Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth enfawr o chwaraeon. Mae gan Undeb Myfyrwyr Bangor ystod eang o dimau a chlybiau chwaraeon y gallwch ymuno â nhw, gan gynnwys chwaraeon traddodiadol fel pêl-droed, rygbi a thenis yn ogystal â gweithgareddau mwy anarferol fel quidditch, hoci tanddwr a ffrisbi eithafol.
Mae gennym hefyd gyfleusterau ffitrwydd rhagorol ar y campws, ac wrth gwrs mae ein lleoliad yn golygu y gallwch dreulio amser yn yr awyr agored yn dringo mynyddoedd, padl-fyrddio, caiacio, syrffio a llawer mwy.
Cyfleusterau ar y campws
Canolfan Brailsford
Mae Canolfan Brailsford, canolfan chwaraeon a hamdden y Brifysgol, wedi ei lleoli yng nghanol Ffriddoedd, y prif safle neuaddau.
Mae'r ganolfan yn cynnwys tair campfa llawn offer ar gyfer ymarfer cardiofasgwlaidd a hyfforddi pwysau, neuadd gymnasteg a wal ddringo gyda sawl lefel anhawster. Y tu allan ceir caeau pêl-droed a rygbi, cae synthetig gyda llifoleuadau i chwarae hoci, trac athletau a chyfleusterau amlbwrpas i chwarae tenis, pêl-droed pump-bob-ochr a phêl-rhwyd.
Trac Athletau a Chaeau Chwarae Treborth
Ymhlith y cyfleusterau yn Treborth, mae caeau pêl-droed, rygbi a Phêl-droed Americanaidd a thrac athletau.
Ystafell Ffitrwydd y Santes Fair
Mae ysgafell ffitrwydd ym Mhentref Santes Fair. Mae'r offer modern a gyflenwir gan LifeFitness yn cynnwys melinau troed, traws hyfforddwyr, beiciau, rhwyfwr dŵr ac amrywiaeth o beiriannau gwrthiant i alluogi ymarfer effeithiol.
Mae aelodaeth o'r gampfa yn gynwysedig i fyfyrwyr sy'n byw yn ein neuaddau preswyl.
Gweithgareddau awyr agored
Os oes gennych eisoes ddiddordeb mewn gweithgareddau awyr agored byddwch ar ben eich digon gyda'r amrywiaeth eang o chwaraeon sydd ar gael ar garreg eich drws. Yn Eryri ceir cyfleoedd gwych i ddringo a cherdded mynyddoedd a digonedd o chwaraeon dŵr, yn cynnwys canŵio, syrffio, a hwylio.
Cyfleusterau eraill ym Mangor a'r ardal
Ym Mangor ceir pwll nofio 25 metr gyda byrddau plymio 1m, 3m a 5m. Mae atyniadau poblogaidd eraill yn yr ardal yn cynnwys Zip World Eryri ym Methesda a Blaenau Ffestiniog, canolfan sgïo ac eirafyrddio Llandudno, Canolfan chwaraeon dŵr Surflines yn Llanberis, y Ganolfan Fynydda Genedlaethol yng Nghapel Curig a'r Ganolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol ym Mhlas Menai ac Adventure Parc Snowdonia, sef parc chwaraeon dŵr a lagŵn syrffio artiffisial, yn nyffryn Conwy .
Ysgoloriaethau Chwaraeon
Rydym yn cefnogi myfyrwyr a dawn arbennig mewn chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon gwerth hyd at £3,000 y flwyddyn. Bwriad yr Ysgoloriaethau yw cydnabod a chefnogi rhagoriaeth a chyrhaeddiad mewn chwaraeon ac nid yw'r ysgoloriaethau wedi eu cyfyngu i unrhyw gamp neilltuol nac i fyfyrwyr ar unrhyw gyrsiau penodol.