Systemau iechyd a newid hinsawdd: yr hyn rydym ni fel economegwyr iechyd yn ei ddysgu ac y mae angen i ni ei rannu â sefydliadau partner i hyrwyddo lles parhaus
Gan R. T. Edwards & S. Roberts
2024 oedd y flwyddyn gyntaf lle gwelwyd cynnydd o fwy na 1.5°C ar wyneb y ddaear ers y cyfnod cyn-ddiwydiannol (Sefydliad Meteorolegol y Byd, 2025). Mae systemau iechyd yn cynhyrchu tua 5% o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn fyd-eang bob blwyddyn (Pichler et al., 2019). Mae hyn ddwywaith allyriadau nwyon tŷ gwydr y diwydiant awyrennau. Bydd newid hinsawdd yn effeithio ar y mathau o salwch a chlefydau y bydd angen i systemau iechyd ymateb iddynt, ac ar y lleoedd a'r mannau lle y darperir gofal iechyd. Wrth i ni feddwl am ein hiechyd a’n lles parhaus (Edwards, 2022; Edwards & Lawrence, 2024), nid oes dim yn bwysicach na meddwl am newid hinsawdd (Lawrance et al., 2022; The Lancet Public Health, 2021). Nid mater o wneud y system iechyd yn fwy gwyrdd yn unig yw hyn - mae’n ymwneud â lleihau’r galw am ofal iechyd drwy atal afiechydon ac anableddau y gellir eu hosgoi, a marwolaeth gynamserol.
Rydym newydd gwblhau cwrs rhyngwladol ar-lein 10 wythnos am systemau iechyd Ewropeaidd a all ymateb i newid hinsawdd, a gynigwyd yn rhad ac am ddim gan Gymdeithas Ysgolion Iechyd y Cyhoedd yn y Rhanbarth Ewropeaidd (ASPHER) ac Ysgol Iechyd Cyhoeddus Mailman Prifysgol Columbia. Roedd y cwrs yn canolbwyntio ar ddatgarboneiddio systemau iechyd, integreiddio cynaliadwyedd i asesu technoleg iechyd, wynebu newid hinsawdd yn fwy effeithiol, cadw golwg ar yr hinsawdd, addysg, a chyfathrebu gwybodaeth ynghylch iechyd mewn hinsawdd sy'n newid.
Fel economegwyr iechyd yn y Ganolfan Economegwyr Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethauym Mhrifysgol Bangor, yn ddiweddar gofynnodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i ni gloriannu dulliau o gasglu a gwerthfawrogi pa mor fuddiol i iechyd yw’r hyn y mae saith bwrdd iechyd Cymru yn ei wneud, gyda’i gilydd, i liniaru newid hinsawdd. Roedd y cwrs hwn yn amserol ac ehangodd ein gwybodaeth am y cysylltiadau rhwng bygythiadau newid hinsawdd a bygythiadau i iechyd y boblogaeth, swyddogaeth bosibl systemau iechyd (ynghyd â systemau hanfodol eraill) i ymdrin â digwyddiadau amgylcheddol anarferol a rhai sy’n rhoi pwysau ar yr hinsawdd, a chyfleoedd i addasu yn wyneb hinsawdd sy’n newid ymhellach. Ar y cwrs bu inni ddysgu fod risgiau newid hinsawdd yn gynnyrch peryglon, amlygiad a bregusrwydd. Mae rhai grwpiau yn y boblogaeth, megis pobl hŷn, plant a’r rhai â chlefydau cronig sylfaenol, yn fwyaf agored i gael eu heffeithio gan, er enghraifft, llifogydd, gwres gormodol, tanau gwyllt, cynnydd yn lefel y môr, ac achosion o glefydau sy’n ymateb yn neilltuol i’r hinsawdd. Bu inni ddysgu am gyd-amlygiadau i risgiau iechyd megis gwres gormodol a llygredd aer, a all gael effaith lluosog. Aethom i'r cwrs hwn gan adeiladu ar sylfaen o dros 30 mlynedd o brofiad fel tîm ymchwil mewn economeg iechyd cyhoeddus ac economeg atal ym Mhrifysgol Bangor (Edwards & Lawrence, 2024; Edwards & McIntosh, 2019).
