'Pryd gollodd y boneddigion eu Cymraeg?'
Gŵyl Hanes Bangor
Ar brynhawn dydd Sadwrn, 18 Hydref, bydd Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru Dr Shaun Evans yn rhoi sgwrs o'r enw 'Pryd gollodd y boneddigion eu Cymraeg?' fel rhan o Ŵyl Hanes Bangor.
Yn draddodiadol, mae haneswyr wedi ystyried 'Seisnigeiddio' y bonedd fel nodwedd hollbwysig yn hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol Cymru ers Deddf Uno 1534 a 1543. Ac eto mae cryn ansicrwydd o hyd ynghylch pryd, pam ac i ba raddau y collodd y grŵp dylanwadol hwn y gallu i siarad Cymraeg. Yn y sgwrs hon, a gynhelir am 12yp yn ystafell PL2 ar Lefel 2 Pontio, mae Shaun yn archwilio'r berthynas rhwng y bonedd a'r iaith Gymraeg. Er gwaethaf dirywiad hirdymor defnydd y Gymraeg, mae'n canfod bod sawl tirfeddiannwr wedi cadw galluoedd a chysylltiadau â'r iaith Gymraeg i mewn i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r ymchwil yn taflu goleuni ar gymeriad ieithyddol y bonedd Cymreig a'u plastai, yn cynnig cipolwg pwysig ar ddeinameg y berthynas rhwng tenantiaid a thirfeddianwyr ar ystadau Cymru a gweinyddiaeth cyfiawnder mewn cymunedau Cymru, ac yn darparu cynnwys pwysig ar gyfer hanes dwyieithrwydd yng Nghymru.
Yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor (gan gynnwys Pontio), Cyngor Dinas Bangor, Storiel a Chadeirlan Bangor, mae gŵyl Hanes Bangor, sy'n para deuddydd, yn cael ei chynnal ddydd Gwener 17eg a dydd Sadwrn 18fed o Hydref 2025. Mae'n addo rhaglen gyfoethog o ddigwyddiadau ar draws pedwar lleoliad, pob un wedi'i gynllunio i ddod â hanes rhyfeddol Bangor yn fyw.
Bydd diwrnod llawn o weithdai, trafodaethau, arddangosfeydd rhyngweithiol, a sgyrsiau gwadd ddydd Sadwrn 18 Hydref, a bydd y rhan fwyaf ohonynt, gan gynnwys sgwrs Shaun, yn rhad ac am ddim i fynychu. Gweler y rhaglen lawn o ddigwyddiadau yma.
Bydd prif sgyrsiau’r ddwy noson yn cael eu traddodi gan ddau o haneswyr, awduron a darlledwyr mwyaf blaenllaw Prydain - Greg Jenner a’r Athro Kate Williams. Mae sgwrs Greg ar y dydd Gwener o’r enw ‘Ask a Historian: An Evening with Greg Jenner’ yn addo dod â hanes yn fyw gyda’i hiwmor a’i fewnwelediad nodweddiadol, tra bydd sgwrs Kate ar y dydd Sadwrn o’r enw ‘Queens, Castles and Welsh Heroines: Secrets Behind The Castle Walls’ yn datgelu straeon a gwaddol pwerus menywod nodedig yn hanes Cymru. Mae tocynnau ar gyfer y ddwy sgwrs hyn ar gael ar wefan Pontio.
