Llun o derbynfa Undeb Bangor

Croeso gan Undeb Bangor

Eich Syddogion Sabathol:

Llun o Swyddogion Sabathol Undeb Bangor 2022/23

Beth mae'r Undeb yn ei gynnig i chi? 

Mae ein Cyfleoedd i Fyfyrwyr yn cynnwys Chwaraeon, Cymdeithasau a Chyfleoedd Gwirfoddoli. Mae ein holl gyfleoedd am ddim i ymuno â, mi allwch ymuno â chynifer ag y dymunwch. Rydym wedi ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd am ein cyfleoedd i fyfyrwyr.

Peidiwch ag anghofio am Serendipity, Ffair Wythnos Groeso swyddogol Prifysgol Bangor, a gynhelir gan eich Undeb Myfyrwyr, Undeb Bangor. Bydd Serendipity yn digwydd ar ddydd Mercher 25ain o Ionawr am 11yb tan 5yp yn Neuadd PJ, Prif Adeilad y Brifysgol.

Chwaraeon:

Yn Undeb Bangor mae gennym tua 60 o glybiau chwaraeon fedrwch gymryd rhan ynddynt. Mae gennym chwaraeon maes, chwaraeon raced, chwaraeon dŵr, chwaraeon ymladd a chwaraeon dan do. Gallwch ymuno ag unrhyw glwb beth bynnag eich gallu, gallwch gystadlu neu chwarae am hwyl yn unig. 

Cymdeithasau:

Gyda dros 100 o gymdeithasau yn amrywio o gymdeithasau academaidd i hobïau i gymdeithasau diwylliannol, nid yw’n anodd dod o hyd i gymdeithas y byddwch yn ei charu. Mae ein cymdeithasau yn cynnig cymuned i’n myfyrwyr a lle i ehangu eich diddordeb. Gall unrhyw un ffurfio cymdeithas; y cyfan sydd ei angen arnoch yw syniad gwych a 10 myfyriwr sy'n rhannu eich angerdd. 

Gwirfoddoli:

Mae ein holl brosiectau yn cael eu harwain gan fyfyrwyr. Mae hyn yn golygu bod myfyrwyr yn cael y cyfle i arwain a datblygu eu prosiectau, wrth ddatblygu sgiliau yn y gymuned. 
  
Mae pob prosiect gwirfoddoli yn perthyn i un o'n 5 categori, prosiectau plant, yr henoed, y gymuned, yr amgylchedd ac iechyd meddwl. 

UMCB:

UMCB yw Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor ac mae’n gyfrifol am gefnogi a chynrychioli ein myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, dysgwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg a’i diwylliant yn ystod eu cyfnod yma ym Mangor. Mae gan UMCB amryw o gymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli sy’n cynnig profiadau i fyfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn cynnal digwyddiadau wythnosol, gyda digon o gyfleoedd i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith gymryd rhan. 

Llais y Myfyrwyr:

Mae cynrychiolwyr cwrs yn wirfoddolwyr sy'n casglu adborth gan fyfyrwyr am eu profiad academaidd. Mae cynrychiolwyr cwrs yn cyfarfod yn rheolaidd â'r staff addysgu yn eich ysgol mewn Pwyllgorau Staff Myfyrwyr i drafod barn myfyrwyr a rhoi newidiadau cadarnhaol ar waith. Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda ni, Undeb Bangor, i fynd i'r afael ag unrhyw faterion ehangach.

Mae Cyngor y Myfyrwyr yn fforwm sy'n cyfarfod trwy gydol y flwyddyn academaidd i drafod, dadlau a phasio syniadau yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â'r swyddogion sabothol ar brosiectau a fydd yn gwella profiad myfyrwyr. Gall syniadau fod yn unrhyw beth o greu prosiectau a mentrau newydd i bolisïau sy’n cyfrannu at gyfeiriad strategol Undeb Bangor a’r dyfodol.

 

Ymgyrchoedd

Mae gan Undeb Bangor 6 ymgyrch yr ydym yn eu blaenoriaethu eleni i gefnogi myfyrwyr a gwneud profiad y Brifysgol yn well ac yn fwy diogel i fyfyrwyr y presennol a’r dyfodol. Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y rhain a sut i gymryd rhan:

  • Costau Byw 
  • Iechyd Meddwl
  • Hygyrchedd a Chynwysoldeb
  • Profiad Myfyrwyr 
  • Diogelwch Myfyrwyr
  • Cynaliadwyedd

Dilynwch Undeb Bangor ar gyfryngau cymdeithasol:

Instagram

Facebook

 

Mwy o wydobaeth ar gael ar wefan Undeb Bangor - undebbangor.com

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?