Iechyd Cyfunol: Prifysgolion yn cydweithio i greu canllaw i adfer ecosystemau
Mae ymchwilwyr mewn prifysgolion wedi ymuno i greu canllaw i adfer ecosystemau sy'n hanfodol os yw'r blaned am gael dyfodol iach.
Dan arweiniad Prifysgol Helsinki, gyda Phrifysgol Bangor fel partner, mae'r canllaw’n darparu cyngor ymarferol a rhagweithiol i sicrhau bod projectau adfer ecosystemau hefyd yn hybu iechyd pobl ac anifeiliaid drwy greu tirweddau iachach.
Mae’r papur, a gyhoeddwyd yn Nature Ecology and Evolution yn defnyddio'r hyn y mae'r ymchwilwyr yn ei alw'n ddull adfer "Iechyd Cyfunol". Gyda'r strategaeth hon, mae projectau wedi eu cynllunio i atal clefydau milheintiol, sef clefydau a all basio rhwng anifeiliaid a bodau dynol.
Er ein bod eisoes yn ymwybodol bod difrodi byd natur yn cynyddu’r risg o glefydau newydd, mae’r dystiolaeth wyddonol ynghylch sut mae projectau adfer yn lleihau neu’n rheoleiddio’r risgiau hyn yn benodol wedi bod yn aneglur.
Mae'r canllaw newydd yn llenwi'r bwlch hwn drwy gynnig fframwaith clir i reolwyr adfer. Mae'r ymchwil yn pwysleisio bod adferiad yn gyfle i adfer bioamrywiaeth yn ogystal ag adeiladu tirweddau iachach o'r cychwyn cyntaf.
Dywedodd Dr Luci Kirkpatrick, Darlithydd mewn Ecoleg Bywyd Gwyllt ym Mhrifysgol Bangor, "Does dim dwywaith bod adfer ecosystemau sydd wedi dirywio ac sydd wedi eu difrodi yn hanfodol er budd ein hiechyd yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae angen canllawiau ymarferol arnom ar sut i wneud hyn mewn ffordd sy'n gwneud y mwyaf o wasanaethau ecosystemau, yn enwedig gwasanaethau rheoleiddio clefydau."
Dywedodd Yr Athro Frauke Ecke o Brifysgol Helsinki, "Rydym yn cyflwyno proses addasol sy'n cynnig canllawiau ymarferol ar sut i adfer ecosystemau mewn ffordd sy'n gwneud y mwyaf o fioamrywiaeth a gwasanaethau hanfodol wrth fynd ati’n rhagweithiol i leihau'r risg o glefyd."
Mae'r dull “Iechyd Cyfunol" yn cydnabod bod iechyd pobl, anifeiliaid a'r amgylchedd yn gysylltiedig â'i gilydd yn y bôn.
Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyd-greu, sy'n golygu dod â phawb ynghyd i gymryd rhan yn y cynllunio, o gymunedau lleol i wyddonwyr, yn allweddol i’r strategaeth hon.
Amlygir yr angen am dargedau cynhwysfawr ym mhob project. Mae hyn yn cynnwys targedau o ran bioamrywiaeth, manteision hinsawdd, a defnydd tir. I fonitro rhywogaethau sy'n cario pathogenau a phresenoldeb clefydau, a thracio aramlygiad posibl ac achosion o glefydau ymysg bodau dynol.
Drwy ystyried yr holl ffactorau hyn, gellir cynllunio projectau adfer i fod yn gadarn ac yn llwyddiannus, gan gefnogi ymdrechion byd-eang i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth. Mae'r canllaw hefyd yn pwysleisio'r angen i gynllunio ar gyfer y newid yn yr hinsawdd, a all newid sut mae adferiad yn effeithio ar ecosystemau.
Dywedodd Yr Athro Joacim Rocklöv o Brifysgol Heidelberg, yn yr Almaen, "Wrth i gynefinoedd wella, gall y newid yn yr hinsawdd arwain at newidiadau yn y rhywogaethau sy'n bresennol ac yn doreithiog." Drwy gynllunio ar gyfer hyn, gallwn sicrhau bod ymdrechion adfer yn wydn ac yn cadw nifer yr anifeiliaid a'r pathogenau sy'n cario clefydau dan reolaeth."
Drwy adferiad traddodiadol, gall gymryd amser hir i adfer ecosystemau yn llwyr. Mae'r astudiaeth yn awgrymu bod modd i dechneg o'r enw dad-ddofi tir troffig gyflymu'r broses. Mae hyn yn canolbwyntio ar ailgyflwyno rhywogaethau o bwys ecolegol, megis ysglyfaethwyr, i adfer dynameg naturiol y gadwyn fwyd.