Gwobr i egin academydd am ymchwil PhD ar brofiad athletwyr byddar
Mae egin academydd disglair a aned yn fyddar wedi cipio gwobr fawreddog am ei hymchwil PhD.
Enillodd Dr Libby Steele, a gwblhaodd ei doethuriaeth mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon Prifysgol Bangor, Wobr STEM Ifanc yn y ‘Community Sport and Recreation Awards: Youth Edition 2025.’
Canolbwyntiodd yr academydd, a goronwyd mewn dathliad arbennig a gynhaliwyd gan y Gynghrair Chwaraeon a Hamdden ym Mhalas Sant Iago, yn ei thraethawd doethurol ar brofiad athletwyr byddar a'r rhai sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel eu hiaith gyntaf wrth gystadlu mewn athletau.
Cyflwynwyd ei thlws iddi gan Lywydd y Gynghrair, Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin.
Wrth gystadlu ochr yn ochr ag athletwyr, mae athletwyr byddar fel arfer yn wynebu arwyddion amrywiol o ran pryd i gychwyn, megis goleuadau, baneri a bandiau braich sy'n dirgrynu, sy'n cael eu cyfuno â sain. Nod hyn yw annog cynhwysiant.
Fodd bynnag, canfu'r astudiaeth fod diffyg cysondeb o ran technolegau a fabwysiadwyd wedi arwain at gyfleoedd anghyfartal ar gyfer amseroedd ymateb cyflym rhwng athletwyr byddar a rhai sy'n clywed. O ystyried bod amser ymateb yn elfen hanfodol o berfformiad mewn digwyddiadau sbrint, y nod oedd pennu a yw arwyddion cychwyn cyfredol yn peri anfantais i athletwyr byddar.
Gobeithir y bydd yr ymchwil yn llywio datblygiad system gychwyn safonol a fydd yn gwella cydraddoldeb i athletwyr byddar mewn chwaraeon.
Dywedodd Dr Libby Steele, “Cefais fy ngeni'n fyddar, a bu'n rhaid i mi oresgyn anawsterau o ran cyfathrebu, cymdeithasu a rhwystrau eraill drwy fy holl fywyd. Wrth i mi fynd yn hŷn, des i weld yr anghydraddoldeb sy'n wynebu pobl fyddar ac roeddwn i'n teimlo rheidrwydd i wneud rhywbeth yn ei gylch.
“Nod fy noethuriaeth yw dylanwadu ar ddatblygiad system gychwyn safonol a fydd yn gwella cydraddoldeb i athletwyr byddar mewn chwaraeon. Ar hyn o bryd nid oes llwybr perfformiad penodol na system gychwyn safonol ar gyfer athletwyr byddar. Mae hyn yn rhwystro hygyrchedd a darpariaeth i athletwyr byddar, ac yn rhwystr sylweddol ar y ffordd tuag at fwy o gydraddoldeb.”
Dywedodd Dr Vicky Gottwald, Uwch Ddarlithydd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Bangor, a Goruchwyliwr Doethurol Libby, “Mae Libby yn ymgeisydd gwirioneddol haeddiannol am y wobr hon. Mae hi wedi buddsoddi'r degawd diwethaf ym Mangor, gan ddefnyddio ei hymchwil i eiriol dros athletwyr byddar. Mae astudiaethau doethurol Libby mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio paradeimau dysgu echddygol i nodi a chodi ymwybyddiaeth o anghydraddoldebau y mae athletwyr B/byddar yn eu hwynebu ar y llinell gychwyn o ran amser ymateb.
“Wrth weithio i Athletau Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru, mae Libby wedi parhau i fod yn llysgennad i’r Brifysgol ac rwyf wrth fy modd y bydd hi’n dychwelyd fel ymchwilydd ar broject Iechyd a Lles Pobl Fyddar Cymru dan arweiniad Dr Christopher Shank”.
Ar hyn o bryd, Libby yw Cydlynydd Cynhwysiant ac Ymgysylltu Athletau Cymru, yn ogystal â bod yn Uwch Swyddog Chwaraeon Byddar Chwaraeon Anabledd Cymru, a bydd yn dychwelyd i Brifysgol Bangor yn fuan i ymgymryd â swydd ymchwil ar gyfer project Iechyd a Lles Pobl Fyddar Cymru.
Mae’r project yn un tair blynedd, gwerth 1.04 miliwn, gyda Phrifysgol Bangor yn cydweithio ag amryw o bartneriaid. Y nod yw gwella gwasanaethau gofal iechyd drwyddi draw trwy weithio gyda phobl fyddar, y Gwasanaeth Iechyd, byrddau iechyd a darparwyr gwasanaethau eraill.
Bydd hefyd yn datblygu geiriadur ac adnoddau ar-lein i helpu dehonglwyr, darparwyr gwasanaethau a'r rhai sydd â diddordeb mewn ieithoedd arwyddion ac mewn ymchwil i ieithoedd arwyddion. At hyn, bydd y project yn datblygu apiau ac arnynt ganllawiau fideo i wella mynediad i Barc Cenedlaethol Eryri, Llwybr Arfordir Penfro a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.