O ran systemau gofal iechyd, dysgasom am effeithiau uniongyrchol ar systemau gofal iechyd megis cyfleusterau a ddifrodwyd ac a darfwyd arnynt, cynnydd yn y galw am ofal iechyd, effeithiau ar y gweithlu gofal iechyd, effeithiau ar gleifion, halogiad dŵr a bwyd, halogiad amgylcheddol, a tharfu ar y gadwyn gyflenwi. Cawsom ein synnu’n fawr o glywed am effaith gymharol fawr systemau iechyd ar allyriadau nwyon tŷ gwydr trwy, er enghraifft, nwyon o theatrau (Pichler et al., 2019). Dysgasom am ôl troed carbon byd-eang systemau gofal iechyd, a ddisgrifir fel tri chategori: cwmpas 1 neu allyriadau uniongyrchol ac eithrio ddefnyddio ynni; cwmpas 2 neu allyriadau anuniongyrchol ac eithrio trydan a brynwyd; a chwmpas 3 ar gyfer gweddill yr allyriadau anuniongyrchol (Rodríguez-Jiménez et al., 2023). Mae plastigau, sy’n rhan o nwwyon tŷ gwydr gofal iechyd cwmpas 3, yn cyfrif am tua 30% o wastraff gofal iechyd (Rasheed & Walraven, 2023). Dyblodd y galw byd-eang am blastigau rhwng 2005 a 2020, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19.
Ar y cwrs dysgasom fod angen i ni weithio tuag at ddylunio a datblygu systemau gofal iechyd sy’n gallu gwrthsefyll newidiadau hinsawdd (Sefydliad Iechyd y Byd 2023). Gall systemau iechyd sy'n gallu gwrthsefyll newidiadau hinsawdd ragweld, ymateb i, gwella ac addasu i ddigwyddiadau amgylcheddol anarferol neu sy’n rhoi pwysau ar yr hinsawdd. Dros amser, gallant ailgynllunio eu hunain i hybu iechyd gwell yn y boblogaeth hyd yn oed yn wyneb newid hinsawdd (Sefydliad Iechyd y Byd, 2024a).
Dysgasom am ymrwymiad chweched cynhadledd ar hugain Pleidiau’r Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) i systemau iechyd sy’n gallu gwrthsefyll digwyddiadau hinsawdd a symudiad tuag at systemau iechyd carbon isel cynaliadwy (Sefydliad Iechyd y Byd, 2024a). Bu inni ddysgu am y gyfres o adnoddau gan Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer datblygu systemau gofal iechyd sy’n gallu gwrthsefyll newidiadau hinsawdd (Sefydliad Iechyd y Byd, 2020, 2021a, 2021b, 2022, 2023, 2024b).
Pwysleisiodd y cwrs yr angen am ddulliau traws-sector i greu systemau gofal iechyd sy’n gallu gwrthsefyll newidiadau hinsawdd a bod angen cydweithredu ar draws sectorau er mwyn gallu addasu. Pwysleisiwyd ar adegau o bwysau newid hinsawdd sydyn ar systemau gofal iechyd, bod ysbytai a chyfleusterau gofal iechyd eraill yn dibynnu ar sectorau eraill ar gyfer newid cyflenwad, ynni a gwaredu gwastraff.
Pwysleisiodd y cwrs yr angen am ddull systemau o archwilio sut mae bygythiadau hinsawdd yn effeithio ar systemau gofal iechyd. Dim ond un system hollbwysig yw systemau gofal iechyd a gallant gael eu heffeithio'n anuniongyrchol gan fathau eraill o bwysau ar systemau y mae newid hinsawdd yn effeithio arnynt. Er enghraifft, gall mudo yn dilyn digwyddiadau amgylcheddol anarferol i ardal benodol o'r byd effeithio ar y system gofal iechyd yn y fan ble mae’r mudwyr yn teithio iddo. Roedd y cwrs yn gwahaniaethu rhwng digwyddiadau amgylcheddol anarferol tymor byr (tanau gwyllt a llifogydd) a phwysau hirdymor ar yr hinsawdd (sychder estynedig a rhewlifoedd yn toddi).
