Gan dynnu ar ymatebion arolwg gan fwy na 1,300 o drigolion rhanbarth Puget Sound yn Nhalaith Washington, mae'r ymchwil yn tynnu sylw at y ffaith nad un agwedd ar natur sy'n siapio llesiant, ond sut mae amodau ecolegol, amgylcheddau cyfagos, a rhyngweithiadau dyddiol yn dod at ei gilydd ym mywydau pobl.
Canfu'r astudiaeth bod pobl a oedd yn teimlo wedi adfywio, wedi ymlacio, neu wedi'u hadfer yn feddyliol yn rheolaidd wrth dreulio amser mewn natur, yn tueddu i nodi boddhad bywyd uwch. Roedd treulio amser yn gwneud gweithgareddau awyr agored hefyd yn bwysig, gan adlewyrchu pwysigrwydd lleoedd cyfagos hygyrch lle gall pobl gerdded, ymlacio a chael hwyl yn eu hamgylchedd fel rhan o fywyd bob dydd.
Ar yr un pryd, dangosodd yr ymchwil bod newidiadau i'r dirwedd ei hun yn ystyrlon. Adroddodd pobl a oedd wedi byw'n hirach yn y rhanbarth fod boddhad bywyd is mewn ardaloedd lle'r oedd coedwigoedd cyfagos wedi dirywio, a boddhad bywyd uwch lle'r oedd gorchudd coedwig wedi cynyddu. Mae hyn yn awgrymu nad dim ond rhywbeth y mae pobl yn sylwi arno yw newid amgylcheddol - gall ddylanwadu ar sut maen nhw'n teimlo am eu bywydau, yn enwedig pan fydd yn effeithio ar leoedd maen nhw wedi'u hadnabod ers blynyddoedd lawer.
Roedd nodweddion ecolegol fel amrywiaeth adar, amrywiaeth cynefinoedd, a faint o dir naturiol oedd gerllaw hefyd yn bwysig, ond mewn ffyrdd llai amlwg. Roedd y nodweddion hyn yn gysylltiedig â pha mor aml y byddai pobl yn profi adferiad ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored, gan ddangos bod bioamrywiaeth ac ecosystemau iach yn helpu i greu lleoedd lle mae pobl eisiau bod ac yn teimlo'n well pan fyddant yno. Yn y modd hwn, mae rhinweddau ecolegol tirweddau yn cefnogi llesiant dynol drwy lunio'r profiadau y mae natur yn eu gwneud yn bosibl.
“Mae natur yn cyfrannu at fywydau pobl mewn sawl ffordd gysylltiedig,” meddai’r prif awdur Dr. Whitney Fleming o Brifysgol Bangor. “Nid yw’n ymwneud â chael lle gwyrdd gerllaw yn unig, ac nid yw’n ymwneud â sut mae pobl yn teimlo mewn natur yn unig. Mae cyflwr yr amgylchedd, sut mae'n newid dros amser, a sut mae pobl yn ymgysylltu ag ef i gyd yn bwysig gyda'i gilydd.”
Bu i'r astudiaeth ganfod hefyd nad yw pawb yn profi'r manteision hyn yn gyfartal. Nododd ymatebwyr a oedd wedi nodi eu bod yn wyn yn unig, iddynt deimlo eu bod wedi'u hadfer gan natur, ac wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn amlach nag ymatebwyr nad oeddent yn wyn ac amlhiliol, gan dynnu sylw at wahaniaethau parhaus o ran mynediad, diogelwch a chynhwysiant mewn mannau naturiol.
At ei gilydd, mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod gwarchod natur a gwella llesiant dynol yn mynd law yn llaw, ond mewn ffyrdd sy'n fwy cymhleth nag a dybir yn aml. Mae bioamrywiaeth, coedwigoedd a thirweddau iach yn bwysig - nid yn unig er eu mwyn eu hunain, ond oherwydd eu bod yn llunio'r profiadau bob dydd drwy’r hyn y mae natur yn cefnogi bywyd da.