Lansio cydweithrediad rhyngwladol i amddiffyn siarcod a chathod môr sydd mewn perygl yn Indonesia
Mae project rhyngwladol newydd dan arweiniad Prifysgol Bangor yn anelu at gefnogi adferiad poblogaethau siarcod a chathod môr trwy weithredu ar sail tystiolaeth yn Indonesia - y genedl pysgota siarcod fwyaf yn y byd.
Bydd y fenter tair blynedd, a ariennir gan y Gronfa Cadwraeth Siarcod, yn dod â gwyddonwyr, asiantaethau'r llywodraeth, a chymunedau lleol ynghyd i ddatblygu, profi a graddio dulliau arloesol o leihau pwysau pysgota ar rai o’r rhywogaethau morol ledled y byd sydd o dan y bygythiad mwyaf.
Mae'r project yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor, Yayasan Kebersamaan Untuk Lautan (KUL) – sef sefydliad ar lawr gwlad yn Indonesia y mae ei enw'n golygu Gyda'n Gilydd dros y Cefnforoedd – a'r Ganolfan Astudiaethau Adnoddau Arfordirol a Morol (PKSPL) ym Mhrifysgol IPB, sef un o brif sefydliadau ymchwil morol Indonesia.
Fel ysglyfaethwyr mudol, mae siarcod a chathod môr yn sefydlogi gweoedd bwyd, yn cefnogi’r broses o drosglwyddo maetholion, ac yn gweithredu fel baromedr cyffredinol o ran iechyd y cefnforoedd. Ac eto, mae astudiaethau diweddar yn dangos bod poblogaethau siarcod a chathod môr yn profi dirywiad byd-eang trychinebus. Mae nifer byd-eang siarcod cefnforol wedi gostwng dros 70% yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, mae siarcod riff yn gwbl absennol o bron i 20% o riffiau a samplwyd ledled y byd, ac mae un o bob tair rhywogaeth o dan beth bygythiad o ddifodiant, ac mae hyn i gyd yn bennaf oherwydd gorbysgota.
Mae academyddion ac ymgyrchwyr yn rhybuddio bod dirywiad ym mhoblogaethau siarcod a chathod môr yn rhybudd cynnar o ddirywiad yn iechyd cyffredinol ein cefnforoedd - oherwydd pwysau cynyddol megis y newid yn yr hinsawdd, llygredd a gorbysgota. O bron i 8 biliwn o bobl ar y ddaear, mae dros 1 biliwn yn dibynnu ar fwyd môr fel eu prif ffynhonnell fwyd, ac mae'r diwydiant bwyd môr yn darparu dros 780 miliwn o swyddi ledled y byd. O'r herwydd, mae dirywiad yn iechyd ein cefnforoedd hefyd yn bygwth lles dynol gan ei fod yn arwain at golled o ran diogeled bwyd, swyddi, elw ac asedau hamdden a thwristiaeth. Fodd bynnag, gall siarcod a chathod môr iach gefnogi adferiad ecosystemau morol a all, yn ei dro, gefnogi ffyniant dynol a meithrin gwytnwch o ran wynebu’r newid yn yr hinsawdd.
Mae Indonesia yn fan problemus byd-eang o ran bioamrywiaeth forol a phwysau pysgota, ac mae'n gartref i dros 2 filiwn o bysgotwyr graddfa fach sy'n dibynnu ar bysgodfeydd am fwyd ac incwm. Fodd bynnag, mae tiroedd pysgota llawer o bysgodfeydd graddfa fach yn gorgyffwrdd â chynefinoedd hanfodol i siarcod prin sydd mewn perygl, megis siarcod pen morthwyl, cathod môr lletem, llwynogod môr a morgathod corniog. Mae hyn yn golygu bod llawer o'r rhywogaethau hyn yn agored i gael eu dal mewn rhwydi a llinellau annethol y mae pysgotwyr graddfa fach yn eu defnyddio i ennill bywoliaeth.
Mae gan lawer o siarcod a chathod môr hefyd werth economaidd neu gynhaliaeth – am eu cig, eu hesgyll, eu croen a’u holew iau. Mae hyn yn golygu, pan gânt eu dal, eu bod yn cael eu cadw a'u bwyta neu eu gwerthu, gan wneud cyfraniadau cymdeithasol ac economaidd pwysig at fywoliaeth arfordirol. Yn y sefyllfaoedd hyn, mae gweithredu amddiffyniadau llym o'r brig i lawr yn anymarferol a gall gael effeithiau negyddol ar y bobl dlawd, wledig.
Bydd y project newydd – sy'n manteisio ar fewnwelediadau a momentwm o dechnoleg arloesol ymchwil a rhaglenni cymunedol wedi eu datblygu o dan Grant Menter Darwin y Deyrnas Unedig – yn gweithio gyda physgotwyr, ymchwilwyr a llunwyr polisi i ddatblygu atebion rheoli sy'n seiliedig ar wyddoniaeth a all atal y dirywiad ym mhoblogaethau siarcod wrth gefnogi bywoliaeth arfordirol.
Gan weithio ar draws sawl talaith, nod y tîm o ymchwilwyr ac ymarferwyr yw cefnogi partneriaid lleol i ddatblygu dulliau amddiffyn gofodol a mesurau rheoli pysgodfeydd teg ac effeithiol, sydd wedi eu hintegreiddio'n agos ag ymdrechion gweithredu CITES ar lefel genedlaethol ac yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. Byddant hefyd yn defnyddio dulliau arloesol i werthuso'n drylwyr pa fathau o ymyriadau rheoli sy'n gweithio orau, i bwy, a pham.
Dywedodd Dr Hollie Booth, arweinydd y project yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor: “Drwy gyfuno gwyddoniaeth drylwyr, partneriaethau cymunedol ac ymgysylltu â pholisi, gallwn ddod o hyd i atebion ymarferol sy'n amddiffyn rhywogaethau sydd o dan beth bygythiad wrth gefnogi'r bobl sy'n dibynnu ar y cefnfor.”
Ychwanegodd yr Athro Luky Adrianto, partner project ym Mhrifysgol IPB: “Mae'r cydweithrediad hwn yn dangos sut y gall cadwraeth gynhwysol ar sail tystiolaeth a phartneriaethau teg gyflawni newid gwirioneddol i fioamrywiaeth a chymunedau, wrth hefyd hwyluso hyfforddiant dwyffordd a chyfnewid gwybodaeth rhwng ymchwilwyr o Indonesia a Phrydain.”