Mae tri o ymchwilwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn llwyddiannus yn y rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau cyllid Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae cyllid wedi'i ddyfarnu ar gyfer prosiectau sy'n mynd i'r afael ag anghenion y cyhoedd a chleifion, yn ogystal ag i gefnogi ymchwilwyr i ddatblygu eu gyrfaoedd ar draws amrywiaeth o bynciau.
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae ceisiadau eleni unwaith eto wedi tynnu sylw at ysgogiad ac arbenigedd ymchwilwyr o Gymru mewn ymateb i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r prosiectau a ariennir yn dangos ymrwymiad cryf i wella iechyd a lles ac rydym yn falch o gefnogi ymchwil sy'n cael effaith ystyrlon.
"Rydym hefyd yn croesawu'n gynnes y dyfarniadau personol eleni. Mae eu cynigion amrywiol a chymhellol yn adlewyrchu cryfder talent ymchwil ledled Cymru a bydd y dyfarniadau hyn yn cefnogi eu datblygiad parhaus a'u cyfraniad i'w meysydd dewisol."
Mae derbynwyr Prifysgol Bangor fel a ganlyn:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Enillwyr Dyfarniadau'r Prosiect
Cynllun Cyllido Integredig - Cangen 2: Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd
- Dr Patricia Masterson Algar
Cyd-ddylunio ac asesu dichonoldeb rhaglen cymorth cymheiriaid (RhCC) ar gyfer gofalwyr dementia ifanc
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£225,877)
- Dr Emily Holmes
Gwerthusiad Economaidd Cynnar o systemau epidemioleg sy'n seiliedig ar ddŵr gwastraff i gefnogi strategaethau gwyliadwriaeth a rheoli presennol ar gyfer y norofirws mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£287,885)
Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - Enillwyr Dyfarniadau Personol
Dyfarniad Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
- Dr Leah McLaughlin
Dychmygu'r anhygoel: sut allwn ni gefnogi mwy o rieni i roi organau eu plant ar ôl iddynt farw.
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£370,669)
Ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i weld y rhestr lawn o'r enillwyr dyfarniadau diweddaraf.