Bywyd a Hanes Dr Lewis Bayly (c.1575-1631)
Rydym yn falch iawn o rannu'r erthygl yma gan Tomos Cahill, myfyriwr isradd mewn Hanes ym Mhrifysgol Bangor a ffrind i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.
Byddai rhan fwyaf sy’n ymweld â Phlas Newydd heddiw yn ymwybodol o drigolion enwocaf y tŷ, sef y teulu Pasiet. Yn sicr, erbyn hyn mae’r geiriau Pasiet, ‘Marcwis Ynys Môn’ a Phlas Newydd yn ymddangos i fynd llaw mewn llaw i ni, er hyn mae pwysigrwydd effaith a adawyd gan y teuluoedd a oedd yn berchen ar stad Plas Newydd cyn 1737 wastad yn cael ei anghofio. Cyfrannodd teulu’r Griffiths, Bagnalls, a’r Baylys i gyd at ddatblygiad yr hyn a byddwn yn adnabod heddiw fel y tŷ ym Mhlas Newydd. Bydd yr erthygl hon yn ceisio archwilio un unigolyn yn arbennig, y gadawodd ei ôl unigryw ar Blas Newydd - sef Lewis Bayly (c.1575-1631). Roedd Lewis yn amlwg yn Biwritan rhonc, gyda'i farnau radicalaidd yn gwneud ef yn ffigwr amhoblogaidd iawn o fewn yr Eglwys Anglicanaidd a gwleidyddiaeth Gogledd Cymru gyfoes; serch hynny, ef oedd y cyntaf i wneud ychwanegiadau mawr i neuadd-dy canoloesol Llwyn-y-Moel a'r cyntaf i'w hail-enwi hi yn Blas Newydd. Gan ddilyn yn ôl troed ei hen daid, y byddai Syr Nicolas Bayly (1709-1782) yn mynd ymlaen i drawsnewid Plas Newydd yn llwyr i’r plasty Neo-gothig 18fed ganrif syfrdanol a welwn heddiw.
O Gaerfyrddin i Rydychen, bywyd cynnar Lewis
Nid oes llawer wedi ei gofnodi am fywyd cynnar Lewis, mae’n debyg caiff ei eni tua'r flwyddyn 1575 yng Nghaerfyrddin oherwydd cyfeiriad at y dref yn ei ewyllys a’r ffaith bod ei dad, Thomas Bayly, wedi’i nodi ymhlith clerigwyr y dref. Yn gynnar yn ei fywyd, enillodd Lewis nawdd y teulu Jones o Abermarlais yn Sir Gaerfyrddin gan fyw yno am gyfnod, cyn dechrau ei yrfa o fewn yr Eglwys trwy ddod yn ficer yn Shipton-on-Stour yn 1597, yn Evesham yn 1600, a pherson Llanedi o 1606-13. Yn ddiweddarach aeth Lewis ymlaen i dderbyn ei addysg ddiwinyddol yng Ngholeg Caerwysg, Rhydychen, lle dyfarnwyd iddo radd B.D. yn 1611 a doethuriaeth yn 1613.1 Yn dilyn ei hyfforddiant, cafodd Lewis ddyrchafiadau sylweddol o fewn yr Eglwys, gan ddod yn gaplan i’r Brenin Iago I erbyn 1616 a chael ei wneud yn Esgob Bangor yn hwyrach yn yr un flwyddyn.2
‘I dduwioldeb y mae’r addewid’: Bayly fel Esgob ac ei etifeddiaeth o Blas Newydd
Yn fuan wedi iddo ennill doethuriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, dechreuodd Lewis ei waith enwocaf sef; The Practice of Piety. Mae'n debyg ei gyhoeddi gyntaf yn 1611,3 ei bwrpas oedd fel ‘llawlyfr defosiwn’ a luniwyd o nifer o bregethau Lewis a daeth yn un o destunau allweddol Piwritanaidd, gan gael dylanwad dwfn ar waith John Bunyan (1628-1688).4 Daeth y llyfr yn hynod boblogaidd trwy gydol yr 17eg a’r 18fed ganrifoedd, gan gael ei gyfieithu o’r Saesneg i sawl iaith, gan gynnwys Ffrangeg, Iseldireg, Pwyleg, Eidaleg a Románsh, yn ogystal ag i’r Gymraeg yn 1629 gan y gwladweinydd o Feirionnydd o'r enw Rowland Vaughan o Gaer-gai (c.1590-1667) fel ‘Yr Ymarfer o Dduwioldeb’.5 Er poblogaeth ei lyfr, roedd cyfnod Lewis fel Esgob Bangor llawn ddrwgdybiaeth ac amhoblogrwydd ymhlith y boneddigion lleol a’i gyd-glerigwyr. Roedd ei ddelfrydau a’i farnau Piwritanaidd yn sicr wedi gwneud ef yn ffigwr amhoblogaidd ledled yr Esgobaeth, yn enwedig ymysg unigolion megis John Williams o Gochwillan (Esgob Llyncwlen ac Archesgob Efrog yn ddiweddarach)6 a Griffith Williams (c.1587-1673), rheithor Llanllechid.7 Yn gynnar yn ei gyfnod fel esgob, cofnodir i Lewis erlid y teulu Catholig Puw o Benrhyn Creuddyn, yn enwedig ar ôl i swyddogion y Goron ddarganfod argraffiad anghyfreithlon o ysgrif Gatholig sef, Y Drych Cristianogawl, o fewn ogof ar y Rhiwledyn.8 Yn ogystal i hyn, heriodd Lewis bwerau’r lleygwr nerthol Syr John Wynn o Wydir, yn enwedig yng lun ei brydlesi o diroedd Eglwysig,9 fodd bynnag cyn hir, ddaeth Lewis yn un o gyfeillion pennaf John, gan ddefnyddio ei ddylanwad mewn ymgais i gael mab John i ddychwelyd yn AS dros Sir Gaernarfon yn lle ei wrthwynebydd; John Griffith o Gefn Amlwch Llŷn. Yn Senedd Llundain hefyd, cyhuddwyd Lewis o lwgrwobrwyo a chafodd ei garcharu am gyfnod byr yng Ngharchar y Fflyd, cyn cael ei ryddhau gan adennill ffafr y Brenin Siarl I.10 Gan ennill ei ryddid, dychwelodd Lewis yn nol i Ogledd Cymru ble gwariodd swm enfawr o arian ar atgyweirio Eglwys Gadeiriol Bangor, ac yna priododd Ann, merch Syr Harri Bagnal (1556-15980) a ddaliai stad Llwyn-y-Moel ar Ynys Môn. Wedi iddo etifeddu'r stad trwy ei briodas ag Ann, ddechreuodd Lewis y newidiadau mawr cyntaf i’r neuadd-dy ac i'w hailenwi hi i Blas Newydd, sy’n sicr yn awgrymu bod mi oedd ganddo wybodaeth o’r iaith Gymraeg. Gyda’r undeb hwn, byddai Plas Newydd yn aros yn nheulu’r Bayly am y tair cenhedlaeth nesaf nes i or-ŵyr Lewis, Syr Nicolas Bayly (1709-1782) briodi’r Fonesig Caroline Pasiet (m. 1766).
Cofio Dr Lewis Bayly

Bu Lewis farw o gwmpas 56 oed ar y 26ain o Hydref, 1631,11 claddwyd ei gorff o fewn Eglwys Gadeiriol Bangor, er nad oes cofeb wedi'i chysegru iddo i'w weld tu fewn yr eglwys gadeiriol heddiw. Mewn gwirionedd, mae’n ymddangos fod etifeddiaeth gythryblus Lewis fel Esgob Bangor a’r rhan hanfodol a chwaraeodd wrth lunio’r sylfeini ar gyfer yr hyn a fyddai’n dod yn stad Plas Newydd bron wedi’u hanghofio erbyn hyn. Wedi’i anghofio hefyd o fewn hanes Plas Newydd, yn debyg iawn i’w ddisgynyddion; y Baylys ac yr Bagnals a’r Griffiths yn flaenorol, gan weithgareddau diweddarach y teulu Pasiet ar ddechrau’r 19eg ganrif i’r 21ain ganrif. Yn hytrach, mae Lewis yn cael ei gofio'n well am lwyddiant ei ‘Practice of Piety’ hynod boblogaidd ymhlith Piwritaniaid Ewrop yr 17eg a’r 18fed ganrif ac America Drefedigaethol,12 fodd bynnag, ni ellir gwadu pwysigrwydd ei rôl yn natblygiad stad Plas Newydd gan fod ei briodas ag Ann Bagnal yn anfwriadol wedi sicrhau’r ystâd i feddiant y teulu Bayly am y tair cenhedlaeth nesaf a hefyd wedi paratoi’r ffordd ar gyfer eu priodas i fewn i’r teulu Pasiet.
