Ymchwil newydd yn datgelu effaith ddifrifol ffliw adar ar forloi eliffant deheuol
Mae ymchwil newydd yn datgelu gostyngiad o 47% mewn morloi eliffant benywaidd sy'n bridio ar ynys is-Antarctig De Georgia, yn dilyn achos dinistriol o ffliw adar.
Mae tîm o wyddonwyr o'r Arolwg Antarctig Prydeinig (BAS), gan gynnwys Dr Phil Hollyman o Brifysgol Bangor, wedi dogfennu effaith ddifrifol ffliw adar (HPAI) ar forloi eliffant deheuol yn Ne Georgia.
Mae’r ymchwil, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Communications Biology, yn dangos bod poblogaeth fwyaf y byd o forloi eliffant deheuol – sy'n cyfrif am dros hanner y boblogaeth fyd-eang o oedran bridio – wedi dioddef colledion digynsail yn dilyn dyfodiad y straen HPAI H5N1 o ffliw adar i'r ynys is-Antarctig anghysbell ddiwedd 2023.
Gan ddefnyddio technoleg arolygon o’r awyr, aeth y tîm ymchwil ati i fonitro’r tair o’r cytrefi bridio fwyaf yn Ne Georgia (sy'n cynrychioli 16% o gyfanswm y boblogaeth fridio benywaidd, yn seiliedig ar ddata cyfrifiad o 1995), gan gymharu niferoedd y benywod bridio cyn ac ar ôl yr achosion o'r firws.
Mae eu canfyddiadau'n datgelu gostyngiad cyfartalog o 47% mewn benywod rhwng 2022 a 2024, gyda rhai cytrefi'n profi dirywiad o dros 60%.
Dywedodd Dr Phil Hollyman, Darlithydd mewn Pysgodfeydd Morol Byd-eang yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor,
“Mae'n dorcalonnus adrodd am ddirywiad mor ddifrifol ym mhoblogaeth bridio fwyaf y byd o forloi Eliffant Deheuol. Dyma rywogaeth fwyaf y morloi yn y byd ac maent yn rhan eiconig o draethau De Georgia. P'un a yw HPAI wedi achosi marwolaethau uniongyrchol neu newidiadau mewn ymddygiad, mae'r gostyngiad hwn yn y boblogaeth yn peri pryder mawr. Mae angen ymdrechion monitro parhaus i ddeall yr effaith hirdymor yn llawn.
“Pan wnaethom gynnal y casgliad data cynnar sydd wedi’i gynnwys yn y papur hwn, roeddem yn ceisio amcangyfrif maint y cytrefi allweddol o amgylch yr ynys yn unig. Roeddem yn ffodus bod y cyfrifiadau hyn wedi eu gwneud ychydig cyn i effaith ddinistriol HPAI ddod yn amlwg, gan eu bod wedi rhoi set hynod werthfawr o bwyntiau data diweddar inni. Mae wir yn tanlinellu gwerth ymdrechion monitro hirdymor."
Dywedodd Dr Connor Bamford, ecolegydd morloi ac awdur arweiniol o BAS: “Mae maint y dirywiad hwn yn wirioneddol syfrdanol. Mewn blynyddoedd nodweddiadol, efallai y byddwn yn gweld amrywiadau o tua 3-7% rhwng blynyddoedd, ond mae gweld bron i hanner y boblogaeth bridio yn absennol yn ddigynsail. Mae hyn yn cynrychioli tua 53,000 o fenywod coll ar draws poblogaeth gyfan De Georgia.
“Yr hyn sy’n peri pryder arbennig yw bod morloi eliffant deheuol yn anifeiliaid hirhoedlog. Bydd hyd yn oed gostyngiadau tymor byr mewn allbwn atgenhedlu neu farwolaethau yn y boblogaeth bridio yn cael effeithiau hirdymor ar sefydlogrwydd y boblogaeth. Mae’n debyg y byddwn yn teimlo canlyniadau’r achosion hyn am flynyddoedd lawer i ddod.”
Mae morloi eliffant deheuol yn un o'r rhywogaethau mwyaf eiconig yn Antarctica, ac mae’r oedolion yn gallu plymio i ddyfnderoedd o dros 1,500 metr a theithio miloedd o gilometrau i fwydo ar draws Cefnfor y De cyfan. Mae ynysoedd anghysbell De Georgia wedi bod yn gartref i boblogaeth sefydlog ers degawdau.
Ymddangosodd y firws am y tro cyntaf yn Ne Georgia ym mis Medi 2023, a ganfuwyd yn wreiddiol mewn sgiwennod brown cyn lledaenu i famaliaid y môr gan gynnwys morloi eliffant a morloi ffwr Antarctig.
Defnyddiodd y tîm ymchwil gerbydau adenydd sefydlog UAV i gynnal arolygon awyr manwl gywir, gan greu mapiau manwl o'r cytrefi bridio a galluogi cyfrifiadau cywir o forloi unigol. Roedd y dechnoleg hon yn caniatáu i wyddonwyr asesu effaith HPAI gyda chywirdeb digynsail, er gwaethaf yr amodau anghysbell a heriol.
Mae'r canfyddiadau'n adlewyrchu'r gostyngiadau sylweddol a welwyd ym mhoblogaethau morloi eliffantod De America, lle achosodd HPAI gyfraddau marwolaethau o dros 70% mewn rhai ardaloedd. Fodd bynnag, roedd poblogaeth De Georgia yn arfer cael ei hystyried yn sefydlog ac wedi'i hynysu rhag bygythiadau o'r fath.
Mae'r ymchwil yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol parhau â'r monitro parhaus, hirdymor dan arweiniad Arolwg Antarctig Prydain ers 2015, sydd wedi integreiddio cyfrifiadau daear, arolygon drôn a delweddau lloeren i asesu maint llawn y difrod ac olrhain adferiad posibl. Mae'r data gwaelodlin hwn yn galluogi ymchwilwyr i wahaniaethu rhwng amrywiadau tymor byr ac effeithiau parhaol ar lefel y boblogaeth.
Ariannwyd yr astudiaeth gan ddau grant Darwin Plus o Gronfa Her Bioamrywiaeth (DPLUS109 a DPLUS214) ac a gynhaliwyd o dan drwyddedau gan Lywodraeth De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De.
Morloi eliffant