Fe ddysgon ni am brofion straen sy'n ceisio darganfod i ba raddau y mae systemau iechyd yn gallu gwrthsefyll digwyddiadau amgylcheddol anarferol a phwysau ar yr hinsawdd. Unwaith eto, mae gwytnwch yn dibynnu ar ryngweithio ar lefel system rhwng rhanddeiliaid lluosog gan gynnwys darparwyr gofal iechyd, darparwyr gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol, cyflenwyr allweddol, cwmnïau cyfleustodau, a chyllidwyr.
Pwysleisiodd y cwrs fod symudiad oddi wrth system gofal iechyd gofal eilaidd tuag at system gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar ofal sylfaenol yn dda i'r blaned trwy leihau ôl troed carbon a gofal diangen. Mewn geiriau eraill, mae gwella perfformiad y system iechyd yn cyfrannu at gynaliadwyedd amgylcheddol. Bu inni ddysgu am bwysigrwydd systemau rhybudd cynnar a all sbarduno gweithredu cynnar ac ymateb yn brydlon i fygythiadau iechyd, a thrwy hynny leihau morbidrwydd, marwolaethau, a cholledion economaidd sy’n gysylltiedig â risgiau hinsawdd.
O safbwynt economeg iechyd, difyr iawn oedd dysgu am gymarebau cost-effeithiolrwydd cynyddrannol cyfochrog (ICERs) y gellid eu defnyddio wrth asesu technoleg iechyd. Fel rheol, nid yw'r ICER (h.y. cost fesul uned budd cynyddrannol) yn ystyried ffactorau amgylcheddol. Mae meddylfryd newydd yn cyflwyno’r syniad o gyfrifiadau cyfochrog, er enghraifft cymarebau effeithiolrwydd ôl troed carbon cynyddrannol (ICFER) a chymarebau cost ôl troed carbon cynyddrannol (ICFCR) (Williams et al., 2024). Mae dadl genedlaethol dros y ffordd orau i gyrff fel y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) naill ai fewnoli ystyriaethau lleihau carbon yn y dulliau presennol o asesu technoleg iechyd, a/neu ystyried y cyfrifiadau cyfochrog uchod. Mewn ymarferion blaenoriaethu iechyd, gall dulliau megis cyllidebu rhaglenni a dadansoddi ymylol (PBMA) a dadansoddiad o benderfyniadau meini prawf lluosog (MCDA) gyflwyno ystyriaeth i newidiadau mewn ôl troed carbon fel meini prawf wrth gloriannu dewisiadau.
Creodd y cwrs hwn weledigaeth o systemau gofal iechyd yn y dyfodol sy'n blaenoriaethu atal, gan gynnwys hunanofal cleifion a monitro o bell (lle bo'n briodol), lles staff, a'r defnydd o ynni adnewyddadwy. Mae'r systemau gofal iechyd yn gofyn am y canlynol: arweinyddiaeth a llywodraethu trawsnewidiol o ran yr hinsawdd; gweithlu sy'n deall yr hinsawdd; asesu a monitro risgiau hinsawdd ac iechyd ac allyriadau nwyon tŷ gwydr yn barhaus; systemau rhybudd cynnar ar gyfer digwyddiadau amgylcheddol anarferol a phwysau ar yr hinsawdd; ymchwil o ran iechyd a’r hinsawdd; cadwyni cyflenwi carbon isel; rheoli penderfynyddion amgylcheddol iechyd, a chyllido ar gyfer cynaliadwedd o ran yr hinsawdd ac iechyd. Mae addasu’r system iechyd yn debygol o fod yn fwy llwyddiannus os yw hynny yn rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol. Gall yr addasiadau hyn fod yn strwythurol neu’n anstrwythurol ac mae’n well eu bod yn rhan o drawsnewidiad cyfan i system iechyd sy’n fwy gwydn i newidiadau hinsawdd, ond sy’n parhau i fod yn berthnasol yn lleol.
