Safle uwch i’r Brifysgol yn Guardian University Guide 2026
Mae Prifysgol Bangor wedi codi 11 safle yn y Guardian University Guide 2026, gan gyrraedd safle 62 allan o 123 o sefydliadau. Mae’r brifysgol wedi cael ei rhoi mewn safle uwch o ran Cymru hefyd, gan symud i fyny un safle i fod yn gydradd 4ydd ochr yn ochr â Phrifysgol Aberystwyth, y tu ôl i Abertawe, Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru.
Ar y cyfan, mae'r fethodoleg a'r dangosyddion a ddefnyddiwyd wrth bennu’r safleoedd ar gyfer 2026 yn gyson â’r llynedd. Yn dilyn yr heriau a gafwyd wrth gyhoeddi’r canllaw yn 2025 yn sgil data cyfyngedig HESA 2022/23, mae’r canllaw eleni yn gyflawn i bob diben, ac yn pwyso’n bennaf ar ddata 2023/24, a defnyddir canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) 2025 yn sail i’r canlyniadau o ran boddhad myfyrwyr.
Cafwyd cynnydd ym Mangor yn y ddau ddangosydd boddhad myfyrwyr sy'n gysylltiedig â'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr. Er nad oedd 'Boddhad â’r Asesu' yn cyd-fynd â’r sector, gan arwain at ostyngiad o ran safle, gwellodd 'Boddhad â'r Addysgu' yn sylweddol, gan olygu fod Prifysgol Bangor wedi dringo 18 safle.
Mae pedwar pwnc yn ymddangos ymhlith y deg uchaf yn y tablau pynciau:
- Dylunio Cynnyrch (1af o blith 41)
- Gwyddor Anifeiliaid ac Amaethyddiaeth (9fed o blith 20)
- Bydwreigiaeth (9fed o blith 54)
- Athroniaeth (4ydd o blith 50)
Roedd Ieithoedd ac Ieithyddiaeth (12fed), Proffesiynau Iechyd (14eg), a'r Gyfraith (18fed o blith 110) hefyd wedi eu rhestru yn uchel, ychydig y tu allan i'r deg uchaf.
Yn ogystal, mae rhai pynciau wedi'u rhestru yn y 10% uchaf mewn dangosyddion unigol:
- % Boddhad â'r Asesu: Dylunio Cynnyrch, Athroniaeth, Bydwreigiaeth, Hanes
- % Boddhad â'r Addysgu: Dylunio Cynnyrch, Athroniaeth
- Tariff Mynediad Cyfartalog: Proffesiynau Iechyd, Nyrsio Cyffredinol (Oedolion)
- Parhad: Addysg
- Rhagolygon Gyrfa (% mewn Cyflogaeth Sgiliau Uchel): Nyrsio Cyffredinol (Oedolion)
- Cymhareb Myfyrwyr-Staff: Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Gwyddorau Daear a Môr
- Sgôr Gwerth Ychwanegol: Dylunio Cynnyrch, Ieithoedd ac Ieithyddiaeth, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Addysg
Ewch i The Guardian University Guide 2026 i weld y dadansoddiad llawn.