Ffiseg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle graddiodd yn gyntaf gyda BSc cyn mynd ymlaen i wneud PhD. Mae Syr Robin yn awdurdod ym maes lled-ddargludyddion ac mae ei ymchwil wedi bod yn bwysig yn natblygiad electroneg ddigidol a’r newidiadau pellgyrhaeddol ym maes cyfrifiadura a chyfathrebu. Bu’n gweithio'n agos gyda diwydiant ledled y byd a datblygodd ddulliau newydd o astudio lled-ddargludyddion ac roedd ymhlith y cyntaf i ddefnyddio ymbelydredd syncrotron i astudio arwynebau solidau.

Mae Syr Robin yn gyn-aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) lle bu’n gadeirydd y Pwyllgor Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu. Bu'n Is-ganghellor Prifysgol Abertawe am naw mlynedd gan ddechrau yn 1994.

Cafodd ei urddo’n farchog yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines yn 2019 am wasanaethau i addysg uwch, ymchwil a’r Gymraeg, ac mae Syr Robin wedi gwasanaethu ar lawer o gyrff polisi a chyrff cyllido yn rhyngwladol ac yn y Deyrnas Unedig ac ar grwpiau cynghori gweinidogol ar ddatblygiad economaidd ac addysg yng Nghymru.

Trwy gydol ei yrfa bu Syr Robin yn gefnogwr brwd i’r iaith Gymraeg ac yn 2010, ar ran Llywodraeth Cymru, bu’n gadeirydd ar fwrdd oedd yn rhoi ystyriaeth i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru. Arweiniodd ei adroddiad at sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd wedi trawsnewid y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu drwy’r Gymraeg.

Mae wedi cynghori llywodraethau Cymru a Phrydain yn rheolaidd ar agweddau ar wyddoniaeth ac mae’n gyn-gadeirydd Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru. Roedd yn aelod o Gyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi ac yn un o gymrodyr gwreiddiol Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Dyfarnwyd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2022 i Syr Robin am gyfraniad oes i wyddoniaeth.

Manylion Cyswllt: karen.williams@bangor.ac.uk

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?