Ymchwil yn ystyried sut y gall cymunedau gydweithio i sicrhau newid cadarnhaol
Bydd academyddion yn ymchwilio i sut mae dinasyddion, sefydliadau cymdeithas sifil a llunwyr polisïau'n cydweithio i fynd i'r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas.
Mae Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) wedi sicrhau cyllid o £1.6m gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yr UKRI ar gyfer y rhaglen ymchwil tair blynedd, 'Pobl, Lleoedd a'r Maes Cyhoeddus'.
Bydd y rhaglen, sy’n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, yn edrych ar ffyrdd y gall cyfranogiad pobl mewn gweithgareddau democrataidd, llywodraethu cydweithredol a gwyddoniaeth y dinesydd fynd i'r afael â chyd-heriau brys.
Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair thema ymchwil:
- Gweithleoedd a democratiaeth gyfranogol Bydd yn canolbwyntio ar yr Agenda Gwaith Teg, gan gynnwys y cynnydd y mae Cymru'n ei wneud i symud tuag at fod yn Genedl Gwaith Teg.
- Hawliau, ffoaduriaid a chymunedau ar y cyrion Bydd yn archwilio rôl sefydliadau cymdeithas sifil wrth gefnogi ffoaduriaid a goruchwyliaeth y wladwriaeth ar gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
- Llywodraethu cydweithredol a gwleidyddiaeth gydgynghorol Bydd yn edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi dinasyddion i ymgysylltu’n gydweithredol wrth lunio polisïau ac i atal polareiddio.
- Economïau lleol ac arloesedd yn seiliedig ar le Bydd yn edrych ar ffyrdd o gynnwys actorion economaidd wrth ddatblygu arweinyddiaeth, gwytnwch a chyfalaf lleol i gefnogi twf economaidd.
Caiff y themâu hyn eu cefnogi drwy ddatblygu Lab Data WISERD sy'n seiliedig ar leoedd ac sy'n ymwneud â'r cyhoedd. Bydd hyn yn cefnogi casglu data dan arweiniad y gymuned i alluogi dinasyddion, cymunedau a llunwyr polisïau i chwarae eu rhan mewn prosiectau cyd-gynhyrchu.
Bydd canlyniadau'r ymchwil yn cyfrannu at bolisi ac arferion sy'n galluogi dinasyddion i gyfranogi’n llawn, yn dyfnhau'r ymwneud â gwyddoniaeth y dinesydd, ac yn y pen draw, yn galluogi cymunedau lleol i ddefnyddio asedau ac adnoddau mewn ymateb i heriau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol. Bydd WISERD hefyd yn parhau i ehangu ei rwydweithiau ymchwil ryngwladol a chymdeithas sifil.
Dywedodd Cyd-gyfarwyddwr WISERD ym Mhrifysgol Bangor, yr Athro Martina Feilzer: "Mae hwn yn gyfle cyffrous i barhau ag ymchwil ar brofiadau cymunedau ar y cyrion a rôl cymdeithas sifil wrth feithrin gwytnwch a sefyll yn erbyn ymylu o'r fath."
Ychwanegodd Dr Robin Mann, sydd hefyd yn gyd-gyfarwyddwr WISERD ym Mhrifysgol Bangor: "Yn yr un modd, rydyn ni'n ceisio dangos sut mae arloesi cymunedol yn cyfrannu at gynaliadwyedd. Byddwn yn croesawu ymchwilydd newydd i Fangor ar gyfer y prosiectau cyffrous hyn ac rydyn ni'n edrych ymlaen at y tair blynedd nesaf."
Dywedodd y prif ymchwilydd a chyd-gyfarwyddwr WISERD, Rhys Davies: "Mae ymchwil ryngddisgyblaethol WISERD eisoes wedi cael effaith enfawr ar y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y cyllid newydd hwn yn ein galluogi i ehangu a chryfhau'r gwaith ymhellach fyth, yn seiliedig ar egwyddorion cyd-gynhyrchu, cydweithio a gwyddoniaeth y dinesydd, wrth i ni weithio'n ddyfnach gyda'n rhwydweithiau o bartneriaid cymdeithas sifil sydd ar gynnydd."
Ym Mhrifysgol Bangor, bydd cyllid newydd yr ESRC yn galluogi WISERD i ymestyn y ffocws ymchwil presennol ar gefnogaeth cymdeithas sifil i gymunedau ar y cyrion a'u profiad o lefelau niferus o anfantais, yn ogystal â sylw niweidiol y wladwriaeth - er enghraifft, arferion gwyliadwriaeth cynyddol y wladwriaeth. Yma, bydd y gwaith yn canolbwyntio ar gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Yn ogystal, gan weithio gyda Chanolfan Amgylchedd Cymru, mewn partneriaeth â'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, bydd WISERD yn mapio arloesedd a gyd-gynhyrchwyd mewn economïau lleol sy'n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd ac ynni cynaliadwy, atal llifogydd, ymatebion i lygredd, a rheoli tir.