Symposiwm Merched ym Myd Cyhoeddi - ariannwyd gan Gronfa Bangor
Merched o bob rhan o'r byd cyhoeddi yn siarad am eu profiad o'r diwydiant mewn symposiwm undydd
Ariannwyd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn gan Gronfa Bangor Prifysgol Bangor a'i noddi gan Ganolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys Helgard Krause (Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Llyfrau Cymru ac un o 150 o bobl fwyaf dylanwadol ym maes cyhoeddi yn ôl y Booksellers’ 150), dau olygydd gwasg Honno, Heather O'Connell o Bluebird Consulting, a thri entrepreneur cyhoeddi ifanc sydd wedi sefydlu a golygu fformatau arloesol i gylchgronau a chyfnodolion fel Lumin ac Y Stamp yn y Gymraeg.
Er i Storm Dennis daro Gogledd Cymru gyda gwyntoedd cryfion a glaw trwm, llenwodd siaradwyr a gwesteion Neuadd Matthias ym Mhrifysgol Bangor am ddiwrnod llawn o siaradwyr a thrafod, gan gynnwys pymtheg o ferched o’r Ysgolion Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth a Cherddoriaeth a’r Cyfryngau. Cafodd y rhai a oedd yn bresennol fewnwelediad i’r byd cyhoeddi (gan gynnwys pa awduron enwog sydd ymhlith y sillafwyr gwaethaf) a’r cyfleoedd sydd gan ferched ym maes cyhoeddi.
Mae'r diwydiant cyhoeddi yn cynnig cyfleoedd ardderchog i ferched, ond mae'r rhwystrau a'r gwahaniaethu yn aml yn gwrthbwyso'r rhain. Yn ôl arolwg yn 2019 gan Publishers Weekly yn yr Unol Daleithiau, merched sy'n dal tua 80% o’r swyddi cyhoeddi ond dim ond 52% o'r swyddi rheoli ar hyn o bryd.[1] Er bod gan y diwydiant cyhoeddi llyfrau yn y Deyrnas Unedig gyfran debyg o ferched yn y diwydiant, mae'r cyfran mewn swyddi rheoli yn sylweddol is, gyda'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mor uchel â 40% mewn rhai cwmnïau[2].
Mae gan Heather O'Connell, ymgynghorydd/hyfforddwr a sylfaenydd Bluebird Consulting, dros ugain mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyhoeddi, ac mae hi wedi gweithio ei ffordd i fyny o swydd rheolwr i swyddi uwch reolwyr gyda Penguin a Harper Collins. Mae hi’n credu mai pobl sy’n allweddol i lwyddo:
“Mae cyhoeddi yn ddiwydiant gwych gyda llawer o ferched anhygoel, deinamig a disglair er bod llawer o'r problemau sy'n gynhenid mewn busnes yn y diwydiant, dynion sy'n dal y rhan fwyaf o'r swyddi gorau, mae'n anoddach i entrepreneuriaid sy'n ferched gael cyllid ac nid ydym wedi osgoi effeithiau (hashnod)Metoo. Mae digwyddiadau fel hyn yn sicrhau bod yna gronfa gynyddol ac ysbrydoledig o ferched yn ymuno â'r diwydiant.”
Mae merched yn wynebu heriau tebyg i gael llais trwy eu cyhoeddi. VIDA: Mae Women in Literary Arts yn cynnal “The VIDA Count”, sef arolwg blynyddol o gynnwys a gyhoeddir mewn cyfnodolion llenyddol yn yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig. Yn ôl eu hadroddiad diweddaraf, dim ond 20% o gyhoeddiadau llenyddol mawr sydd â chydbwysedd rhyw o 50% neu fwy, ond i rai mae canran y gwaith gan ferched mor isel â 27% yn rheolaidd.[3] Mae ystadegau o'r fath yn awgrymu bod safle merched yn y diwydiant cyhoeddi yn un cymhleth ac esblygol ac yn nodi, er gwaethaf amlygrwydd merched yn y maes yn gyffredinol, bod heriau sylweddol o hyd i gydraddoldeb rhyw.
Mae’r gynhadledd hon yn tynnu sylw at yr heriau hyn ac yn ennyn diddordeb myfyrwyr Prifysgol Bangor a chymuned lenyddol Cymru wrth ystyried dulliau arloesol o sicrhau gyrfa yn y byd cyhoeddi.
[1] Milliot, J. (2019, 15 Tachwedd). The PW Publishing Industry Salary Survey, 2019. Publishers Weekly.
[2] Page, B. (2018, Mawrth 29). Four more academic publishers reveal gender pay gaps. The Bookseller.
[3] Garcia, S. F., & Kocher, R. E. (2019). The 2018 VIDA Count. VIDA: Women in Literary Arts.