Amdanom Ni
Mae'r Grŵp Ymchwil Rhesymeg, Ieithyddiaeth, a Niwroteip (ReLiaNt) yn cynnwys ymchwilwyr ôl-raddedig sydd â diddordeb mewn defnyddio dulliau gwyddoniaeth ieithyddol a gwybyddol i ddeall yn well y gwahaniaethau mewn gwybyddiaeth a chyfathrebu mewn niwroteipiau gwahanol(gan gynnwys awtistiaeth, ADHD, a dyslecsia).
Os ydych chi'n ymchwilydd ôl-raddedig (mewn unrhyw sefydliad) sydd â diddordeb mewn ymuno â ni, cysylltwch â ni.
Prosiectau Ymchwil
Dylanwad goruchafiaeth iaith a niwroteip ar allu i resymu
Arweinydd y Prosiect: A. Jago Williams
Ymchwilwyr eraill: Dr James T. Bragg, Dr Alan Wallington
A yw nifer yr ieithoedd rydych chi'n eu defnyddio ac yn cael eich amlygu iddynt yn newid pa mor dda rydych chi'n rhesymu? Ac a yw'n wahanol yn dibynnu ar eich niwroteip?
Cyfarfod y Tîm
Bywgraffiad
Mae Jago yn ymchwilydd rhesymu a ariennir gan yr ESRC, ac mae’n canolbwyntio ar effaith iaith a niwroteip ar y gallu i resymu. Mae ei phroject cyfredol, Rhesymu, Iaith, a Niwroteip ym Mhrifysgol Bangor dan oruchwyliaeth Dr Alan Wallington a Dr Eirini Sanoudaki.
Mae gan Jago MA Dwyieithrwydd a BA Ieithyddiaeth, ac ar hyn o bryd mae ganddi dri chyhoeddiad wedi eu hadolygu gan gymheiriaid ar iaith a newid hinsawdd, gydag un arall ar y gweill. Cafodd ei chynnwys ar y Linguist List Rising Stars of 2023.
Mae Phillip Wadley yn ieithydd a gwyddonydd gwybyddol o'r Unol Daleithiau. Enillodd BA ym Mhrifysgol Tennessee yn 2018 ac MA ym Mhrifysgol Bangor yn 2019. Cwblhaodd ei ddoethuriaeth mewn ieithyddiaeth yn ddiweddar, mae'n arbenigo yn semanteg a phragmateg iaith ffigurol. Mae ei gefndir ymchwil yn cynnwys gwaith rhyngddisgyblaethol mewn gwybyddiaeth gerddoriaeth, cynrychiolaeth feddyliol o ddiriaethrwydd a dadansoddiad cyfrifiadurol o iaith.
Mae diddordeb cyfredol Phillip mewn 'meddwl llythrennol' ymhlith oedolion awtistig wrth iddynt ddehongli trosiadau. Fel rhan o Grŵp ReLiaNt, mae'r project y mae'n ei arwain, sef “Metaphor in Autism”, wedi ei anelu at ddysgu sut mae pobl ag awtistiaeth a phobl niwronodweddiadol yn deall trosiadau’n wahanol, gyda'r nod o bontio bylchau mewn cyfathrebu ar draws niwrodeipiau.
Mae James yn seicoieithydd sy'n arbenigo mewn mynediad geiriol dwyieithog a phrosesu morffoffonolegol, gyda phwyslais penodol ar dreiglo cytseiniaid cychwynnol yn y Gymraeg. Mae ei ymchwil yn trafod sut mae siaradwyr dwyieithog Cymraeg a Saesneg yn adnabod geiriau llafar pan fydd ffurfiau arwynebol yn amrywio'n systematig, gan archwilio sut mae hyn yn effeithio ar gystadleuaeth, rhagfynegiad a mynediad yn yr eirfa feddyliol ddwyieithog.
Mae ganddo MArts Saesneg i TEFL, MA Dwyieithrwydd, ac yn ddiweddar cwblhaodd ei ddoethuriaeth mewn dwyieithrwydd (ieithyddiaeth) ym Mhrifysgol Bangor, am
draethawd ymchwil yn edrych ar ddylanwad treiglo ar fynediad at eirfa yn y Gymraeg. Mae ei ddiddordebau ymchwil ehangach yn cynnwys prosesu iaith dwyieithog, modelu seicoieithyddol a'r mecanweithiau gwybyddol sy'n sail i newid morffoffonolegol.
