
Cwblhaodd Dr Matthew Rowland ei prosiect doethurol, a’r teitl ‘An Analysis of Country House Interpretation in Wales', yn 2023.
Mae gan Matthew radd BA mewn Hanes gydag Archaeoleg o Brifysgol Bangor ac MA mewn Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol o Brifysgol Efrog. Yn 2018 dychwelodd i Brifysgol Bangor i ymgymryd â'i brosiect doethuriaeth gyda Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, a gefnogwyd gan Gronfa Dreftadaeth Y Werin. Ymchwiliodd y prosiect i ddulliau dehongli treftadaeth mewn plastai ledled Cymru ac archwiliodd beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig i'r plastai ar draws meysydd treftadaeth a thwristiaeth. Dadleuodd eu bod yn nodwedd arwyddocaol yn nhreftadaeth ddiwylliannol Cymru, fyda'r potensial i weithredu fel canolfannau ar gyfer cyfleu naratifau pwysig am hanesion lleol, Cymreig, Prydeinig a byd-eang. Tua diwedd ei brosiect, cafodd Matthew y cyfle i rannu ei ymchwil gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol pan gafodd ei wahodd i weithdy i drafod dyfodol dehongliad y tai yn eu gofal. Gweithiodd Matthew yn rhan-amser fel Tywysydd Teithiau a Chynorthwyydd Croeso yng Nghadeirlan Caer ochr yn ochr â'i astudiaethau.
Ers cwblhau ei phrosiect, fe’i penodwyd Matthew yn Swyddog Treftadaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych. Yn y rôl hon mae'n gweithio i ceisio cynyddu'r nifer o ymwelwyr ar draws safleoedd treftadaeth Cyngor Sir Ddinbych, gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd (Llangollen), Nantclwyd y Dre, ac Amgueddfa’r Rhyl. Mae'n angerddol iawn dros wella mynediad at dreftadaeth.