Myfyrwyr ym Mhrif Adeilad y Brifysgol

Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau

Wythnos Groeso

Ruth McElroy

Croeso i Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau. Fel myfyriwr newydd, rydych ar un o deithiau mwyaf trawsnewidiol eich bywyd ac rydym wrth ein bodd y byddwch yn ymuno â ni ym Mhrifysgol Bangor wrth i chi gychwyn ar y cam nesaf yn eich addysg. Bydd y flwyddyn academaidd newydd wedi cyrraedd cyn i chi wybod a gobeithiwn eich bod yn edrych ymlaen at ddechrau eich gradd gyda ni.  
 
Mae’r ysgol academaidd hon yn gartref i’r meysydd pwnc canlynol:  

 

  • Ysgrifennu Creadigol ac Ysgrifennu Proffesiynol
  • Drama, Theatr a Pherfformio
  • Llenyddiaeth Saesneg
  • Iaith Saesneg
  • Ffilm, y Cyfryngau a Newyddiaduraeth
  • Ieithoedd a Diwylliannau Modern
  • Ieithyddiaeth
  • Cerddoriaeth
  • Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Gwyddom fod hwn yn gyfnod cyffrous i chi - yn llawn pobl, lleoedd a phrofiadau newydd. Mae astudio yn y brifysgol yn gyfle i greu atgofion gwych, ffrindiau am oes ac ennill gradd a fydd yn gwella eich rhagolygon ar unrhyw nifer o lwybrau gyrfa.  Mae’r staff addysgu yn brysur yn paratoi ar gyfer y tymor newydd a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cefnogi wrth i chi ymgartrefu yn eich amgylchedd newydd.  Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd eich profiad myfyriwr yn un o ddysgu o safon a datblygiad personol, a gobeithiwn y bydd yr Wythnos Groeso yn ddechrau blynyddoedd difyr a ffrwythlon o astudio gyda ni. 

Mae ein rhaglen Wythnos Groeso wedi’i datblygu i roi arweiniad ac mae’n cynnwys ystod o sesiynau a gweithgareddau gyda’r bwriad o’ch helpu i ymgyfarwyddo gyda’ch amgylchoedd.  Ar ddydd Llun yr Wythnos Groeso cewch eich gwahodd i sesiwn gynefino. Byddwch hefyd yn cael cyfarfod gyda'ch Tiwtor Personol a fydd yn gallu cynnig cyngor ar fodiwlau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich rhaglen astudio. 

Isod fe welwch eich rhaglen Wythnos Groeso, gwiriwch yn rheolaidd am ddiweddariadau.

  • Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am drefniadau Wythnos Groeso eich cwrs, cysylltwch â'r Ysgol neu ein harweinwyr cyfoed.
  • Cewch ragor o wybodaeth ddefnyddiol am baratoi ar gyfer dechrau’r tymor ar ein tudalennau Croeso i Brifysgol Bangor
  • Ar gyfer ymholiadau am ymrestru a chofrestru, cysylltwch â cofrestru.
  • Ar gyfer ymholiadau am eich amserlen neu eich cwrs, cysylltwch â’r tîm Gweinyddu Myfyrwyr

Gan edrych ymlaen at eich gweld yn fuan,

Yr Athro Ruth McElroy
Pennaeth yr Ysgol

Arweinwyr Cyfoed

Ar ran holl Arweinwyr Cyfoed yr Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, hoffwn eich croesawu i Fangor.


Mae’r cynllun Arweinwyr Cyfoed yma i’ch helpu chi yn ystod eich cyfnod ym Mangor, yn enwedig wythnosau cyntaf eich cwrs gradd. Yr Wythnos Groeso yw eich wythnos gyntaf ym Mangor, ac mae’n gyfle i chi ymgartrefu cyn i’r darlithoedd ddechrau. Yn ystod yr Wythnos Groeso bydd llawer o weithgareddau yn cael eu rhedeg gan yr Ysgol a’r timau yn eich meysydd pwnc. Bydd y gweithgareddau hynny’n gyfle i chi gyfarfod â myfyrwyr newydd eraill a’r Arweinwyr Cyfoed. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn cynnal digwyddiadau hefyd, fel Serendipedd, lle cewch wybodaeth am yr holl gymdeithasau a’r clybiau chwaraeon sydd i’w cael ym Mangor. Mae llawer o’r cymdeithasau a’r clybiau hyn yn cynnal eu digwyddiadau eu hunain – felly, fel y gwelwch chi, bydd llawer o bethau cyffrous i'w gwneud!


. Bydd Arweinwyr Cyfoed yr Ysgol ar gael i’ch cynorthwyo chi trwy gydol yr Wythnos Groeso ac i'ch helpu chi deimlo'n gartrefol. Mae gennych chi Arweinydd Cyfoed personol a fydd yn cysylltu â chi cyn bo hir.
Yn y cyfamser, os hoffech gysylltu â'ch Arweinydd Cyfoed, cysylltwch â chydlynydd yr Arweinwyr Cyfoed a wnaiff eich rhoi chi mewn cysylltiad - Alys Conran (a.conran@bangor.ac.uk)


Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi fis Medi.  
Mwynhewch yr haf ac fe’ch gwelwn yn fuan
 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?