Prifysgol Bangor yn ennill Cyllid ‘Doctoral Focal Awards’ nodedig yr AHRC
Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei henwi'n arweinydd grant gan yr AHRC, sef y Doctoral Focal Awards, ac yn bartner ar ail un. Bwriad y grantiau nodedig hyn, a gyhoeddwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), yw darparu hyfforddiant doethurol sy'n datblygu capasiti ymchwil mewn meysydd strategol, yn mynd i'r afael â heriau cymdeithasol trwy ymchwil rhyngddisgyblaethol yn y celfyddydau a'r dyniaethau, ac yn paratoi myfyrwyr at yrfaoedd amrywiol yn y byd academaidd a thu hwnt. Maent hefyd yn anelu at fynd i'r afael â thangynrychiolaeth, cau bylchau sgiliau, a chryfhau cydweithio rhwng y byd academaidd, diwydiant a chymunedau er budd cymdeithasol ehangach.
Fel prif sefydliad y Celtic Crescent Creative Economy Doctoral Focal Award, bydd Bangor yn arwain ymchwil arloesol ar gyfraniad cymunedau dwyieithog a gwledig at yr economi greadigol, gyda phwyslais ar ranbarthau sy'n aml yn cael eu hanwybyddu mewn strategaethau creadigol cenedlaethol. Bydd y wobr hon yn ariannu 20 o fyfyrwyr doethurol ac yn dwyn ynghyd gonsortiwm o brifysgolion sydd wedi ymrwymo i ddwyieithrwydd, gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Falmouth, Prifysgol Aberdeen, y Glasgow School of Art, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol De Cymru. Cefnogir y consortiwm gan 27 o bartneriaid o ddiwydiant ac o’r sector, yn amrywio o Aria, stiwdios teledu a ffilm lleol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, i gynhyrchwyr crefftau rhyngwladol fel Harris Tweed yn yr Alban.
Mae Bangor hefyd yn bartner mewn ail grant gan yr AHRC sy'n canolbwyntio ar iechyd a lles ac sydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ar ran Cymdeithas Celfyddydau a Dyniaethau Cymru. Bydd y project hwn yn gweithio'n agos â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
Mae'r ddau grant yn cyd-fynd yn agos â gweledigaeth yr AHRC o gefnogi ymchwil rhyngddisgyblaethol, effeithiol sy'n cyfrannu at Deyrnas Unedig iachach a mwy creadigol.
Meddai’r Athro Ruth McElroy, Pennaeth yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, “Mae hwn yn gyfle mawr i feithrin cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr dwyieithog, amlddisgyblaethol. Trwy ymchwil cydweithredol, sy'n seiliedig ar le, rydym yn cydnabod cyfraniad hanfodol cymunedau gwledig, arfordirol ac amlieithog at economi greadigol a lles cymdeithasol y Deyrnas Unedig ac, yn hollbwysig, yn creu ffrwd o dalent a fydd yn gyrru arloesi diwydiannol.”
Bydd cyfleoedd ymchwil ymarferol i fyfyrwyr doethurol yn cael eu darparu mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y diwydiant a sefydliadau cymunedol. Bydd y pwyslais ar ddatblygu sgiliau yn barod at y dyfodol ac agor llwybrau gyrfa yn y byd academaidd a thu hwnt, yn enwedig mewn meysydd a sectorau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Meddai’r Athro Christopher Smith, Cadeirydd Gweithredol yr AHRC, “Mae cyflwyno’r grantiau hyn yn caniatáu inni gefnogi carfannau o fyfyrwyr mewn canolfannau rhagoriaeth mewn meysydd sy’n strategol werthfawr, megis iechyd a’r economi greadigol. Yn y dyfodol, bydd y dull hwn yn caniatáu inni, mewn ymgynghoriad â'r sector, ddarparu cefnogaeth angenrheidiol i ddisgyblaethau ar draws y celfyddydau a'r dyniaethau, sgiliau hanfodol a'r dyniaethau digidol. Ond mae cwmpas projectau unigol yn eang ac mae ymreolaeth i ymchwilwyr yn parhau i fod yr un mor bwysig ag erioed.
“Mae’r Focal Awards yn enghraifft o ddull Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau o hybu hyfforddiant doethurol a’n huchelgais am bortffolio cynaliadwy sy’n darparu cefnogaeth i hyfforddiant, ymchwil dan arweiniad ymchwilwyr, cyfeiriad strategol ac adeiladu’r isadeiledd sy’n angenrheidiol i bobl a syniadau i ddyfodol y celfyddydau a’r dyniaethau.”
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyfrannu at arwain yr ymdrech genedlaethol hon ac yn edrych ymlaen at weithio ar ymchwil cynhwysol ac effeithiol sy'n meithrin ymchwilwyr y dyfodol, yn cryfhau economïau rhanbarthol, ac yn gwella bywyd diwylliannol ledled y Deyrnas Unedig.