Cyn y cwrs hwn roeddem ni wedi darllen gwaith Naomi Klein, Athro Cyfiawnder Hinsawdd, Prifysgol British Columbia (Klein, 2014). Mae cyfiawnder hinsawdd yn golygu rhoi tegwch a hawliau dynol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau a gweithredu o ran newid hinsawdd. Mae cyfiawnder hinsawdd yn rhychwantu anghydraddoldeb strwythurol, anghydraddoldeb cymdeithasol, a thegwch rhwng cenedlaethau. Mae cyfiawnder hinsawdd yn eiriol dros Bontio Cyfiawn i godi'r rhai mewn tlodi. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi sefydlu'r Climate Resilient Health Systems Initiative. Nod y fenter yw sicrhau erbyn 2030 bod pob system iechyd ledled y byd yn fwy gwydn o ran effeithiau hinsawdd. Un o'r nodau tymor canolig yw sefydlu Llys Rhyngwladol yr Amgylchedd (ICE).
Yr hyn a oedd yn gryn syndod inni ar y cwrs rhyngwladol oedd y pwyslais a roddwyd ar yr angen am gyfathrebu ac addysgu gweithwyr iechyd proffesiynol a’r rhai sy’n trefnu ac yn comisiynu systemau iechyd. Mae cyfathrebu bygythiadau iechyd newid hinsawdd a'r angen i weithredu yn codi ymwybyddiaeth, yn hyrwyddo arferion amddiffynnol, ac yn annog newid system. Pwysleisiwyd mai'r hyn sydd ei angen yw lleisiau y gellir ymddiried ynddynt o fewn systemau iechyd ac ar draws sectorau - gall gweithwyr iechyd proffesiynol fod yn hyrwyddwyr effeithiol ar gyfer atebion hinsawdd. Y cyngor a roddwyd oedd i'r rhai sy'n gweithio ar draws systemau iechyd gyfathrebu fel a ganlyn: cysylltu materion hinsawdd yn uniongyrchol â materion iechyd lleol y mae pobl yn poeni amdanynt; defnyddio iaith glir sy'n ymwneud â phrofiadau lleol ac awgrymu camau gweithredu penodol; cyflwyno atebion ochr yn ochr â phroblemau i osgoi gorbryder llethol; a defnyddio cysylltiadau naratif ac emosiynol yn hytrach na chyflwyno data yn unig (Chambaud, 2025). Mae'n hysbys mai'r prif rwystrau i weithredu ar yr hinsawdd ar draws systemau iechyd yw: negeseuon sefydliadol tameidiog; buddsoddiad isel mewn cyfathrebu; llythrennedd hinsawdd cyfyngedig, a hyfforddiant annigonol. Mae addysg yn paratoi gweithwyr proffesiynol y dyfodol i ddeall risgiau, arwain ymatebion, a dylanwadu ar newid.
I grynhoi, roedd y cwrs European Climate Resilient Health Systems yn pwysleisio’r angen am agwedd gytbwys a chynhwysol at ddatblygiad economaidd sy'n ceisio diwallu anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol heb beryglu adnoddau naturiol ac ecosystemau byd-eang. Mae hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni gefnu ar ymagwedd o iechyd ym mhob polisi a chael yn hytrach ymagwedd o iechyd ar gyfer pob polisi. Llwyddodd y ddau ohonom ni yn arholiad y cwrs (gyda marciau da iawn!) a theimlwn fod ein dealltwriaeth a’n llythrennedd yn ymwneud â newid hinsawdd a systemau iechyd wedi gwella’n fawr i’r graddau y gallwn gydweithio’n effeithiol ar geisiadau grant ar gyfer ymchwil a gwerthusiadau lleol a rhyngwladol ar lefel y system iechyd a’r system ryngsectoraidd. Mae'r cyntaf o'r cyfleoedd hyn eisoes wedi codi, lle bu inni gydweithio ar gais i’r Gronfa Loteri Fawr ynghylch project gwresogi cymunedol cynaliadwy yng Ngogledd Cymru. Mae’r cais hwn yn gyfle i fanteisio ar yr hyn a ddysgom ni ar y cwrs rhyngwladol a’i gymhwyso ar garreg ein drws yn Eryri.
