Mae ymgyrch newydd yn mynd rhagddi oddi ar arfordir gogledd-ddwyreiniol yr Alban yr haf hwn i weld a allai’r genhedlaeth nesaf o ffermydd gwynt alltraeth arnofiol gynyddu cynhyrchedd y moroedd o amgylch y Deyrnas Unedig. Mae'r ymgyrch yn dwyn ynghyd wyddonwyr morol blaenllaw o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys prifysgolion Lerpwl, Bangor, East Anglia, Southampton a Hull; Marine Scotland, sef Cymdeithas Gwyddor Môr yr Alban; a'r Ganolfan Eigioneg Genedlaethol.
Bydd dwy long ymchwil, sef y Llong Ymchwil Frenhinol Discovery a Llong Ymchwil Prifysgol Bangor Prince Madog, ynghyd â fflyd o gerbydau tanddwr, yn cynnal arolwg o’r dyfroedd o amgylch dwy fferm wynt arnofiol, a ddatblygwyd fel prototeipiau, oddi ar arfordir dwyrain yr Alban, sef: Kincardine, sy'n eiddo i Dragados ac sy’n cael ei weithredu gan Grupo Cobra; a Hywind, sy'n cael ei weithredu gan Equinor. Bydd y gwyddonwyr yn edrych i weld a all tyrfedd a chymysgu ychwanegol, wrth i geryntau’r llanw lifo trwy’r ffermydd gwynt arnofiol hyn, ddod â maetholion i fyny o'r dyfnderoedd ar gyfer y plancton sy’n byw yn y dyfroedd cynnes sy’n nes at yr wyneb. Plancton yw sylfaen y gadwyn fwyd forol, felly gallai cynyddu cynhyrchiant plancton fod o fudd i fioamrywiaeth moroedd a physgodfeydd y Deyrnas Unedig.
Dros y degawd diwethaf, mae ynni gwynt alltraeth wedi dod yn rhan fawr o gyflenwad ynni'r Deyrnas Unedig, ac yn stori o lwyddiant diwydiannol i’r Deyrnas Unedig. Yn 2024, roedd gwynt yn cyfrif am 30% o gynhyrchiant trydan y Deyrnas Unedig, gyda mwy na hanner y cynhyrchiant hwnnw'n digwydd ar y môr. Ond wrth i'r moroedd bas, sy'n addas ar gyfer ffermydd gwynt, ddechrau llenwi, mae'r diwydiant yn edrych ymhellach o’r lan er mwyn diwallu anghenion ynni'r Deyrnas Unedig a helpu i gyrraedd sero net.
Mae'r symud ymhellach o’r lan yn heriol o safbwynt peirianegol oherwydd bod y dŵr yn ddyfnach, gan olygu fod angen datblygu technoleg gwynt arnofiol newydd, a bellach mae'r Deyrnas Unedig yn arwain yn fyd-eang yn y maes hwnnw.
Mae symud i ddŵr dyfnach hefyd yn golygu y bydd y ffermydd gwynt yn gweithredu mewn amgylchedd eigionegol gwahanol iawn - moroedd arfordirol lle mae'r haenau dŵr yn newid gyda'r tymhorau. Mae'r moroedd hyn ymhlith y rhai mwyaf biolegol-gynhyrchiol ac amrywiol ar y blaned, fel yr eglurwyd gan David Attenborough yn y gyfres deledu Blue Planet. https://www.bbc.co.uk/programmes/b0074mlf .
Dros yr haf, mae'r dyfroedd dyfnach hyn yn ffurfio haenau, gyda dŵr cynnes yn gorwedd uwch ben dŵr oerach oddi tanodd. Mewn dŵr dwfn y ceir y maetholion y mae ar blancton eu hangen, ond mae’r plancton yn byw yn yr haen uchaf. Wrth i’r llanw lifo heibio i'r ffermydd gwynt mae’n cynhyrchu tyrfedd a all ddod â rhai o'r maetholion hynny i fyny i'r dŵr wyneb gan hyrwyddo twf plancton.

Meddai’r Athro Jonathan Sharples o Brifysgol Lerpwl, arweinydd y project a’r prif wyddonydd ar fwrdd y Llong Ymchwil Frenhinol Discovery:
“Mae’r ymchwil yma’n gyfle gwych i asesu effeithiau technoleg y ffermydd gwynt arnofiol newydd yma ar gynhyrchedd y cefnforoedd. Mae damcaniaethau presennol yn awgrymu oherwydd bod y cefnfor yn cynhesu'n gyflym y bydd yn dod yn llai cynhyrchiol, gan effeithio ar fioamrywiaeth ac ar bysgodfeydd. Bydd yn ddefnyddiol iawn gwybod a fydd y maetholion sy'n cael eu cymysgu tua’r wyneb gan ffermydd gwynt alltraeth arnofiol yn gallu gwrthbwyso rhywfaint o'r gostyngiad hwnnw.
Meddai Dr Ben Lincoln, sef yr eigionegydd ym Mhrifysgol Bangor sy'n arwain y gwaith ar y Llong Ymchwil Prince Madog:
“Yn ystod y don wres yn haf 2023, fe wnaethon ni sylwi ar rywbeth anarferol yn digwydd o amgylch ffermydd gwynt arnofiol. Er bod tymereddau dŵr wyneb tua 4-5 °C yn uwch na'r arfer ar draws y rhan fwyaf o'r rhanbarth a oedd yn profi ton wres, roedd y dŵr wyneb yn llawer oerach yr ochr bellaf i ffermydd gwynt. Y rheswm dros hynny ydy bod tyrfedd yn dod â dŵr dwfn, oerach i'r wyneb. Os ydy dŵr oerach yn dod i'r wyneb fel hyn, bydd maetholion y gallai'r plancton eu defnyddio hefyd yn dod i’r wyneb. Bydd yr arsylwadau newydd yma’n ein galluogi ni i fesur faint o hynny sy’n digwydd.”
Ochr yn ochr â'r gwaith a fydd yn digwydd ar fwrdd y llongau, bydd tîm rhyngddisgyblaethol o wyddonwyr daear, eigionegwyr a pheirianwyr trydanol o Brifysgol Southampton yn cynnal dadansoddiad newydd i fesur tymheredd y môr gan ddefnyddio'r ceblau morol foltedd uchel sy'n cysylltu'r ffermydd gwynt â'r grid pŵer cenedlaethol.
Meddai’r Athro Justin Dix: “Bydd gallu canfod tymheredd y dŵr o’r ceblau trosglwyddo yn gyfle i olrhain newidiadau yn nhymheredd ac yn haeniad y cefnfor yn ystod oes y ffermydd gwynt.”
Bydd y rhaglen sydd wedi ei chynllunio ar gyfer yr haf hwn yn asesu effaith ffermydd gwynt alltraeth arnofiol er mwyn llywio datblygiadau yn y dyfodol i gyfrannu at dargedau sero net ond hefyd i amddiffyn iechyd y cefnforoedd mewn hinsawdd sy'n cynhesu.
Ariennir y gwaith gan y Natural Environment Research Council (NERC).