Nofel gyntaf cyn-fyfyrwraig yn cael ei chydnabod yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru 2025

Llongyfarchiadau i Gwenno Gwilym, Swyddog Cynnwys y We ym Mhrifysgol Bangor a chyn-fyfyriwr MA Ysgrifennu Creadigol Saesneg, sydd wedi cael ei chydnabod yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru eleni am ei nofel gyntaf, V + Fo, a gyhoeddwyd gan Gwasg y Bwthyn. Enillodd y nofel y Wobr Ffuglen Gymraeg yn ogystal â Gwobr Barn y Bobl Golwg360 – sef Gwobr Dewis y Bobl Gymraeg.
Cyhoeddwyd yr enillwyr yn ystod seremoni yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd nos Iau, 17 Gorffennaf.
Mae nofel ddwyieithog Gwenno, V + Fo, yn bortread di-hid o gariad a bywyd cartref cyfoes Cymru ddwyieithog, ac mae wedi'i disgrifio fel 'nofel unigryw a doniol sy'n neidio rhwng dau berson a dwy iaith.'
Dywedodd Gwenno, "Mae gen i ddiddordeb mewn ysgrifennu ers fy nyddiau yn yr ysgol gynradd, ond dim ond ers i mi astudio'r radd MA Ysgrifennu Creadigol Saesneg ym Mhrifysgol Bangor yn 2020 rydw i wedi dechrau neilltuo amser i ysgrifennu. Roeddwn wrth fy modd o gyrraedd y rhestr fer, felly roedd ennill y categori ffuglen a gwobr Barn y Bobl yn anhygoel. Roedd y noson gyfan yn teimlo fel noson arbennig iawn, ac roedd yn fraint bod yn rhan ohoni. Rwy'n ddiolchgar am yr holl gefnogaeth ac anogaeth gan fy nhiwtoriaid a roddodd yr hyder i mi gymryd fy ysgrifennu o ddifrif ac i rannu fy ngwaith yn ehangach.”
Dywedodd yr Athro Zoë Skoulding, Arweinydd Rhaglen yr MA mewn Ysgrifennu Creadigol Saesneg, “Roedd yn gyffrous gweld datblygiad ffuglen Gwenno ar y cwrs, ac yn enwedig ei hymateb arloesol i’r diwylliant dwyieithog lle mae ei hysgrifennu wedi ffynnu ers hynny. Mae cynhesrwydd a ffraethineb aruthrol wedi bod yn frith yn ei gwaith erioed, ac rydym i gyd wrth ein bodd gyda'r gydnabyddiaeth hon o awdur newydd rhagorol.”
Wedi'u cydlynu gan Llenyddiaeth Cymru, mae gwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru yn dathlu ysgrifennu rhagorol ar draws pedwar categori yn y Gymraeg a'r Saesneg: Ffuglen, Barddoniaeth, Gwaith Ffeithiol Creadigol, a Phlant a Phobl Ifanc.
Derbyniodd Gwenno £1,000 fel enillydd categori, a derbyniodd waith celf arbennig a grëwyd gan Awel Mari, sef artist digidol sy’n arbrofi â dulliau anghonfensiynol o fynegi Cymreictod a diwylliant ffeministaidd, am ennill Gwobr Barn y Bobl.
Llun: © Mefus Photography / Llenyddiaeth Cymru