Cynigion gan y Prifysgolion
Unwaith y byddwch wedi derbyn eich holl gynigion, rhaid ichi nodi Dewis Pendant a Dewis Wrth Gefn, a Gwrthod yr holl gynigion eraill.
Beth yw Dewis Pendant?
Dylai eich Dewis Pendant o brifysgol fod yr un yr ydych fwyaf awyddus i fynd iddi. Wrth wneud hon yn Ddewis Pendant, rydych yn dweud eich bod yn cytuno i astudio yno, cyhyd â’ch bod yn cydymffurfio ag amodau eich cynnig.
Beth yw ystyr Dewis Wrth Gefn?
Eich prifysgol wrth gefn yw hon, felly, os na chewch y graddfeydd sydd eu hangen ar gyfer eich dewis cyntaf, yna, gyda lwc, byddwch wedi cyrraedd y safon sy’n ofynnol ar gyfer y Dewis Wrth Gefn. Pan fyddwch yn penderfynu ynglŷn â Dewis Wrth Gefn, mae’n syniad da sicrhau eich bod yn ffyddiog y gellwch ateb y meini prawf hynny. Peidiwch â dewis prifysgol sydd wedi pennu amodau tebyg i’ch Dewis Pendant. Cofiwch, eich cynllun wrth gefn yw hwn!
A allaf ail-feddwl yn nes ymlaen?
Os ydych wedi derbyn eich cynigion yn ystod y 14 diwrnod diwethaf gallwch newid eich dewis Pendant ac Wrth Gefn. Cysylltwch â chynghorydd UCAS i roi gwybod iddynt beth yr hoffech ei wneud. Nid oes modd cyfnewid ar ôl 21 Gorffennaf 2023.