Athronydd addawol yn cipio Gwobr Ysgolhaig Ifanc
Mae athronydd addawol wedi derbyn gwobr mewn moeseg ymchil gwyddonol a biolegol.
Derbyniodd Byron Hyde, Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, ail Wobr Ysgolhaig Ifanc Cymdeithas Ewropeaidd Athroniaeth Meddygaeth a Gofal Iechyd (ESPMH) am ei draethawd “Lying Increases Trust in Medicine”.
Bydd yn cyflwyno ei draethawd buddugol yng Nghynhadledd Flynyddol y Gymdeithas ym Mhrifysgol Manceinion, a gynhelir rhwng 13 a 16 Awst. Bu’r gynhadledd gyntaf o’i bath 37 mlynedd yn ôl.
Sefydlwyd y gymdeithas gan gwmni rhyngwladol o athronwyr, meddygon, moesegwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sydd â diddordeb yn y maes, i fyfyrio’n feirniadol am swyddogaeth meddygaeth a gofal iechyd mewn cymdeithas.
Dywedodd Byron Hyde, sy’n Gydymaith Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, “Mae'n anrhydedd cael fy ngwaith wedi'i gydnabod gan gymdeithas academaidd ryngwladol. Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys rhai athronwyr dawnus iawn, felly rwy'n hapus iawn i gael fy nghyfrif yn eu plith. Yn bwysicach fyth, rwy'n gweithio ar y berthynas honno rhwng athroniaeth gwyddoniaeth a biofoeseg sydd, yn fy marn i, yn ddwy ochr i'r un geiniog. Mae'r ganmoliaeth hon yn profi bod cyfuno'r meysydd hyn yn gweithio. Rwy'n gobeithio gweld mwy o gydweithio rhwng athronwyr gwyddoniaeth a biofoesegwyr a byddaf yn gweithio'n galed i wireddu hynny yma ym Mhrifysgol Bangor.”
Mae’r papur arobryn, a gyhoeddwyd o dan y teitl “Lying Increases Trust in Science” yn y cyfnodolyn gwyddorau cymdeithasol, Theory & Society, yn dechrau drwy amlinellu'r “ffenomen ryfedd” sy’n adnabyddus fel y paradocs tryloywder: bod tryloywder yn angenrheidiol i feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwyddoniaeth, ond, gall bod yn dryloyw ynglŷn â gwyddoniaeth, meddygaeth a llywodraeth hefyd leihau ymddiriedaeth.
Yn ôl yr astudiaeth, er bod tryloywder ynghylch newyddion da’n cynyddu ymddiriedaeth, mae tryloywder ynghylch newyddion drwg, megis gwrthdaro buddiannau neu arbrofion aflwyddiannus, yn lleihau ymddiriedaeth.
Felly, mae dweud celwydd yn un ateb posibl i'r paradocs, ac yn ffordd o gynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd, er enghraifft trwy sicrhau bod newyddion drwg yn cael ei guddio, ac mai dim ond newyddion da sy’n cael ei adrodd. Mae Hyde yn nodi, fodd bynnag, bod hyn yn anfoesegol, ac yn anghynaladwy yn y pen draw.
Yn hytrach, mae'n awgrymu y byddai mynd i'r afael ag achos gwreiddiol y broblem, sef bod y cyhoedd yn gor-ddelfrydoli gwyddoniaeth, yn well ffordd ymlaen. Mae pobl yn dal i gredu'n daer yn y ddelwedd boblogaidd o wyddonydd nad yw'n gwneud unrhyw gamgymeriadau, ac mae hynny’n creu disgwyliadau afrealistig.
Gwrandewch ar Hyde yn siarad am yr astudiaeth hon ar The Last Show with David Cooper (30 Gorffennaf 2025, 30:48–40:38).