Plas Gunter a Gregynog yn derbyn cyllid o'r Cronfa Treftadaeth
Mae dau ymddiriedolaeth elusennol sy'n gofalu am dai hanesyddol rhestredig Gradd II* yng Nghymru wedi derbyn arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Rydym wrth ein bodd yn clywed bod Ymddiriedolaeth Plas Gunter wedi derbyn Grant Cyflawni o £3.3 miliwn tuag at adnewyddu Plas Gunter, tŷ tref o'r ail ganrif ar bymtheg sydd ag arwyddocâd crefyddol arbennig yn y Fenni, Sir Fynwy. Rydym hefyd wrth ein bodd yn clywed y newyddion bod Ymddiriedolaeth Gregynog wedi derbyn Grant Datblygu o tua £900,000 tuag at adfer Neuadd Gregynog, plasty gwledig o bwysigrwydd cenedlaethol yn Nhregynon, Sir Drefaldwyn. Nid yn unig y bydd y grantiau hyn yn helpu i cynnal a chadw ffabrig hanesyddol, ond byddant hefyd yn helpu i sicrhau dyfodol i'r ddau blasty pwysig hyn, trwy ganiatáu i Blas Gunter agor i'r cyhoedd am y tro cyntaf erioed, a thrwy sicrhau bod Gregynog yn parhau i weithredu fel canolfan ar gyfer diwylliant, celf, llenyddiaeth a cherddoriaeth yng Nghymru, a thrwy hynny barhau â gwaddol y chwiorydd Davies.
Y Cronfa Dreftadaeth, sy'n buddsoddi arian a godir ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yw'r ariannwr treftadaeth mwyaf yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Fel rhan o'u strategaeth 10 mlynedd ar gyfer 2023–33, Treftadaeth 2033, eu nod yw buddsoddi dros £1biliwn mewn prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth.
Yn gyntaf, awn i'r Fenni, a'i thŷ tref diddorol ar Stryd y Groes o'r enw 'Plas Gunter'. Yn 2011, sefydlwyd ymddiriedolaeth cadwraeth adeiladau o'r enw 'Ymddiriedolaeth Sioraidd Cymru' i achub adeiladau Sioraidd mewn perygl yng Nghymru. Un o'r tai a gymerasant oedd Plas Gunter, sydd wedi'i restru fel adeilad Gradd II*, a oedd wedi mynd i gyflwr gwael. Adeiladwyd rhan gynharaf y plasty gan Thomas Gunter (1569–1666/7) tua 1630, ac fe'i hehangwyd wedi hynny gan ei fab, Thomas arall (1627–1710/11). Gwelodd ailfodelu sylweddol yn y cyfnod Sioraidd a gosodwyd ffryntiau siopau ar ffasâd y stryd ym 1908. Mae arwyddocâd crefyddol sylweddol ynghlwm wrth yr adeilad: roedd y teulu Gunter yn Gatholigion Rhufeinig yn ystod y Diwygiad Protestannaidd, ac fe wnaethant sefydlu capel cyfrinachol yn yr atig, gan gynnal offerennau anghyfreithlon.
Daeth Ymddiriedolaeth Sioraidd Cymru yn Ymddiriedolaeth Plas Gunter yn 2020, ac ar ôl derbyn Grant Datblygu o £222,340 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn 2024, maent bellach wedi derbyn Grant Cyflawni o £3,365,702. Bydd y Grant Cyflawni yn galluogi'r Ymddiriedolaeth i wneud yr adeilad yn ddiogel, yn hygyrch ac yn fwy cynaliadwy, gan ganiatáu iddynt agor yr ystafelloedd hynaf yn y plasty, gan gynnwys yr hen gapel yn yr atig, i'r cyhoedd am y tro cyntaf erioed. Maent hefyd yn bwriadu cael gwared ar ychwanegiadau ac addasiadau diweddarach ac adfer sawl nodwedd allanol a mewnol wreiddiol, gan gynnwys y nenfwd plastr addurnedig yn y Parlwr a'r paentiad o Addoliad y Doethion ar wal yr hen gapel yn yr atig. Y nod yw trawsnewid y plasty yn ganolfan ddiwylliannol a chymunedol fywiog, a fydd yn cynnwys dehongli ac orielau newydd, yn ogystal â swyddfeydd a gofod amlbwrpas hyblyg i gynhyrchu incwm ac adfywio Cross Street.
Mae'n rhaid i Ymddiriedolaeth Plas Gunter godi £500,000 mewn cyllid cyfatebol, ac roedd £365,500 ohono wedi'i godi erbyn diwedd 2025. Mae gwaith adfer ar y gweill ar hyn o bryd, ac mae'r Ymddiriedolaeth yn gobeithio cwblhau'r prosiect ac agor y plasty ym mis Mawrth 2028.
