Rhannodd y bardd o Fanceinion, Tom Jenks, ei gerddi delweddu data drwy berfformiad amlgyfrwng difyr a doniol. Ag yntau’n adnabyddus am gyhoeddi gyda gweisg bychain, ac am ail-greu cerddi fel gwrthrychau, cynhaliodd hefyd weithdy gyda myfyrwyr ar fodiwl Ysgrifennu Arbrofol Zoë Skoulding, gan eu hannog i feddwl mewn ffyrdd newydd am gyflwyniad a chylchrediad eu gwaith.

Dan arweiniad Dr Fiona Cameron, sy’n Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol, trafododd Lucie McKnight-Hardy y stori fer fel cyfrwng ar gyfer ysgrifennu llenyddiaeth arswyd, gan ysbrydoli sawl myfyriwr blwyddyn olaf i ysgrifennu straeon dychryn ar gyfer y modiwl Short Sharp Shocks, a rannwyd yn yr Arddangosfa Greadigol ychydig cyn graddio.
Uchafbwynt y gyfres oedd ymweliad SJ Kim, y mae ei gwaith ffeithiol greadigol treiddgar yn archwilio hunaniaethau trawsddiwylliannol cyfoes.

Mewn trafodaeth gydag Alys Conran, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol, siaradodd y nofelydd Megan Barker am y broses o ysgrifennu a'r gorgyffwrdd rhwng y nofel a ffurfiau celfyddydol eraill.
Dywedodd Zoë Skoulding, sy’n Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol:
Rydym yn ddiolchgar i'r awduron am eu parodrwydd i rannu profiadau a safbwyntiau gyda'n myfyrwyr, ac mewn rhai achosion hyd yn oed am gadw mewn cysylltiad â myfyrwyr ar ôl y digwyddiad, ac am eu hannog i deimlo'n rhan o gymuned lenyddol ehangach. Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i'r cyn-fyfyrwyr y mae eu cyfraniadau hael wedi gwneud y digwyddiadau hyn yn bosibl trwy Gronfa Bangor.