Apêl gan Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru
Mae Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yn sefydliad treftadaeth cenedlaethol sy'n ymwneud â diogelu a chadw parciau, gerddi a thirweddau dyluniedig hanesyddol yng Nghymru; maent yn bartner allweddol i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Ar hyn o bryd, maent yn chwilio am swyddogion newydd i sicrhau y gallant barhau i weithredu'n gynaliadwy.
Allwch chi chwarae rhan yn nyfodol Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru?
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru ym 1989 a daeth yn elusen gofrestredig ym 1994. Mae'n cynnwys sawl Cangen Sirol, sef Brycheiniog a Maesyfed, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Clwyd, Gwynedd, Sir Fynwy a Gwent, Sir Benfro, De a Chanol Morganwg, a Gorllewin Morganwg.
Nod yr Ymddiriedolaeth yw ymgyrchu i achub gerddi hanesyddol yng Nghymru rhag 'esgeulustod, difaterwch, cynllunio ansensitif a phlannu amhriodol'. Maent yn monitro ac yn ymgynghori ar geisiadau cynllunio, yn rhoi cyngor cadwraeth i berchnogion, ac yn cefnogi prosiectau treftadaeth trwy grantiau bach. Y nod yw sicrhau bod y gerddi hanesyddol hyn yn goroesi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Maent hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o erddi hanesyddol yng Nghymru, rhai mawr a bach. Maent yn gwneud hyn drwy hyrwyddo ymchwil newydd ar erddi, a gyhoeddir yn eu cyfnodolyn Gerddi a'u cylchlythyr gwych The Bulletin, sydd bellach yn ei 85fed rhifyn. Mae dwy gangen wedi cynhyrchu arolygon gwych o erddi arwyddocaol yn eu rhanbarthau, sef Historic Gardens of the Vale of Glamorgan a Historic Parks and Gardens in Ceredigion. Mae aelodau'r Ymddiriedolaeth hefyd wedi cynhyrchu amrywiaeth o gyhoeddiadau, gan gynnwys llyfr Mary Gwynedd Jones ar Elizabeth Morgan o Henblas, Ynys Môn, a lansiwyd mewn cysylltiad ag arddangosfa yn Amgueddfa Storiel yn 2019.
Mae eu gwaith pwysig yn cyd-fynd â nod Sefydliad Ymwchil Ystadau Cymru i ddangos bod ystadau tiriog, gan gynnwys gerddi ffurfiol a thirweddau wedi'u dylunio, yn rhan annatod o hanes Cymru, ac felly dylent chwarae rhan annatod yng nghymdeithas Cymru heddiw.
Er bod Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yn ddiogel o ran ei strwythur, ei phwrpas a'i chyllid, mae ei gweithrediad o ddydd-i-ddydd yn dibynnu ar ei bwrdd canolog o swyddogion ac ymddiriedolwyr gwirfoddol, ac maent yn wynebu anawsterau sylweddol wrth ddod o hyd i unigolion newydd i ymgymryd â rolau allweddol o fewn y sefydliad. Maent yn chwilio'n benodol am Gadeirydd, Ysgrifennydd, Swyddog Cynllunio, a Golygydd Bwletin a Chyhoeddiadau newydd.
Os oes gan unrhyw un o'n cefnogwyr awydd llenwi'r swyddi hyn, cysylltwch â'r Ymddiriedolaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost canlynol: admin@whgt.wales.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnal cyfarfod brys i drafod eu dyfodol ym Mhlas Dolerw yn y Drenewydd, Sir Drefaldwyn ddydd Llun, 23 Mawrth 2026 am 11.30y.b. Dylai unrhyw un sy'n dymuno mynychu'r cyfarfod gysylltu â'r Cadeirydd, Joanna Davidson (drwy admin@whgt.wales).
Meddai Dr Shaun Evans, ein Cyfarwyddwr: ‘‘Dros y 30+ mlynedd diwethaf, mae Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru wedi chwarae rhan mor bwysig wrth hyrwyddo ymwybyddiaeth o gynifer o’r tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol sy’n gysylltiedig â phlastai Cymru, a’u diogelu. Maent yn un o’n partneriaid allweddol. Mae’r heriau cyfoes enfawr yr ydym yn eu hwynebu o ran defnydd tir, colli bioamrywiaeth, newid hinsawdd, yr amgylchedd, polisi cynllunio, mynediad at fannau gwyrdd, iechyd meddwl, twristiaeth gynaliadwy ac adfywio economaidd gwledig (a mwy) yn golygu bod rôl Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yn bwysicach nag erioed. Mae’n gwbl hanfodol bod Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yn parhau i ffynnu fel endid gweithredol ac ymgysylltiedig i’r dyfodol. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn eu gwaith, a’r gallu i helpu, i ddod ymlaen.’’