Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn 'gyfle euraidd' i weld casgliadau sbesimenau prin Prifysgol Bangor
Caiff aelodau’r cyhoedd “gyfle euraidd” i weld casgliadau Prifysgol Bangor o sbesimenau prin fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru.
Mae'r sbesimenau, sydd yn rhan o gasgliadau amgueddfa achrededig Y Brifysgol, yn cynnwys oen gyda dau ben, cyrn elc Gwyddelig 7,500 mlwydd oed a chrwban Galapagos – y rhywogaeth a ysbrydolodd Charles Darwin i ddatblygu ei ddamcaniaeth am esblygiad.

Fel rhan o’r ŵyl eleni, bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell Prifysgol Bangor ar agor ddydd Sadwrn, 25 Hydref, o 11am i 3pm, fel bod aelodau'r cyhoedd yn gallu dysgu mwy am y sbesimenau sydd i’w gweld yno.
Nid yw'r casgliadau fel arfer ar agor i'r cyhoedd, cânt eu defnyddio i ddysgu myfyrwyr y brifysgol yn unig.
Bydd cyfle i ymwelwyr ofyn cwestiynau i'r myfyrwyr fydd yno, a bydd cornel weithgareddau hefyd i blant o bob oed.
Mae'r Ŵyl Amgueddfeydd yn dathlu hanes a thraddodiadau cyfoethog Cymru, yn ogystal â chynnig digwyddiadau rhad ac am ddim sy'n addas i deuluoedd ar hyd a lled y wlad yn ystod hanner tymor mis Hydref.
Cafodd y casgliadau a gedwir yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell Prifysgol Bangor
eu rhoi gan aelodau'r cyhoedd a chan amrywiol academyddion dros y blynyddoedd.
Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:
- Cath wyllt a roddwyd i'r amgueddfa ym 1926 gan David Davies, ŵyr David Davies Llandinam.
- Cyrn elc Gwyddelig, tua 7,500 mlwydd oed, a ddarganfuwyd mewn cors yn Iwerddon ac a roddwyd gan Goleg y Drindod, Dulyn.
- Ysgithr morfil uncorn
- Oen gyda dau ben a anwyd yn farw ym 1955 ar fferm Tyddyn Du yn Gerlan, Bethesda.
- Crwban Galapagos. Crwbanod Galapagos a ysbrydolodd Charles Darwin i ddatblygu ei theori am esblygiad.
- Cas gydag adar o Seland Newydd a roddwyd ym 1922 gan H.R. Davies a ddaeth â'r casgliad i Gymru ym 1885. Tynnwyd y llun cefndir o ffotograff o'r Teras Pinc yn Seland Newydd a ddinistriwyd yn llwyr gan losgfynydd yn ffrwydro ym 1886.
Meddai Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol yn Mrhifysgol Bangor, “Rydym yn falch bod Amgueddfa Hanes Natur Brambell yn cymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, yn enwedig gan fod y Brifysgol bellach yn amgueddfa achrededig. Mae hwn yn gyfle euraidd i’r cyhoedd weld ein casgliadau hanesyddol o sbesimenau prin.”
Meddai Rachael Rogers o Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, sy'n trefnu'r ŵyl, ‘mae'r wythnos hon yn gyfle i ddangos y gwaith anhygoel mae amgueddfeydd ledled Cymru yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn. Mae'n gyfle i ddysgu mwy am hanes Cymru a chymryd rhan mewn digwyddiadau difyr dros hanner tymor. Rydym yn falch iawn o weld cymaint o amgueddfeydd yn cymryd rhan eto yn 2025 ac rydym yn edrych ymlaen at weld beth mae pawb yn ei wneud dros hanner tymor.’
Yn ddiweddar, mae casgliadau amgueddfa Prifysgol Bangor, gan gynnwys Amgueddfa Brambell, wedi derbyn achrediad am y tro cyntaf. Achredu yw'r safon genedlaethol ar gyfer amgueddfeydd a mae’r Brifysgol yn gweithio tuag at wella mynediad at gasgliadau amgueddfa’r Brifysgol mewn partneriaeth ag oriel gelf ac amgueddfa Storiel.
Ariennir Gŵyl Amgueddfeydd Cymru gan Lywodraeth Cymru a threfnir yr ŵyl gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru.
Mae adeilad Brambell gyferbyn ag ASDA ac mae cyfarwyddiadau ar gael ar y wefan: http://www.bangor.ac.uk/tour/LocationMap.pdf
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau a gweld rhestr lawn o weithgareddau'r ŵyl, ewch i wefan yr ŵyl: https://museumsfederation.cymru/cy/gwyl-amgueddfeydd-cymru/