Ariannwyd y blog hwn gan Economeg Iechyd a Gofal Cymru. Cyllidir Economeg Iechyd a Gofal Cymru gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Diolch i Gymdeithas Ysgolion Iechyd y Cyhoedd yn y Rhanbarth Ewropeaidd (ASPHER) ac Ysgol Iechyd Cyhoeddus Mailman Prifysgol Columbia am gynnig y cwrs European Climate Resilient Health Systems a'r amrywiaeth anhygoel o siaradwyr rhyngwladol. Diolch i Dr Vladyslav Kulikov am drosglwyddo manylion y cwrs ar-lein rhad ac am ddim hwn, a diolch i Dr Catherine Lawrence am gefnogaeth gyda chynnwys y blog.
Cyfeiriadau
Chambaud, L. (2025). Health communication and education in a changing climate. [Darlith a recordiwyd]. Cwrs ‘European Climate Resilient Health Systems’. 8 Ebrill 2025.
Edwards, R. T. (2022). Well-being and well-becoming through the life-course in public health economics research and policy: A new infographic. Frontiers in Public Health, 10, 1035260.
Edwards, R. T., & Lawrence, C. L. (Eds.). (2024). Health economics of well-being and well-becoming across the life-course. Oxford University Press.
Edwards, R. T., & McIntosh, E. (Eds.). (2019). Applied health economics for public health practice and research. Oxford University Press.
Klein, N. (2014). This changes everything: Capitalism vs. the climate. Simon and Schuster.
Lawrance, E. L., Thompson, R., Newberry Le Vay, J., Page, L., & Jennings, N. (2022). The Impact of Climate Change on Mental Health and Emotional Wellbeing: A Narrative Review of Current Evidence, and its Implications. International Review of Psychiatry, 34(5). https://doi.org/10.1080/09540261.2022.2128725
Pichler, P. P., Jaccard, I. S., Weisz, U., & Weisz, H. (2019). International comparison of health care carbon footprints. Environmental Research Letters, 14(6), 064004. https://doi.org/10.1088/1748-9326/ab19e1
The Lancet Public Health. (2021). Mitigating climate change must be a priority for public health. The Lancet Public Health 6(9). https://doi.org/10.1016/S2468-2667(21)00190-0
Rasheed, F. N. & Walraven G. C. (2023). Cleaning up plastics in healthcare waste: the transformative potential of leadership BMJ Innovations; 9. https://innovations.bmj.com/content/9/2/103
Rodríguez-Jiménez, L., Romero-Martín, M., Spruell, T., Steley, Z., & Gómez-Salgado, J. (2023). The carbon footprint of healthcare settings: A systematic review. Journal of advanced nursing, 79(8). https://doi.org/10.1111/jan.15671
Williams, J. T., Bell, K. J., Morton, R. L., & Dieng, M. (2024). Methods to include environmental impacts in health economic evaluations and health technology assessments: a scoping review. Value in Health, 27(6), 794-804.
Sefydliad Iechyd y Byd. (2020). WHO guidance for climate resilient and environmentally sustainable health care facilities. https://iris.who.int/bitstream/handle/10665/335909/9789240012226-eng.pdf
Sefydliad Iechyd y Byd (2021a). Checklists to assess vulnerabilities in health care facilities in the context of climate change. https://iris.who.int/bitstream/handle/10665/340656/9789240022904-eng.pdf
Sefydliad Iechyd y Byd (2021b). Climate change and health: vulnerability and adaptation assessment. https://iris.who.int/bitstream/handle/10665/345968/9789240036383-eng.pdf
Sefydliad Iechyd y Byd. (2022). Measuring the climate resilience of health systems. https://iris.who.int/bitstream/handle/10665/354542/9789240048102-eng.pdf
Sefydliad Iechyd y Byd. (2023). Operational framework for building climate resilient and low carbon health systems. https://iris.who.int/bitstream/handle/10665/373837/9789240081888-eng.pdf
Sefydliad Iechyd y Byd. (2024a).
Sefydliad Iechyd y Byd. (2024b). Target setting for low carbon sustainable health systems. https://iris.who.int/bitstream/handle/10665/377724/9789240094468-eng.pdf
Sefydliad Meteorolegol y Byd. (2025, Ionawr 10). WMO confirms 2024 as warmest year on record at about 1.55°C above pre-industrial level. https://wmo.int/news/media-centre/wmo-confirms-2024-warmest-year-record-about-155degc-above-pre-industrial-level