Fy ngwlad:
Llyfr agored ar fwrdd mewn llyfrgell

PARATOI EICH ADOLYGIAD LLENYDDIAETH A’CH CYNLLUN PROJECT

Adolygiad llenyddiaeth:

Dylai eich adolygiad llenyddiaeth eich galluogi i ddeall eich maes yn llawn a hoelio eich sylw ar y damcaniaethau y dylid rhoi sylw iddynt yn ystod eich project ymchwil h.y. beth mae astudiaethau blaenorol wedi'i ddarganfod am y maes a beth yw'r cwestiynau sydd heb eu hateb?

  • Canllaw geiriau o 1000-5000 o eiriau (ymgynghorwch â'ch goruchwyliwr)
  • Dylai hyn fedru bod yn sail ar gyfer Rhagarweiniad cyffredinol eich traethawd hir
  • Bydd ein goruchwylwyr yn rhoi adborth i chi ar eich adolygiad llenyddiaeth
Diben adolygiad llenyddiaeth (Ffynhonnell: Student Learning Development, University of Otago hedc.studentlearning@otago.ac.nz)
Dangos bod gennych afael broffesiynol drylwyr ar y maes
  • nodi llenyddiaeth berthnasol
  • nodi syniadau allweddol, safbwyntiau, dadleuon a phroblemau
  • dangos dealltwriaeth o'r prif ddamcaniaethau mewn maes, a sut y cânt eu cymhwyso
  • Gwerthuso ymchwil blaenorol
  • Helpu i osgoi ailadrodd astudiaeth arall yn anfwriadol
Cyfiawnhau eich ymchwil
  • Nodi bylchau yn y wybodaeth gyfredol
  • Sefydlu'r angen am eich ymchwil
  • Helpu i ddiffinio ffocws a ffiniau eich ymchwil
Cyfiawnhau eich dull
  • Trafod dulliau blaenorol o ymdrin â’r pwnc
  • Rhoi eich astudiaeth chi yn ei chyd-destun
  • Egluro eich dewis o ran fframwaith damcaniaethol a methodoleg
Syntheseiddio llenyddiaeth yn yr arddull academaidd briodol
  • Darparu adroddiad wedi'i strwythuro'n dda sy'n dilyn dilyniant rhesymegol
  • Darparu adroddiad gyda dadleuon da sy'n cefnogi eich cwestiynau ymchwil
  • Darparu adroddiad wedi'i ysgrifennu'n dda ac sy’n cynnwys cyfeiriadau manwl 

Cynllun Project:

  • Yn dilyn ymlaen o'ch adolygiad llenyddiaeth
  • Efallai y bydd yn canolbwyntio ar yr arbrawf cyntaf yn hytrach na'r project cyfan
  • Trafodwch y cynnwys gofynnol gyda'ch goruchwyliwr
  • Darperir enghreifftiau o gynlluniau project ar Blackboard

Gallai’r adrannau gynnwys: 

–Teitl y project/arbrawf
–Nodau ac amcanion
- Rhagdybiaethau
– Manylion ariannol/costau
-Disgrifiad o'r project
- Cynllun arbrofol