Lansio Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru yn yr Eisteddfod
Ddydd Sul 6 Awst 2023 ym Mhabell Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, lansiwyd Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru yng nghwmni cyd-gyfarwyddwyr newydd y Ganolfan, rhai o aelodau ei Bwrdd, a siaradwr gwadd diddorol iawn.
Mae Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru wedi bodoli mewn diwyg amrywiol ers 1979, pan y’i sefydlwyd gyntaf gan Rheinallt Thomas. Gyda threigl y blynyddoedd, mae’r Ganolfan wedi esblygu wrth i gymdeithas newid a gwahanol agweddau eu hamlygu eu hunain. Bellach, mae dau ddarlithydd o Brifysgol Bangor wedi eu penodi’n gyd-gyfarwyddwyr y Ganolfan, sef Dr Joshua Andrews (darlithydd Moeseg a Chrefydd) a Dr Gareth Evans-Jones (darlithydd Athroniaeth a Chrefydd).
Yn ystod y lansiad a gynhaliwyd ym mhabell Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan eleni, cafwyd trosolwg manwl o gyfansoddiad, bwriad, ac amcanion y Ganolfan gan Dr Joshua Andrews a Dr Gareth Evans-Jones. Yn ei hanfod, hyrwyddo addysg grefyddol a chymdeithasol yng Nghymru yw amcan y Ganolfan, drwy bwysleisio pwysigrwydd dysgu am grefyddau gwahanol, safbwyntiau gwahanol, diwylliannau gwahanol, a bydolygon gwahanol sydd i’w canfod yn ein cymdeithas heddiw. Ynghyd â hyn, mae am danlinellu y dylem oll ymdrechu i sicrhau goddefgarwch, parch a chydweithrediad. Canolbwyntio ar Gymru fydd y Ganolfan ond bydd hi hefyd yn cydweithio â chanolfanau addysg grefyddol, gwerthoedd a moeseg mewn rhannau eraill o Brydain.
Meddai Dr Gareth Evans-Jones: ‘Mae’r Ganolfan wedi’i sylfaenu ar barchu’r fath amrywiaeth sy’n nodweddu ein cymdeithas. Mae newidiadau sylweddol wedi bod yn y nifer o bobl sy’n arddel gwahanol grefyddau, a gwelwyd bob math o ddatblygiadau hefyd mewn moeseg gymdeithasol, athroniaeth, a gwerthoedd. Am hynny, rydan ni’n awyddus i hyrwyddo’r fath agwedd sy’n cydnabod yr amrywiaeth helaeth yma, sy’n ei pharchu, ac sy’n annog pobl i ofalu bod gwerthfawrogiad a goddefgarwch yn nodweddu eu hymwneud ag eraill yn ein cymdeithas. Mae rhai sy’n dilyn crefydd, mae rhai sydd ddim. Mae gan rai safbwyntiau penodol, ac eraill rai gwahanol. Ond rydan ni gyd yn bobl yn byw yn yr un gymdeithas, a dyna sy’n werth ei gofio.’
Mae gan y Ganolfan fwrdd rheoli ddeinamig ac amrywiol gydag arbenigedd mewn addysg gynradd ac uwchradd, ysgolion ffydd, ynghyd â chynrychiolydd athrawon gyrfa gynnar, a chafwyd cyflwyniadau gan nifer o wahanol aelodau yn ystod y lansiad, gan gynnwys anerchiad ysbrydoledig gan Modlen Lynch, sydd wedi bod yn hyfforddi cenedlaethau o athrawon effeithiol; geiriau egnïol gan Emilia Johnson, sy’n athrawes Addysg Grefyddol ar ddechrau ei gyrfa ac sy’n llawn brwdfrydedd i ddatblygu perthynas rhwng gwahanol gylchoedd; a chyflwyniad didwyll gan Daniel Latham, sy’n awyddus i weld sgyrsiau rhyng-ffydd yn datblygu yn y blynyddoedd nesaf.