Cronfa Bangor yn cefnogi adnoddau newydd am iechyd rhywiol i fyfyrwyr
Mae Cronfa Bangor wedi helpu Undeb Bangor, sef Undeb y Myfyrwyr, gyda'u menter i wella iechyd a lles rhywiol myfyrwyr. Mae adnoddau a chynnwys newydd wedi'u datblygu i sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo'n wybodus, yn cael eu cefnogi, ac yn hyderus yn eu perthnasoedd. Mae Cronfa Bangor yn cael ei hariannu gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr ac yn cael ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni.
Gan weithio gyda The Sex Education Company, cyflwynodd Undeb Bangor sesiwn holi ac ateb cadarnhaol lle gallai myfyrwyr ofyn cwestiynau'n ddienw ynglŷn â rhyw a pherthnasoedd. Roedd y gofod diogel, di-stigma hwn yn annog deialog agored ac yn tynnu sylw at feysydd allweddol a oedd yn peri pryder, gan gynnwys opsiynau o ran beichiogrwydd. Mewn ymateb, cynhyrchwyd fideo newydd yn ymdrin ag erthyliad a sut i gael mynediad at gefnogaeth, sydd bellach yn rhan o lyfrgell gynyddol o adnoddau addysgol.
Aeth yr ymgyrch hefyd i’r afael â datblygiadau cyfreithiol diweddar ynghylch tagu rhywiol, gan gomisiynu fideo i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau a’r oblygiadau cyfreithiol. Roedd fideo arall yn canolbwyntio ar endometriosis, gan gynnig ffeithiau a chyngor wedi'u teilwra i fyfyrwyr, gan gynnwys sut i geisio cefnogaeth yn y Brifysgol.
Tara Hine, the Undeb Bangor’s academic advice and welfare projects coordinator, said, Dywedodd Tara Hine, cydlynydd projectau cyngor academaidd a chyngor lles Undeb Bangor
Rydym yn gwybod bod myfyrwyr eisiau teimlo’n ddiogel, yn wybodus a’u bod yn cael eu parchu yn eu perthnasoedd. Mae'r ymgyrch hon yn ymwneud â rhoi'r offer iddyn nhw i wneud dewisiadau hyderus, gofyn cwestiynau heb ofn, a chael mynediad at gefnogaeth pan fydd arnyn nhw ei hangen. Mae wedi bod yn anhygoel gweld ymgysylltiad mor gadarnhaol gan fyfyrwyr, gan gadarnhau pa mor bwysig yw'r gwaith hwn. Diolch i gefnogaeth Alumni Bangor am wneud y gwaith pwysig hwn yn bosibl ac am ein helpu i greu adnoddau sy'n uniaethu â phrofiadau go iawn myfyrwyr.

Mae'r mentrau hyn yn parhau i chwalu stigma, hyrwyddo dewisiadau gwybodus, a chefnogi lles myfyrwyr. Gallwch wylio’r fideos ar dagu rhywiol, dewisiadau o ran beichiogrwydd, ac endometriosis yn undebbangor.com/cy/sexualhealth, a gwylio’r sesiwn holi ac ateb ynglŷn ag Iechyd Rhywiol ar YouTube.



Cronfa Bangor
Mae Cronfa Bangor yn cael ei hariannu gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr ac yn cael ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr.