Beth Rydyn Ni’n Ei Wneud?
Mae’r project #NNF2 hwn yn ceisio adfer poblogaethau o wystrys brodorol a’u cynefinoedd cysylltiedig ym Mae Conwy.
Ein nod, drwy’r gwaith adfer hwn, yw adfywio cymuned forol fioamrywiol ac ailgysylltu cymunedau arfordirol â’u treftadaeth naturiol. Mae’r projiect yn cynnwys adfer cynefin, ymchwil wyddonol, ac ymgysylltu â’r gymuned drwy wyddoniaeth dinasyddion, gweithgareddau estyn allan, addysg a chynhwysiant.
Drwy gyfuno gwaith adfer ecolegol ag ymgysylltu â phobl leol, rydym yn cyfrannu tuag at adferiad hirdymor wystrys brodorol - rhywogaeth a oedd ar un adeg o arwyddocâd hanesyddol i forlin Cymru - a hybu mwy o ymwybyddiaeth o stiwardiaeth y môr.

Bae Conwy
Mae Bae Conwy ar arfordir gogledd-orllewin Cymru, yn agos at fynyddoedd Eryri a thref hanesyddol Conwy. Mae’n enwog am ei welyau cregyn gleision a’i bysgodfeydd, ac mae ganddo dreftadaeth forol sydd â chanrifoedd o hanes.
Yn hanesyddol, roedd Bae Conwy yn cynnal poblogaethau llewyrchus o wystrys brodorol, ac roedd pysgodfeydd gweithredol mewn ardaloedd cyfagos fel Afon Menai, Ynys Seiriol, ac Ynys Môn. Mae adroddiadau bod pysgotwyr Cymru yn cynaeafu hyd at 20,000 o wystrys y dydd ar ddechrau’r 19eg ganrif. Mae darganfyddiadau archaeolegol yn dangos bod cynaeafu wystrys yn y rhanbarth yn dyddio’n ôl i’r Oes Neolithig a’r Oes Efydd.
Heddiw, dim ond ychydig o boblogaethau o wystrys brodorol sydd ar ôl. Nod ein project yw adfer y cynefinoedd coll hyn ac ailennyn diddordeb yng ngwaddol ecolegol a diwylliannol wystrys yng Nghymru.
Sut Rydym yn Bwriadu Adfer Wystrys Brodorol
Beth Yw Meithrinfeydd Wystrys?
Mae meithrinfeydd wystrys yn amgylcheddau gwarchodedig a reolir. Maen nhw wedi’u cynllunio er mwyn cadw wystrys brodorol aeddfed, gan roi cyfle iddyn nhw atgynhyrchu a rhyddhau larfâu i’r dyfroedd o’u hamgylch. Mae’r strwythurau hyn yn hanfodol er mwyn adfer wystrys, ac maen nhw’n helpu i ailadeiladu poblogaethau o wystrys mewn ardaloedd lle maen nhw wedi dirywio neu ddiflannu.
Pam Rydym Yn Eu Defnyddio
Yn ein safleoedd peilot ym Marinas Conwy a Deganwy, rydym wedi gosod meithrinfeydd wystrys crog o dan y pontynau - pob un yn cadw tua 27 o wystrys aeddfed. Mae’r safleoedd hyn yn creu amodau delfrydol i atgynhyrchu, gan gynnig amddiffyniad rhag ysglyfaethwyr, gwaddodi, a symudiad tonnau. Mae agosrwydd wystrys at ei gilydd yn y meithrinfeydd hyn yn cefnogi silio a rhyddhau larfâu rheolaidd.
Sut Maen Nhw’n Gweithio
- Gwell Atgynhyrchu: Mae’r strwythur yn annog silio naturiol, â larfâu yn cael eu rhyddhau i’r golofn ddŵr yn ystod y tymhorau magu.
- Amddiffyn: Mae’r strwythur yn diogelu wystrys rhag cael eu gorchuddio gan waddod, rhag ysglyfaethwyr, a rhag amodau caled.
- Gwasgaru Larfâu: Gall larfâu sy’n cael eu rhyddhau setlo ar wely môr addas cyfagos, gan ffurfio riffiau wystrys newydd a chyfrannu tuag at adfer y boblogaeth.
Manteision Amgylcheddol a Chymunedol
- Hybu Niferoedd Wystrys: Mae meithrinfeydd yn helpu i adfer poblogaethau brodorol o wystrys sy’n cynnal eu hunain yn y bae.
- Hidlo Dŵr: Mae wystrys yn hidlo dŵr, gan dynnu maethynnau gormodol ohono, gwneud y dŵr yn gliriach a gwella ei ansawdd.
- Creu Cynefin: Mae larfâu wystrys sydd wedi setlo yn ffurfio cynefinoedd riff sy’n cynnal ystod eang o fywyd morol.
- Gwyddoniaeth Dinasyddion: Mae gwirfoddolwyr lleol yn cael eu hyfforddi i gefnogi’r gwaith misol o fonitro’r meithrinfeydd — casglu data ar iechyd wystrys a bioamrywiaeth leol tra’n chwarae rôl ymarferol mewn cadwraeth forol.
Adfer riffiau wystrys yw’r broses o ailadeiladu cynefinoedd wystrys naturiol drwy greu’r amodau iawn i wystrys setlo, tyfu, a ffurfio strwythurau riff. Mae’r riffiau hyn yn cynnal bioamrywiaeth forol, yn gwella ansawdd dŵr, ac yn helpu i adfer ecosystemau arfordirol iach.
