Nannau ar restr o 10 Adeilad Hanesyddol sydd mewn Perygl
Bob blwyddyn ers 2022, mae'r sefydliad cadwraeth, The Georgian Group, wedi llunio rhestr o ddeg adeilad a thirwedd o'r ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd mewn perygl yng Nghymru a Lloegr. Mae'r rhestr yn tynnu sylw at adeiladau a thirweddau sydd wedi'u hesgeuluso ond 'gall a ddylai gael dyfodol disglair'. Datgelwyd rhestr 2025 ym mis Rhagfyr, gyda'r slogan 'stop the rot', ac mae'n cynnwys plasty Neo-glasurol Nannau yn Llanfachreth, Gwynedd. Roedd ystâd Nannau yn gartref i deuluoedd pwerus Nanney a Vaughan am ganrifoedd ac yn ganolfan foneddigaidd flaenllaw yn hen sir Feirionnydd. Adlewyrchir hyn yn statws rhestredig Gradd II* y plasty, sy'n cael ei ddisgrifio fel 'tŷ rhanbarthol pwysig iawn o ddiwedd y ddeunawfed ganrif'. Fodd bynnag, mae'r plasty wedi newid dwylo sawl gwaith ers canol yr ugeinfed ganrif, ac mae wedi bod mewn cyflwr o ddirywiad sylweddol ers 2020. Ar ôl ymddangos ar restr gyntaf The Georgian Group o adeiladau mewn perygl yn 2022, mae ei ddychweliad i'r rhestr yn 2025 yn atgof clir bod y plasty yn parhau i ddirywio ac mewn perygl go iawn o gael ei golli'n gyfan gwbl oni bai bod camau gweithredol yn cael eu cymryd ar unwaith.
Mae Plas Nannau wedi'i leoli ger pentref Llanfachreth; rhyw dair milltir i'r gogledd o Ddolgellau, tref y mae'n gysylltiedig yn agos â hi. Yn ôl y sôn, Cadwgan mab Bleddyn ap Cynfyn, Tywysog Powys, a adeiladodd y tŷ cyntaf ar y safle, a gofnodwyd tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg, pan ddaeth yn Arglwydd cyntaf Nannau. Parhaodd llinach wrywaidd teulu Nanney yn ddi-dor tan ddechrau'r ddeunawfed ganrif, ond trosglwyddwyd yr ystâd i deulu Vaughan o Hengwrt trwy briodas etifeddes Nanney, Janet, â Robert Vaughan.
Cafodd eu mab Syr Robert Hywel Vaughan (1723–1792) ei greu’n Farwnig 1af ac ef a adeiladodd y Plas Nannau presennol – y pumed tŷ i sefyll ar y safle. Credir bod Syr Robert wedi addasu’r dyluniad ar gyfer ei blasty o lyfr o ddyluniadau tai gan y pensaer P. F. Robinson, gan ychwanegu elfennau Tuduraidd. Ar ôl marwolaeth Syr Robert ym 1792, disgynnodd y dasg o adeiladu’r plasty i’w fab a’i olynydd Syr Robert Williames Vaughan, 2il Farwnig (1768–1843), a chyflogodd y pensaer proffesiynol Joseph Bromfield i ddylunio adenydd y pafiliwn a’r addurniadau mewnol. Cwblhawyd y plasty ym 1805, ac mae ganddo olwg Neoglasurol gymedrol gyda chynllun sgwâr. Er i adenydd y pafiliwn gael eu dymchwel yn y 1960au, mae Plas Nannau wedi'i restru'n Radd II*. Yn ogystal, hwn yw un o'r plastai uchaf ym Mhrydain Fawr, wedi'i leoli 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Yn hanesyddol, yn bensaernïol ac yn olygfaol, mae Nannau o bwys mawr.
Disgrifiwyd y cyfnod Sioraidd fel ‘oes aur Nannau’. Nid yn unig y cafodd y tŷ ei ailadeiladu, ond ehangwyd yr ystâd i 10,164 erw a chodwyd ffyrdd cerbydau newydd, bwâu, ffermydd a lletyau. Rydym yn argymell ymweliad â gwefan Nannau, sy'n archwilio hanes y bobl, yr adeiladau a'r tirweddau sy'n gysylltiedig â'r ystâd, gan gynnwys deunydd archifol megis ffotograffau, catalogau arwerthiant a mapiau.
