Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menopos ym Mangor - 17eg Hydref 2025 - Cadwch y Dyddiad!
Bob blwyddyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menopos, mae Cymdeithas Rhyngwladol y Menopos yn gwahodd cymunedau ac sefydliadau i ystyried thema benodol sy'n gysylltiedig â phrofiad y menopos, a'i defnyddio i ehangu ymwybyddiaeth a chryfhau strwythurau cefnogi.
Mae Grŵp Menopos Staff Y Brifysgol yn falch o groesawu Dr Jen Cooney yn ôl i gyflwyno ar-lein ar y thema eleni o "Meddyginiaeth Amgen." Tra bod meddyginiaethau a ymyriadau therapiwtig yn gallu bod yn effeithiol ar gyfer llawer o fenywod, mae ffyrdd amgen o wella iechyd a lles yn ystod peri-/menopos ac ôl-menopos, fydd yn cael ei bwysleisio yn ystod y sesiwn anffurfiol hwn.
Cawn glywed gan Dr Jen sut i sefydlu arferion sy'n gwella agweddau allweddol y meddyginiaethau amgen hyn, gan gynnwys gorffwys, maeth, dadhydration a rheoleiddio’r system nerfol.
Mae'r sesiwn ar agor i staff y Brifysgol a bydd y sesiwn yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg. Bydd recordiad o'r sesiwn gychwynnol 45-munud ar gael yr wythnos ganlynol i unrhyw un a gofrestrodd ond nad oedd yn gallu mynychu.
I gofrestru ar gyfer y sesiwn hon, archebwch trwy'r tab 'Dysgu' ar eich cyfrif itrent ESS yma: https://ce0791li.webitrent.com/ce0791li_ess/ess/dist/#/main/learning/courses/activity/8377757CuU
Am unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch gyda Anna Quinn, Rheolwr Prosiect Iechyd a Lles drwy e-bost.