Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2025 ar gyfer Prifysgol Bangor wedi cael eu cyhoeddi, gan ddangos cynnydd unwaith eto ym moddhad myfyrwyr ar draws nifer o themâu.
Cododd boddhad cyffredinol myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor i 82%, gan godi’r brifysgol i’r 4ydd safle yng Nghymru o blith yr wyth Sefydliad Addysg Uwch sy'n cymryd rhan.
Cynyddodd y boddhad â'r addysgu o 86.4% i 87%, gan osod Prifysgol Bangor yn 3ydd yng Nghymru, sy’n gynnydd o dri safle, a thrwy’r Deyrnas Unedig, mae Prifysgol Bangor wedi ei gosod yn safle 46 allan o 124 o sefydliadau. Dan y thema hon mae myfyrwyr yn nodi pa mor dda y mae’r staff addysgu yn egluro cynnwys eu cyrsiau, yn ennyn eu diddordeb mewn dysgu, ac yn ysgogi chwilfrydedd deallusol.
Llwyddodd sawl rhaglen i gael canran boddhad cyffredinol o 100%, gan gynnwys Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid (Cyfrwng Cymraeg), Rheolaeth Busnes, Seicoleg Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, Hylendid Deintyddol, Peirianneg Electronig, Llenyddiaeth Saesneg, Dylunio Cynnyrch.
Mae'r rhaglenni sy'n perfformio orau o ran y boddhad a’r addysgu yn cynnwys Hylendid Deintyddol, Llenyddiaeth Saesneg, Dylunio Cynnyrch ac Addysg Gynradd (Cyfrwng Cymraeg).
Dywedodd Yakubu Jidda, Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor, “Rwy’n falch iawn o weld cynnydd o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr ac o ran boddhad â’r addysgu. Mae'n arbennig o galonogol gweld ymateb mor gadarnhaol i ba mor dda y mae Undeb y Myfyrwyr yn cynrychioli buddiannau academaidd myfyrwyr. Mae myfyrwyr Bangor wedi cydnabod y cynnydd yr ydym wedi ei wneud drwy ein gosod yn 22ain trwy’r Deyrnas Unedig, sy’n golygu ein bod wedi codi 24 safle o blith 124, ac yn ein rhoi yn 3ydd yng Nghymru. Gobeithio y byddwn yn cario’r momentwm hwn i’r flwyddyn academaidd nesaf.”
Dywedodd yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, “Fel erioed, rydym yn hynod ddiolchgar i bob myfyriwr a gymerodd ran yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac i’n holl staff am eu gwaith caled drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae'n galonogol gweld gwelliant arall yn ein canlyniadau yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, gan adeiladu ar y cynnydd o 10% a gawsom mewn boddhad cyffredinol yn 2024. Rwy'n falch o weld y duedd gadarnhaol hon yn parhau, gyda’r boddhad â’r addysgu yn ein gosod ymhlith y 3 uchaf yng Nghymru ac ymhlith y 50 uchaf trwy’r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn arwydd o’r addysg a'r profiad myfyrwyr o ansawdd uchel yr ydym ni'n ei gynnig yma ym Mhrifysgol Bangor.”