Bydd Elan, sy’n 18 oed ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Tryfan, yn derbyn ysgoloriaeth gwerth £3,000 i astudio Astudiaethau Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’r ysgoloriaeth yn cael ei dyfarnu’n flynyddol i gefnogi myfyriwr sy’n byw yng Ngwynedd ac sy’n dewis astudio 100% o’i gwrs gradd yn y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd Elan:
“Dw i wedi eisiau bod yn athrawes ers o’n i’n hogan fach. Cefais fy nylanwadu gan fy mam gan ei bod hi’n athrawes, a thrwy hi, dw i wedi cael blas ar y gwahaniaeth y mae athro Cymraeg da yn gallu ei wneud i fywydau pobl ifanc.”
“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy nghwrs yn fuan, ac yn hynod o ddiolchgar am yr ysgoloriaeth. Bydd yr arian ychwanegol yn sicr o fod o fudd mawr wrth imi ddechrau ar fy mhennod newydd yn y brifysgol.”
Mae’r ysgoloriaeth wedi ei sefydlu ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg
“Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch Elan ar ennill Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd eleni a dymuno'n dda iddi wrth iddi gychwyn ar ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.
“Hoffwn ddiolch hefyd i Gyngor Gwynedd am eu cefnogaeth barhaus dros y blynyddoedd. Mae'n bleser cydweithio â'r Cyngor i gefnogi myfyrwyr i barhau â'u hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol, ac i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol dwyieithog fydd yn cyfrannu at gymunedau a gweithluoedd Cymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyngor Gwynedd:
“Llongyfarchiadau mawr i Elan Roberts ar sicrhau Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni, a phob dymuniad da iddi wrth iddi ddechrau ar ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.
“Fel Cyngor, rydym yn hynod falch o gefnogi myfyrwyr o Wynedd sy’n dewis astudio a datblygu eu gyrfaoedd drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn falch iawn o fedru cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg ar y gwaith pwysig o hyrwyddo’r ddarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg.”
Ewch i wefan y Coleg am wybodaeth bellach ar sut i ymgeisio ar gyfer Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd 2027-28. Gellir defnyddio Chwilotydd Cyrsiau’r Coleg Cymraeg er mwyn gwirio pa gyrsiau sy’n gymwys i dderbyn yr ysgoloriaeth.