Prifysgol Bangor yn datgelu gardd perlysiau Cymreig yn Nhreborth i ddathlu treftadaeth planhigion meddyginiaethol
Bydd Gardd Perlysiau Cymreig newydd yn cael ei hagor yn swyddogol yng Ngardd Fotaneg Treborth ym Mhrifysgol Bangor, yn ystod ei digwyddiad gerddi agored y Cynllun Gerddi Cenedlaethol, am 3:00pm ddydd Sul, 13 Gorffennaf.
Mae’r Ardd Perlysiau Cymreig newydd yn rhan ganolog o Ardd Fotaneg Treborth, sy'n 45 erw ac sy'n eiddo i Brifysgol Bangor ac yn un o ddim ond saith gardd fotaneg achrededig yn y wlad. Mae wedi'i lleoli gerllaw Ardal Gadwraeth ac mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mae’r Ardd Perlysiau Cymreig yn dathlu’r dreftadaeth a’r llên gwerin ddifyr sy’n gysylltiedig â’r planhigion meddyginiaethol a ddefnyddiwyd yng Nghymru trwy’r oesoedd. Ysbrydolir yr ardd newydd gan dirwedd Cymru. Mae’n defnyddio deunyddiau lleol, ac mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ddwy sedd gylchol sydd wedi eu cysylltu gan lwybrau troellog. Bydd gwelyau plannu gyda waliau cerrig yn darparu seddi a chyfle i weld y planhigion yn agos.
Bydd y cynllun amrywiol a chyforiog yn adrodd hanes sut yr oedd y Cymry, gan gynnwys arloeswyr meddygaeth fodern y 12fed ganrif, Meddygon Myddfai, yn defnyddio planhigion i drin pob math o anhwylderau. Bydd ymwelwyr yn gallu darganfod hanes y planhigion, dysgu am feddyginiaethau fel yfed dŵr distyll o rosod cochion at y ddannoedd, saffrwm fel ffisig sobri ac afalau i dynnu dafadennau.
Mae canolbwynt Llechen Gymreig yr Ardd, a osodwyd gan yr arbenigwyr rheoli cefn gwlad Kehoe Countryside, yn cynnwys murlun crwn 2.5m o ddiamedr o lechen hollt Grug Glas y Penrhyn ‘Welsh Slate’ – dau gylch o amgylch y cylchedd a 'ffyn' yn deillio iddynt o'r canol.

Wedi'i dylunio gan Nicola Oakey, bydd yr ardd hanner erw yn cael ei defnyddio gan fyfyrwyr Ysgol Feddygol Gogledd Cymru'r Brifysgol fel adnodd addysgu i adlewyrchu defnyddiau modern yn ogystal â hanesyddol o blanhigion fel ffynonellau meddyginiaethau.
Mae’r canolbwynt llechen Gymreig yn Nhreborth, a osodwyd ar bad concrid gyda morter, yn cael ei ategu gan lwybrau llechi ar oleddf ‘Welsh Slate’ a osodwyd hefyd, dros chwe mis, gan Kehoe Countryside. Cyflenwyd y palmentydd llechi Cymreig ar gyfer y canolbwynt gan ‘Cerrig Granite and Slate’.
Dywedodd rheolwr contractau Kehoe, Celyn Kehoe: “Roedd creu Gardd Perlysiau Cymreig newydd yng Ngardd Fotaneg Treborth yn arddangos sgiliau traddodiadol gan gynnwys llwybrau o lechi, celf mosaig llechi a waliau cerrig yn ogystal â meinciau wedi'u gwneud yn lleol o bren cynaliadwy.
“Roedd y darn canol wedi’i wneud yn dda iawn ac yn hawdd i’w roi at ei gilydd, tra bo’r gwaith traddodiadol o osod a chodi waliau wedi cymryd mwy o amser ond mae’r llechen yn edrych yn wych yn ei lle, ac mae’n gaffaeliad go iawn i’r ardd.”
Dywedodd Nicola Oakey: “Roedd yn gyfle gwych i weithio gyda Gardd Fotaneg Treborth i ddylunio’r Ardd Perlysiau Cymreig sy’n adrodd stori am blanhigion sydd â chysylltiad dwfn â hanes a threftadaeth Cymru. Dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod ni'n defnyddio deunyddiau lleol yn yr ardd. Mae'r llechen yn ein helpu i adrodd y stori honno ac yn creu gardd sy'n teimlo'n berffaith yn ei lleoliad."
Dywedodd yr Athro Stephen Doughty, Pennaeth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, “Mae'r adnodd addysgu gwych hwn mor amserol, wrth i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru lansio rhaglen Fferylliaeth newydd y flwyddyn nesaf i ategu ein rhaglenni Meddygaeth sy'n tyfu ac yn datblygu. Mae cael ein myfyrwyr i ryngweithio â'r ardd hon a deall yn well y dreftadaeth gyfoethog o ddatblygu cyffuriau a meddyginiaethau sy'n deillio o blanhigion, ac yn wir diwylliant, yn werth ac yn fantais wirioneddol i astudio yma ym Mangor.”
Dywedodd Natalie Chivers-Cross, Pennaeth Gardd Fotaneg Treborth: “Rydym yn falch iawn o agor yr ardd arbennig hon i'r cyhoedd y penwythnos hwn. Gyda chefnogaeth gan y Brifysgol, artistiaid lleol, a chrefftwyr, rydym wedi creu gofod sy'n cael ei ysbrydoli gan y treftadaeth a'r llên gwerin sy'n amgylchynu planhigion meddyginiaethol a ddefnyddiwyd yng Nghymru trwy'r oesoedd. Mae'r Ardd yn ddathliad o bwysigrwydd planhigion yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol."
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad Cynllun Gerddi Cenedlaethol ar ddydd Sul, 13 Gorffennaf rhwng 2:00pm – 5:00pm, ewch i: https://findagarden.ngs.org.uk/garden/35006/treborth-botanic-garden-bangor-university