Nodyn personol gan awdur yr erthygl hon
Fel Croesawydd i ymwelyr y Tŷ, mae’n fraint bod yn rhan o’r tîm anhygoel ym Mhlas Newydd, gyda phawb, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr rhagorol, yn helpu i sicrhau bod Plas Newydd yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd fel y gall pawb brofi hanes rhyfeddol a’r gerddi hardd y lleoliad arallfydol hwn sydd yn wynebu’r Afon Menai yng nghefndir mynyddoedd godidog Eryri. Fel myfyriwr israddedig mewn Hanes Canoloesol a Modern Cynnar ym Mhrifysgol Bangor, mae hi hefyd yn bleser mawr gweithio mewn tŷ hanesyddol sydd gyda chysylltiadau â theuluoedd bonheddig Cymreig blaenllaw megis y Griffiths a’r Baylys. Yn hyn o beth, hoffwn ddiolch hefyd i’r tîm Archifau a Chasgliadau Arbennig yn Archifau Prifysgol Bangor am y gwasanaeth anhygoel y maent yn darparu a hefyd am y fraint o gael gweld copïau gwreiddiol o weithiau Vaughan a Bayly, ac i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor am fy ysbrydoli i i ysgrifennu’r erthygl hon.
(Gan Tomos Cahill)
Cyfeiriadau
1 Richards, Thomas, ‘BAYLY, LEWIS (bu farw 1631), esgob ac awdur’, Y Bywgraffiadur Cymreig, ar-lein, https://bywgraffiadur.cymru/article/c-BAYL-LEW-1575 (mynediad: 11/05/2025).
2 A. Louth, ‘Bayly, Lewis’, Oxford Reference, ar-lein, <https://www-oxfordreference-com.bangor.idm.oclc.org/display/10.1093/acref/9780199642465.001.0001/acref-9780199642465-e-761> (mynediad: 11/05/2025).
3 Richards, ‘BAYLY, LEWIS (bu farw 1631), esgob ac awdur’, Y Bywgraffiadur Cymreig, ar-lein, https://bywgraffiadur.cymru/article/c-BAYL-LEW-1575 (mynediad: 11/05/2025).
4 O. Garnett, Plas Newydd Country House and Gardens (Swindon, 2010), p.37.
5 M. Ellis, ‘VAUGHAN, ROWLAND (c.1590-1667), Caer Gai, Sir Feirionnydd, bardd, cyfieithydd, a Brenhinwr’, Y Bywgraffiadur Cymreig, ar-lein, https://bywgraffiadur.cymru/article/c-VAUG-ROW-1590 (mynediad: 12/05/2025).
6 B.D. Roberts, ‘WILLIAMS, JOHN (1582-1650), archesgob Caerefrog, gynt ddeon Westminster, esgob Lincoln, ac arglwydd-geidwad y sêl fawr’, Y Bywgraffiadur Cymreig, ar-lein, https://tinyurl.com/WILL-JOH-1582 (mynediad: 12/05/2025).
7 G.T. Roberts, ‘WILLIAMS, GRIFFITH (?1587-1673), esgob ac awdur’, Y Bywgraffiadur Cymreig, ar-lein, https://biography.wales/article/s-WILL-GRI-1587 (mynediad: 12/05/2025).
8 Caernarfonshire Historical Society Transactions 1957, ’Puw, Pue, Pugh, family, of Penrhyn Creuddyn, Caernarfonshire, a prominent Roman Catholic family, Y Bywgraffiadur Cymreig, ar-lein (mynediad: 22/05/2025).
9 Richards, ‘BAYLY, LEWIS (bu farw 1631), esgob ac awdur’, Y Bywgraffiadur Cymreig, ar-lein, https://bywgraffiadur.cymru/article/c-BAYL-LEW-1575 (mynediad: 11/05/2025).
10 Richards, ‘BAYLY, LEWIS (bu farw 1631), esgob ac awdur’, Y Bywgraffiadur Cymreig, ar-lein, https://bywgraffiadur.cymru/article/c-BAYL-LEW-1575 (mynediad: 11/05/2025).
11 Richards, ‘BAYLY, LEWIS (bu farw 1631), esgob ac awdur’, Y Bywgraffiadur Cymreig, ar-lein, https://bywgraffiadur.cymru/article/c-BAYL-LEW-1575 (mynediad: 11/05/2025).
12 M.P. Winship, ‘Were There Any Puritans in New England?’, The New England Quarterly, 74 (2001), 118-38, https://www.jstor.org/stable/3185462?origin=crossref (mynediad: 14/05/2025).