Ar ôl dros 900 mlynedd o feddiannaeth barhaus, gwerthodd y teulu y plasty ym 1965 a'r ystâd ffermio ym 1975. Ym 1975, gweithredodd y plasty fel gwesty am gyfnod byr, ond mae wedi newid dwylo sawl gwaith ers hynny ac mae ei gyflwr wedi dirywio'n raddol; credir bod y perchennog presennol wedi bod ym meddiant Plas Nannau ers 2001, ac erbyn hynny dim ond cragen o adeilad ydoedd. Fodd bynnag, mae dirywiad y plasty wedi gwaethygu ers 2020, pan gafodd plwm ei ddwyn o'r to, gan arwain at ddifrod sylweddol gan ddŵr. Yn ogystal â bod ar restr 'Top 10 Heritage Buildings at Risk' The Georgian Group yn 2022 a 2025, Plas Nannau oedd adeilad y mis Society for the Protection of Ancient Building’s (SBAB) ym mis Mai 2021; fe'i hychwanegwyd at gofrestr 'Buildings at Risk' SAVE Britain's Heritage yn 2023; ac roedd hefyd yn adeilad y mis SAVE ym mis Chwefror 2024. Mae 3,784 erw o dir ystâd hanesyddol Nannau, sydd bellach wedi'i wahanu oddi wrth y plasty, ar werth gyda Savills ar hyn o bryd.
Tynnwyd sylw at arwyddocâd hanesyddol ystâd Nannau yn y cyhoeddiad Nannau: A Rich Tapestry of Welsh History, a lansiwyd yng Nghorsygedol ar y cyd ag Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn ôl yn 2016. Dywedodd yr awdur Philip Nannau Williams, disgynnydd i deulu Nanney, wrthym fod: “y ffaith bod hanes Nannau mor gysylltiedig â digwyddiadau mawr yn hanes a diwylliant Cymru, wedi arwain y diweddar Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a oedd yn uchel ei barch, i ddatgan bod y cyhoeddiad yn ‘Llyfr pwysig i’r Genedl Gymreig'. Mae'n debyg mai'r plasty Sioraidd presennol yw'r pumed i gael ei hadeiladu ar y safle, gyda'r strwythur cynharaf y gwyddys amdano wedi'i godi yn yr unfed ganrif ar ddeg gan ddisgynyddion Cadwgan ap Bleddyn, Tywysog Powys. Mae bellach yn sefyll yn anghof, sy'n ffawd drist i dŷ mor fonheddig, ond nid yw wedi'i anghofio gan fod pryder dwys am ei gyflwr yn amlwg, yn genedlaethol a thu hwnt.'
Mae Thomas Lloyd, aelod o Fwrdd Ymgynghorol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ac awdur The Lost Houses of Wales: a survey of country houses in Wales demolished since c.1900, a gyhoeddwyd gan SAVE Britain’s Heritage ym 1986, yn ychwanegu bod “y posibilrwydd y bydd y plasty arbennig hwn yn cael ei ychwanegu at y catalog o dai coll yn erchyll. Mae’n warthus pan ystyrir y gwarchodaethau statudol ar gyfer adeiladau rhestredig sydd mewn lle, ac yn nwylo’r awdurdodau perthnasol. Pam nad oes dim wedi’i wneud? Yn hanesyddol, yn bensaernïol ac yn olygfaol, mae Nannau wir yn bwysig.”
Yn wir, mae angen gwaith atgyweirio brys i atal mwy o ddŵr rhag ddod i mewn a dirywiad pellach; mae ymdeimlad cryf bod amser yn rhedeg allan i Blas Nannau.
Meddai Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, fod “y posibilrwydd o golli Nannau – tŷ ac ystâd sydd mor gysylltiedig â hanes, diwylliant a thirwedd ei ardal a Chymru – yn warthus. Rhaid inni weithio i greu dyfodol i’r lle arbennig hwn a bod yn barod i weithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r gymuned leol fel rhan o’r ymdrech hon”.
(Gan Dr Bethan Scorey)