Dewch i fyw yn un o’n neuaddau myfyrwyr!
Llety hollgynhwysol gyda aelodaeth champfa, golchdai, digwyddiadau Capus Byw bob wythnos, rhyngrwyd arobryn, diogelwch 24 awr, cymorth Mentoriaid a cynnal a chadw ar y safle….a dim costau cudd!
Cynnig anhygoel ar gyfer archebion a wnaethpwyd cyn Ionawr 31ain 2022: DIM OND £1 o flaendal a ffioedd wedi eu rhewi ar brisiau 2021/22!
Dewch i'n gweld ni yn eich Swyddfa Neuaddau agosaf am sgwrs ynglŷn â'ch opsiynau. #CARUNEUADDAU
Dewch i fyw yn un o’n neuaddau dychwelwyr yn unig, archebwch gyda’ch ffrindiau a dewiswch eich ystafell ym Mhentref Ffriddoedd neu Bentref y Santes Fair.
Addewid Covid – teimlwch yn ddiogel wrth arwyddo gyda ni
Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, mae’r adran Neuaddau eisiau i chi deimlo’n ddiogel wrth arwyddo cytundeb llety newydd gyda ni, ac i wybod eich bod wedi eich amddiffyn os yw pethau’n newid.
Dyma pam yr ydym wedi diweddaru amodau a thelerau ein cytundeb i’ch diogelu rhag y canlynol:
- Os yw’r llywodraeth neu reoliadau lleol yn gofyn i’r Brifysgol gau, ni fydd gofyn i chi dalu rhent am unrhyw gyfnod ble nad ydych yn cael byw yn eich llety.
- Os yw’r Brifysgol yn cau neuaddau preswyl, ni fydd gofyn i chi dalu rhent dros y cyfnod cau.
- Os yw’r Brifysgol yn penderfynu cau neuaddau preswyl am hirach na 4 wythnos, bydd gennych yr hawl i ganslo eich cytundeb, yn hytrach na dychwelyd pan mae’r llety yn ail-agor.
Gallwch weld amodau llawn y cytundeb yma
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu eisiau sgwrs am eich opsiynau, yna cysylltwch gyda ni drwy e-bostio neuaddau@bangor.ac.uk.

Pentref Ffriddoedd
- Glaslyn
- Gwynant
- Elidir R – Distaw
- Glyder bloc T
- JMJ – Bryn Dinas
- Ystafelloedd gofal iechyd bloc X, Borth

Pentref Santes Fair
- Tai Trefi
- Stiwdios
- Cybi
- 12 Ffordd Tudno - Ol-radd