cewyll pysgog oddi ar fiord serth.

Yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol yn ennill un o 10 project â chyllid i hybu arloesi mewn dyframaeth cynaliadwy

Mae Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor wedi ennill cyfran o gronfa £4.6 miliwn i ddod â’r byd academaidd a diwydiant ynghyd i fynd i’r afael â rhai o’r prif heriau sy’n wynebu dyframaeth cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig.

Mae ffermydd eogiaid yn defnyddio goleuadau artiffisial fel mater o drefn i gynyddu 'golau dydd' a thrwy wneud hynny, uchafu cyfraddau twf. Ond prin yw'r wybodaeth am sut y gallai hyn effeithio ar systemau imiwnedd pysgod ac ymwrthedd i glefydau. Mae gwaith a wnaed gennym yn y gorffennol yn awgrymu y gall amharu ar glociau corff pysgod ifanc a bod yn niweidiol i'w hiechyd. Gyda’n partneriaid yn y diwydiant a’n cydweithwyr ym Mhrifysgol Aberdeen a Phrifysgol Aberystwyth, rydym yn mynd i ymchwilio i effaith amodau golau yn ystod bywyd cynnar ar iechyd a lles eogiaid trwy gydol y cylch cynhyrchu. Ein nod yw helpu i wella arferion magu eogiaid er mwyn cynyddu eu gallu i wrthsefyll clefydau a gwella eu lles.

Dr Amy Ellison,  Uwch Ddarlithydd yn y Gwyddorau Biolegol

Datblygiadau mewn technoleg dyframaethu

Meddai Dr Lee Beniston, Cyfarwyddwr Cyswllt Partneriaethau Diwydiant a Chydweithredol Ymchwil a Datblygu yn y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol,

“Mae gan ddatblygiadau mewn technoleg dyframaeth a dulliau arloesol botensial enfawr i ddarparu ffynhonnell o faeth mwy cynaliadwy, amrywiol ac iach i’r Deyrnas Unedig, ac i’r byd. Bydd hyn yn cefnogi uchelgeisiau mewn meysydd fel diogelwch bwyd ac iechyd y genedl. Rydym yn falch o fod yn buddsoddi, ochr yn ochr â busnesau, yn y projectau ymchwil ac arloesi cyffrous hyn a fydd yn cataleiddio ac yn sbarduno arloesi yn y diwydiant dyframaeth.”

Mae rhagor o wybodaeth am y projectau eraill a gyllidir ar gael ar wefan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol yma.  

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?