Adeiladwyd Neuadd Gregynog bresennol yn y 1840au gan Charles Hanbury-Tracy, Barwn 1af Sudeley (1778–1858), i gymryd lle tŷ cynharach ar y safle hwn ar gyrion Tregynon. Mae wedi'i restru Gradd II* am ei 'ddefnydd cynnar o goncrit', gan fod ei waliau brics wedi'u gorchuddio â choncrit wedi'i lunio a'i beintio'n arbennig i efelychu adeiladau ffrâm bren brodorol hen Sir Drefaldwyn. Mae Gregynog yn fwyaf adnabyddus fel cyn gartref y chwiorydd Davies, Gwendoline (1882–1951) a Margaret (1884–1963), a brynodd y plasty ym 1920 a'i drawsnewid yn ganolfan ar gyfer y celfyddydau. Yma y gwnaethon nhw sefydlu Gwasg Gregynog; sefydlu Gŵyl Gerdd Gregynog ar gyfer cerddoriaeth glasurol a noddu Elgar, Vaughan Williams a Holst; a chreu casgliad o weithiau celf gan Argraffiadwyr ac Ôl-Argraffiadwyr Ffrengig, gan gynnwys Renoir, Monet, Cézanne, Van Goghoedd, a adawyd yn ddiweddarach i Amgueddfa Cymru. Mewn gwirionedd, mae'r cysylltiad â'r chwiorydd Davies a Gwasg Gregynog yn rheswm arall dros statws Gradd II* y plasty. Yn ogystal, mae'r ardd ffurfiol sy'n cyd-fynd â'r plasty wedi'i dynodi'n Radd I fel 'un o'r parciau a'r gerddi pwysicaf ym Mhowys'. Mae'r Neuadd a'r ardd ffurfiol yng nghanol ystâd wledig 750 erw, sy'n cynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol o bwys rhyngwladol.
Mae Neuadd ac Ystâd Gregynog wedi cael eu rheoli gan Ymddiriedolaeth Gregynog elusennol ers 2019. Mae'r Neuadd yn darparu 58 o ystafelloedd gwely ar gyfer cynadleddau preswyl a diwrnodau addysg, tra bod yr ystâd 750 erw yn cael ei rheoli ar gyfer adfer natur a mynediad i'r cyhoedd. Fodd bynnag, mae diffyg atgyweirio a chynnal a chadw cyn perchnogaeth yr Ymddiriedolaeth yn golygu bod angen adnewyddu to cyfan y Neuadd ar frys, ac felly mae nhw wedi lansio 'Codi'r To', prosiect uchelgeisiol bydd yn para tua thair i bedair blynedd. Ar ôl derbyn grant gan Architectural Heritage Fund ar gyfer cam un, sef atgyweirio hanfodol i atal dirywiad pellach, mae Ymddiriedolaeth Gregynog bellach wedi derbyn Grant Datblygu o £866,591 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer paratoi dyluniadau ar gyfer y to newydd a chynnal cyfres o ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar y celfyddydau a natur.
Mewn ail gam, bydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn asesu cynigion manwl Ymddiriedolaeth Gregynog a gwneir penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi'r Grant Cyflawni llawn o £4,100,729, a fyddai'n caniatáu i'r ail-doi fynd rhagddo.
Mae Gregynog yn arbennig iawn i Sefydliad Ymcwhil Ystadau Cymru, oherwydd hanes cynharach y tŷ a'r ystâd oedd pwnc prosiect doethuriaeth Dr Mary Oldham, a gwblhawyd yn 2024. Ymchwiliodd Mary i hanes yr ystâd yn y cyfnod 1750–1900 ac archwiliodd le Gregynog fel ystâd dirfeddiannol yn hanes economaidd a chymdeithasol Cymru; mae hi wrthi'n addasu ei thraethawd hir i'w gyhoeddi ar hyn o bryd. Mae Sefydliad Ymcwhil Ystadau Cymru hefyd wedi cynnal sawl gweithdy yng Ngregynog, gan gynnwys gweithdy i'n cymuned ddoethurol ym mis Mehefin 2025, a rhaglen o weithdai yn trafod 'Tai Hanesyddol ar gyfer yr 21ain Ganrif'.
Hoffai Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru estyn ein llongyfarchiadau cynnesaf i'n ffrindiau, Ymddiriedolaeth Plas Gunter ac Ymddiriedolaeth Gregynog, ar eu llwyddiant. Edrychwn ymlaen at weld effaith drawsnewidiol y grantiau hyn!
(Gan Dr Bethan Scorey)