Croeso i Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas. Fel myfyriwr newydd, rydych ar un o deithiau mwyaf trawsnewidiol eich bywyd ac rydym wrth ein bodd y byddwch yn ymuno â ni ym Mhrifysgol Bangor wrth i chi gychwyn ar y cam nesaf yn eich addysg. Bydd y flwyddyn academaidd newydd wedi cyrraedd cyn i chi wybod a gobeithiwn eich bod yn edrych ymlaen at ddechrau eich gradd gyda ni.
Mae’r Ysgol academaidd hon yn gartref i’r meysydd pwnc canlynol:
- Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth
- Y Gyfraith
- Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd
- Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
- Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
- Gwleidyddiaeth
- Plismona
Gwyddom fod hwn yn gyfnod cyffrous i chi - yn llawn pobl, lleoedd a phrofiadau newydd. Mae astudio yn y brifysgol yn gyfle i greu atgofion gwych, ffrindiau am oes ac ennill gradd a fydd yn gwella eich rhagolygon ar unrhyw nifer o lwybrau gyrfa. Mae’r staff addysgu yn brysur yn paratoi ar gyfer y tymor newydd a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cefnogi wrth i chi ymgartrefu yn eich amgylchedd newydd.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd eich profiad myfyriwr yn un o ddysgu o safon a datblygiad personol, a gobeithiwn y bydd yr Wythnos Groeso yn ddechrau blynyddoedd difyr a ffrwythlon o astudio gyda ni.
Mae ein rhaglen Wythnos Groeso wedi’i datblygu i roi arweiniad ac mae’n cynnwys ystod o sesiynau a gweithgareddau gyda’r bwriad o’ch helpu i ymgyfarwyddo gyda’ch amgylchoedd. Yn ystod yr Wythnos Groeso cewch eich gwahodd i sesiwn gynefino. Byddwch hefyd yn cael cyfarfod gyda'ch Tiwtor Personol a fydd yn gallu cynnig cyngor ar fodiwlau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich rhaglen astudio.
Fe welwch eich rhaglen Wythnos Groeso isod. Gwiriwch yn rheolaidd am ddiweddariadau.
- Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am drefniadau Wythnos Groeso neu eich cwrs, cysylltwch â'r Ysgol neu ein harweinwyr cyfoed.
- Fe welwch lawer mwy o wybodaeth ddefnyddiol am baratoi ar gyfer dechrau'r tymor ar ein tudalennau Croeso i Brifysgol Bangor.
- Ar gyfer ymholiadau am ymrestru a chofrestru, cysylltwch â cofrestru.
- Ar gyfer ymholiadau am eich amserlen, cysylltwch â’r tîm Gweinyddu Myfyrwyr.
Gan edrych ymlaen at eich gweld yn fuan,
Yr Athro Peter Shapely
Pennaeth yr Ysgol