Neuadd Snowdon
Gall darpar fyfyrwyr Radiograffeg wneud cais i fyw yn Neuadd Snowdon Hall yn Wrecsam

Yn anffodus, oherwydd nifer cyfyngedig o ystafelloedd, ni allwn warantu lle mewn llety ar gampws Wrecsam.
Mae Wrecsam yn ddewis delfrydol i fyfyrwyr sy'n dymuno cael y profiad gorau o fyw'nfodernmewn tref groesawgar, gyda sawl parc, oriel ac amgueddfa.
Mae gan y Brifysgol nifer o ystafelloedd yn Neuadd Snowdon yn Wrecsam. Mae'r lle
ty ofewn pellter cerdded o ganol y dref a’r prif adeiladau’r Brifysgol.
Mae'r ystafelloedd yn cael eu trefnu mewn fflatiau o 6 ystafell gyda chegin i’w rannu.Mae'r holl ystafelloedd yn cynnwys ystafell gawod en-suite.
Dylai myfyrwyr ddarparu eu dillad gwely, tywelion, potiau, sosbenni, cyllyll a ffyrc a llestri eu hunain. I gysylltu gyda’r rhyngrwyd gall wneud hyn drwy drefnu gyda’r Rheolwr Neuaddau.
Ymgeiswyr sydd wedi dewis campws Bangor fel eu dewis pendant, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost. Ar ôl i chi dderbyn e-bost, gallwch wneud cais ar-lein.

Cost a hyd y cytundeb
Hyd y cytundeb: 17 Medi 2023 – 10 Awst 2024
Rhent ar gyfer 2023/24 - £4,685.71 (tua £100 yr wythnos). Mae hyn yn cynnwys:
- pob bil
- wi-fi
- yswiriant
- staff 24 awr
- glanhau ardaloedd cymunedol yn wythnosol
- holl waith cynnal a chadw