Pam byw mewn neuadd?
Mae byw mewn neuaddau preswyl yn ffordd wych o gael y gorau o'ch profiad prifysgol - cyfle i wneud ffrindiau newydd, ac i chi ymlacio wrth i chi fyw oddi cartref. Mae ein holl llety o fewn pellter cerdded i brif adeiladau'r Brifysgol, siopau, caffis, bariau, canolfannau ffitrwydd, golchiadau ac ystafelloedd cyffredin, felly ni fydd yn rhaid i chi grwydro'n bell.
Llety o ansawdd da

Mae ein Llety yn cydymffurfio gyda Chôd Ymarfer Universities UK er mwyn Rheoli Llety Myfyrwyr. Mae'r Brifysgol wedi tanysgrifio i Gôd Llety Myfyrwyr Universities UK sydd wedi ei lunio i amddiffyn eich hawl i lety diogel o ansawdd da, lle bynnag yr ydych yn astudio, ac i wneud yn siŵr eich bod yn cael y defnydd gorau posib o'ch amser yn byw mewn llety Prifysgol neu goleg.
Cyfleusterau da a chyfleus i'r Brifysgol
Mae ein holl lety yn hunanarlwyo, ac mae gan y mwyafrif ystafelloedd ymolchi preifat, gyda chyfleusterau cegin a rennir.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod gennym rai o'r llety myfyrwyr gorau yn y DU - fe wnaethom ennill y 3ydd safle am lety yng Ngwobrau What Uni 2019.
Mae Neuadd John Morris-Jones (JMJ) ym Mhentref Ffriddoedd yn gartref i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr sydd eisiau byw mewn awyrgylch Gymreig. Gwyliwch y fideo i wybod mwy am fywyd yno.
Fideo - Bywyd yn Neuadd John Morris-Jones
Sicrwydd o lety yn y flwyddyn gyntaf
Os mai ni yw eich Dewis Cadarn, rydym yn sicrhau ystafell ar eich gyfer yn ystod y flwyddyn gyntaf o'ch gradd israddedig, cyn belled â'ch bod yn astudio cwrs sy'n cychwyn fis Medi ac yn gwneud cais cyn y dyddiad cau. Byddwn yn anfon e-bost atoch pan ddaw'n amser ymgeisio a byddwch yn gallu dewis yr ystafell rydych chi am fyw ynddi trwy ein system archebu ar-lein.
Mae ein holl lety'n hunanarlwyo ac mae gan y mwyafrif o'n hystafelloedd ystafelloedd ymolchi preifat en-suite. Mae ein holl neuaddau preswyl o fewn pellter cerdded i brif adeiladau'r Brifysgol a chanol y ddinas.
Cymerwch gip ar ein map campws i weld lle mae ein llety.
Beth sydd yn gynwysiedig?
Mae pob preswylfa ar y campws yn cynnwys:
- Wi-fi a chysylltiad i'r rhyngrwyd gyda gwifren
- Holl filiau (rhyngrwyd, dŵr, gwres, trydan) wedi'i gynnwys gyda rhent
- Aelodaeth o'r gampfa a Campws Byw
Sut i wneud cais
Ymgeiswyr cartref (y DU/Iwerddon ): Mae'r system archebu llety yn agor Ddydd Mercher, 26 Ionawr 2022, ac os mai ni yw eich Dewis Cadarn drwy UCAS byddwn yn anfon e-bost atoch i'ch gwahodd i wneud cais am ystafell mewn neuaddau. Rhaid i chi wneud cais cyn 31 Gorffennaf i gael sicrwydd o ystafell.
Ymgeiswyr rhyngwladol : Os ydych yn ymgeisydd rhyngwladol, bydd y warant yn dibynnu ar eich bod yn dal cynnig Cadarn i astudio ym Mhrifysgol Bangor. Ewch i'n tudalen we am lety i fyfyrwyr rhyngwladol am fwy o fanylion
Aelodaeth o'r gampfa a Champws Byw yn gynwysiedig
Mae aelodaeth o'r gampfa a Champws Byw wedi'i gynnwys ar gyfer pob myfyriwr sy'n byw yn llety'r Brifysgol. Gallwch ddefnyddio'r brif ganolfan chwaraeon ym Mhentref Ffriddoedd, Canolfan Brailsford, neu'r ystafell ffitrwydd ym Mhentref y Santes Fair.
Mae Campws Byw yn rhaglen o ddigwyddiadau sy'n rhedeg trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys nosweithiau ffilm, cwisiau, tripiau a gweithgareddau awyr agored.
Mae'n ddrwg gennym nad yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n byw ar Gampws Wrecsam, ac mae ffioedd neuaddau yn Wrecsam yn cael eu haddasu yn unol â hynny.
Mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sy'n astudio yn Wrecsam.
Llwytho'r wybodaeth i lawr
I gymharu cyfleusterau, prisau a hyd cytundebau gallwch lwytho i lawr y wybodaeth ar ffurf PDF.
Gwybodaeth i fyfyrwyr Israddedig
Gwybodaeth i fyfyrwyr Ôl-raddedig
Pentrefi Llety
Mae gennym ddau bentref llety, Ffriddoedd a Santes Fair. Mae'r ddau o fewn pellter cerdded o brif adeiladau'r Brifysgol a chanol y ddinas.