Mae ymchwil newydd yn awgrymu y gallai gaeafau cynhesach achosi niwed i DNA madfallod
Mae canfyddiadau papur academaidd newydd yn awgrymu bod gaeafau cynhesach yn achosi niwed i DNA rhai madfallod.
Yn ôl yr ymchwil dan arweiniad Prifysgol Bangor mae gaeafau cynhesach o ganlyniad i newid hinsawdd yn peri “bygythiad sylweddol” i ectothermiaid, sef anifeiliaid sy'n dibynnu ar ffynonellau gwres allanol, megis yr haul, i reoleiddio tymheredd eu corff.
Newidiodd ymchwilwyr dymheredd arbrofol i fadfallod cyffredin y muriau o boblogaeth a gyflwynwyd yn ne'r Deyrnas Unedig yn ystod eu cyfnod gaeafgysgu arferol.
Roeddent yn gallu asesu effeithiau gwahanol batrymedd cynhesu gaeafol ar weithgarwch, cyflwr y corff, a straen ocsidiol, sef anghydbwysedd rhwng dau fath gwahanol o foleciwlau o'r enw radicalau rhydd a gwrthocsidyddion mewn ffurfiau bywyd.
Mewn bodau dynol, credir bod straen ocsidiol yn gysylltiedig â datblygiad canser, clefyd Parkinson a chlefyd Alzheimer. Mewn anifeiliaid, mae’n gysylltiedig â heneiddio, lleihad yn y gallu i oroesi, a llai o ffrwythlondeb.
Yn yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y Journal of Experimental Biology ac o dan arweiniad Miary Raselimanana, biolegydd cadwraeth, amlygwyd y madfallod i dair triniaeth am 3 mis a hanner, sef gaeaf oer nodweddiadol, gaeaf a oedd yn gynnes ac yn fwyn yn gyson, a thymheredd gaeaf a oedd yn amrywio.
Canfuwyd bod cynhesu mwyn a chyson yn cynyddu gweithgarwch yn sylweddol, ond nid oedd y patrymedd amrywiadol yn gwneud hynny, gan awgrymu bod hyd y cyfnod o newid yn y tymheredd yn bwysig.
Dangosodd y patrymedd mwyn cyson duedd tuag at wneud mwy o ddifrod i DNA o ganlyniad i straen ocsidiol.
Dywedodd Miary Raselimanana o Brifysgol Bangor, “Mae’r gaeaf yn cynhesu’n gyflymach na’r haf, gan beri bygythiad sylweddol i ectothermiaid sy’n gaeafgysgu, y mae eu ffisioleg yn dibynnu’n uniongyrchol ar amodau amgylcheddol. Er bod effeithiau cynhesu tymhorau gweithredol yn cael eu deall yn gynyddol fwy, mae canlyniadau cynhesu'r gaeaf yn parhau i fod heb eu hastudio'n ddigonol. Mae ymchwil wedi canolbwyntio'n bennaf ar batrymedd tymheredd cyson, unigol, gan anwybyddu rôl tymheredd amrywiol. Yn ogystal â hynny, nid oes dealltwriaeth dda o’r patrymedd cynhesu penodol sy’n tarfu fwyaf ar aeafgysgu, eu heffeithiau ar weithgarwch y gaeaf, a’r canlyniadau ffisiolegol dilynol.”
Dywedodd goruchwyliwr yr astudiaeth, Dr Kirsty Macleod o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor, “Ar y cyfan, mae ein canfyddiadau’n awgrymu gwytnwch yn ymddygiad madfallod cyffredin y muriau i gynhesu cymedrol yn y gaeaf. Fodd bynnag, gallai costau cudd ar lefel foleciwlaidd ddod i'r amlwg o dan amodau mwyn parhaus. Rydym yn annog integreiddio sensitifrwydd ymddygiadol ac ymatebion ffisiolegol cynnil i fodelau sy'n rhagweld gwytnwch rhywogaethau i newid hinsawdd. Mae ein hastudiaeth yn tynnu sylw at wendid ffisiolegol sydd heb ei gydnabod o'r blaen, ac sy'n haeddu cael ei ymchwilio’n bellach."