Bydd yr Athro Hughes yn olynu’r Cadeirydd presennol, Marian Wyn Jones, a gyhoeddodd yn gynharach eleni ei bwriad i gamu i lawr ddiwedd mis Tachwedd.
Mae’r Athro Hughes yn un o arweinwyr addysg uwch mwyaf uchel ei barch Cymru, ac mae ganddo brofiad helaeth o wasanaeth cyhoeddus, llywodraethu ac arwain prifysgolion. Yn ystod gyrfa sydd wedi para dros dri degawd, mae wedi arwain rhaglenni trawsnewid ac uno sefydliadol mawr ar draws y sector addysg uwch, yn fwyaf nodedig fel Is-ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac mewn uwch swyddi ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.
Graddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, a Choleg Iesu, Prifysgol Rhydychen. Mae'n Gymrawd er Anrhydedd o Goleg Harris Manchester, Rhydychen a gwasanaethodd fel Cymrawd Ychwanegol o Goleg Iesu, Rhydychen. Yn ystod ei yrfa, mae wedi chwarae rhan flaenllaw mewn llunio polisïau addysg, iaith a diwylliant yng Nghymru a thu hwnt, gan wasanaethu ar nifer o gyrff cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys UNESCO, y Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor Ewrop a Llywodraeth Cymru.
Ynghyd â'i arweinyddiaeth academaidd, mae wedi cadeirio a gwasanaethu ar amrywiaeth eang o sefydliadau ym maes addysg, iechyd, diwylliant a bywyd dinesig, gan gynnwys Llais - Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Corff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru ac Opera Cenedlaethol Cymru. Cydnabuwyd ei gyfraniad at fywyd cyhoeddus pan ddyfarnwyd CBE iddo yn 2023.
Meddai’r Athro Medwin Hughes am ei benodiad, “Mae’n anrhydedd mawr cael fy ngwahodd i wasanaethu fel Cadeirydd Cyngor y Brifysgol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r Is-ganghellor a'm cyd-aelodau o'r Cyngor a staff ar draws y brifysgol i gefnogi datblygiad parhaus y sefydliad. Gall Cymru fod yn falch o Brifysgol Bangor ac o'i thraddodiad academaidd ac ymchwil nodedig. Edrychaf ymlaen at wasanaethu'r brifysgol yn y blynyddoedd i ddod.”
Meddai’r Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, "Rwy'n falch iawn o groesawu'r Athro Medwin Hughes fel Cadeirydd y Cyngor. Bydd ei brofiad eithriadol o wasanaeth cyhoeddus, llywodraethu ac arwain prifysgolion, ynghyd â'i ddealltwriaeth drylwyr o Gymru a'i sector addysg uwch, yn gaffaeliad aruthrol i Brifysgol Bangor. Edrychaf ymlaen at gydweithio'n agos â Medwin. Mae ei ymrwymiad i addysg, diwylliant ac ymgysylltiad dinesig yn cyd-fynd â gwerthoedd a chenhadaeth y brifysgol.
Hoffwn hefyd ddiolch i Marian Wyn Jones am ei hymroddiad a'i gwasanaeth rhagorol. Mae ei harweinyddiaeth wedi helpu llywio Prifysgol Bangor trwy gyfnod o newid i'r brifysgol a'r sector addysg uwch ehangach. Mae ymroddiad ac ymrwymiad di-syfl Marian wedi bod yn gyfraniad amhrisiadwy at y sefydliad a'i gymuned."
Meddai Marian Wyn Jones wrth fyfyrio ar ei chyfnod fel Cadeirydd,
"Mae prifysgolion yn lleoedd arbennig ac mae’r 'Coleg ar y Bryn' yn hynod o arbennig. Yma, daw arloesi, heriau a chyfleoedd ynghyd ac mae cael gweithio gyda Phrifysgol Bangor wedi bod yn fraint o’r mwyaf. Rwy'n falch o fod wedi chwarae rhan yn nhaith y brifysgol yn ystod cyfnod o her a newid digynsail ar draws y sector addysg uwch. Mae ennill gwobr Prifysgol y Flwyddyn am Gynaliadwyedd a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2027 yn adlewyrchu ymroddiad a dawn cydweithwyr ar draws y brifysgol, a’r pwyslais amlwg ar ddarparu profiad rhagorol, addysg o ansawdd uchel a chanlyniadau da i fyfyrwyr. Mae wedi bod yn fraint cael gwasanaethu sefydliad sy'n gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i gynifer o fywydau.
"Rwy’n falch dros ben mai’r Athro Medwin Hughes fydd yn fy olynu ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddo wrth iddo arwain y Cyngor drwy'r bennod nesaf yn hanes y brifysgol."
Diwedd