Mae Charlie yn ieithydd sy'n arbenigo mewn ieithyddiaeth anabledd, gyda phwyslais penodol ar bragmateg cyfathrebu awtistig o fewn y gymuned. Mae ganddo BA Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg o Brifysgol Bangor, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ei draethawd MA, a fydd yn gwerthuso'r berthynas rhwng anuniongyrchedd a chwrteisi canfyddedig ar draws niwroteipiau, gan ganolbwyntio ar ddulliau o fewn y gymuned.
Mae'n defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar fodelau niwroamrywiaeth mewn meysydd anacademaidd mewn projectau fel Bangor Gwbl Hygyrch (grŵp ymgyrchu dros anabledd ym Mhrifysgol Bangor), mae’n cadeirio cymdeithas myfyrwyr awtistig Prifysgol Bangor, ac yn rhoi hyfforddiant rheolaidd i wahanol gyrff ar gynllunio hygyrchedd a'r dulliau cyfathrebu gorau. Derbyniodd Ysgoloriaeth Gynhwysol Athena Swan yn 2024 oherwydd ei uchelgais i gynrychioli ymchwilwyr awtistig mewn ymchwil awtistiaeth.
Mae Kavya yn ymchwilydd doethurol mewn Gwyddorau Seicolegol Gwybyddol ym Mhrifysgol Essex, dan oruchwyliaeth yr Athro Miroslav Sirota a'r Athro Marie Juanchich. Mae ganddi ddwy radd meistr, MSc (Meistr mewn Gwyddoniaeth) Seicoleg o Brifysgol Essex ac MCom (Meistr Masnach) o Brifysgol Delhi. Mae ei doethuriaeth yn rhan o broject ymchwil dan arweiniad yr Athro Miroslav Sirota ac wedi ei ariannu gan y Leverhulme Trust.
Mae ei hymchwil yn trafod y prosesau gwybyddol sy'n sail i resymu a gwneud penderfyniadau, gyda phwyslais penodol ar swyddogaeth a phwrpas adfyfyrio gwybyddol. Mae hi'n ystyried sut mae meddwl greddfol a dadansoddol yn cyfrannu at allu pobl i ganfod gwallau, osgoi rhagfarnau gwybyddol, gwerthuso gwybodaeth a gwneud penderfyniadau bob dydd.
Ar hyn o bryd mae hi'n cyfrannu at broject trawsddiwylliannol byd-eang ar raddfa fawr mewn cydweithrediad â'r Psychological Science Accelerator (PSA) sy'n ymchwilio i sut mae unigolion yn adnabod ac yn cywiro eu camgymeriadau rhesymu eu hunain. Mae hi'n aelod balch o grŵp ReLiaNt, ac yn cynrychioli'r llinyn ail-resymu.
Mae Alan yn ddarlithydd ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor gyda doethuriaeth o'r Centre for Computational Linguistics yn UMIST/Prifysgol Manceinion, fel yr oedd ar y pryd. Ei ddiddordeb cyffredinol yw datblygu modelau damcaniaethol o ddadansoddi neu brosesu iaith ddynol, gyda’r nod o allu eu profi. Mae hyn yn golygu ei fod yn ymddiddori'n bennaf yn y patrymau a'r cyffredinoliadau hynny a geir mewn iaith sy'n berthnasol i brosesu a dehongli iaith, ac sy’n effeithio ar y broses honno, yn hytrach na'r rhai sy'n adlewyrchu sut mae pobl yn dysgu iaith neu sut mae iaith yn datblygu dros amser. Roedd ei ddoethuriaeth a gwaith dilynol yn ymwneud yn bennaf ag agweddau strwythurol neu gystrawennol ar brosesu iaith, megis datrys amwysedd strwythurol neu achos brawddegau “garden-path”, sef brawddegau sy’n gywir yn ramadegol ond nad ydynt yn gwneud synnwyr yn semantig.
Fodd bynnag, yn ddiweddarach, dechreuodd ymddiddori mewn agweddau ar ystyr, yn enwedig, ond nid yn unig, yn y ffordd y mae iaith ffigurol a throsiadau yn cael eu dehongli. Mae’n gwrthod y farn bod dehongli trosiadau’n debyg i ddatgodio, lle ceir tabl mapio neu dabl arall sy’n darparu ymadrodd cyfatebol ym mharth targed yr iaith lythrennol i unrhyw ymadrodd ym mharth ffynhonnell y trosiad. Mae ymdrechion i wneud hyn bob amser yn ymddangos braidd yn artiffisial. Yn hytrach, mae’n awgrymu, bod trosiadau’n sbarduno cadwyn o gasgliadau ynglŷn â’r hyn a fyddai'n cael ei gasglu pe bai'r senario gwirioneddol a gyfeirir ato gan y trosiad yn dal i fodoli, proses sy’n debyg i resymu gwrthffeithiol.