Ym Mae Conwy, rydym yn ceisio adfer cynefin wystrys brodorol drwy greu riff ar wely’r môr gan ddefnyddio graean calchfaen a chregyn bylchog hindreuliedig. Mae’r deunyddiau hyn yn darparu’r arwyneb caled y mae ar larfâu wystrys ei angen i gydio wrthynt a thyfu.
Mewn rhai cymunedau, mae cof byw am wystrys brodorol yn bodoli o hyd; mewn eraill, mae’r cysylltiad hwnnw wedi pylu. Mae prosiect Wystrys Gwyllt Bae Conwy yn ceisio ailennyn diddordeb yn y dreftadaeth ddiwylliannol hon drwy adfer presenoldeb ac arwyddocâd wystrys brodorol ym Mae Conwy.
Drwy raglen benodedig ac uchelgeisiol sy’n cynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd, addysg, a gwyddoniaeth dinasyddion - ynghyd â gwella cynhwysiant - rydym yn ceisio ailgysylltu pobl â’u hamgylchedd morol a’u hanes arfordirol cyffredin, gan adeiladu ar lythrennedd morol. Drwy feithrin dealltwriaeth, chwilfrydedd, a stiwardiaeth, rydym yn gobeithio ysbrydoli cenhedlaeth newydd o eiriolwyr morol a fydd yn helpu i adfer ac amddiffyn ein poblogaethau o wystrys brodorol.
Cymryd Rhan
Monitro Meithrinfeydd Wystrys
Mae ein meithrinfeydd wystrys wedi’u lleoli ym Marinas Conwy a Deganwy, ac maen nhw’n darparu amgylcheddau diogel a reolir, lle gall wystrys brodorol dyfu a rhyddhau larfâu i’r dyfroedd o’u cwmpas. Mae’r meithrinfeydd hyn yn cefnogi adferiad poblogaethau o wystrys a gallant hefyd weithredu fel canolbwynt i wyddoniaeth gymunedol ac ymgysylltu â’r gymuned.
Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr i’n helpu i fonitro’r safleoedd hyn. Fel gwyddonydd-ddinesydd, byddwch yn:
- Casglu data am iechyd a thwf wystrys
- Cofnodi’r rhywogaethau morol sy’n byw o amgylch y meithrinfeydd
- Helpu i fonitro amodau amgylcheddol fel tymheredd a halwynedd y dŵr
Nid oes angen profiad blaenorol — darperir hyfforddiant llawn, a chroesewir pobl o bob cefndir (18+ oed). Mae’n ffordd wych o ddysgu am fywyd morol lleol, cyfarfod pobl sy’n rhannu’r un diddordebau, a gwneud gwahaniaeth ymarferol drwy adfer riffiau wystrys.
Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth ac ymuno â’r grŵp o wirfoddolwyr.
Rhaglen Addysg
Mae ein Rhaglen Addysg Wystrys Gwyllt, sy’n gysylltiedig â chwricwlwm Cymru, wedi’i chynllunio er mwyn ysbrydoli myfyrwyr sy’n amrywio o ran oed o Gam Allweddol 2 i Addysg Uwch, gan gysylltu dysgwyr â chadwraeth forol yn y byd go iawn.
P’un a ydych yn athro/athrawes, darlithydd, arweinydd grŵp ieuenctid, neu fyfyriwr, mae ein rhaglen yn darparu profiadau dysgu ystyrlon sy’n cefnogi llythrennedd morol, ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth, a stiwardiaeth amgylcheddol.
- Myfyrwyr i gael mwy o wybodaeth ac ymwybyddiaeth o wystrys brodorol a’r gwasanaethau ecosystem maen nhw’n eu darparu.
- Myfyrwyr i gael mwy o wybodaeth a dealltwriaeth o gynefinoedd morol yn y DU a’r amgylchedd morol gan arwain at fwy o lythrennedd morol.
- Myfyrwyr i gael mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’u prosiect Wystrys Gwyllt lleol.
- Myfyrwyr yn cael eu hysbrydoli i ofalu am yr amgylchedd morol a dod yn stiwardiaid morol.
Mae’r rhaglen, sy’n gysylltiedig â chwricwlwm cenedlaethol Cymru, ac sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn cynnig ystod o weithgareddau di-dâl a phrofiadau i ddod â gwyddor eigion yn fyw:
- Saffari Wystrys – gweld wystrys brodorol yn agos yn ein systemau meithrinfeydd
- Gweithdai ystafell ddosbarth a gwasanaeth boreol – yn gysylltiedig â’r cwricwlwm ac ar gael wyneb yn wyneb neu’n ddigidol
- Cyfranogiad ymarferol – helpu i fonitro a gofalu am ein hwystrys fel rhan o’n prosiect adfer byw
- Cyfleoedd ar gyfer interniaeth ac ymchwil – i fyfyrwyr mewn coleg neu brifysgol
Ar gyfer archebion grŵp neu i ddarganfod rhagor, cysylltwch â: wild.oysters@zsl.org neu eich swyddogion project lleol: rhianna.parry@bangor.ac.uk neu m.hayden-hughes@bangor.ac.uk

Cyfarfod y Tîm
Newyddion Diweddaraf
Gweld MwyDigwyddiadau
Cysylltu â Ni
Os hoffech fod yn rhan o ymdrechion adfer wystrys Bae Conwy, cysylltwch â ni.