Arweinwyr Cyfoed yn helpu yn ystod y Diwrnod Agored

Wythnos Groeso: Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol

Yr Athro Dave Richardson

Croeso i’r Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor. Fel Pennaeth yr Ysgol, mae’n bleser mawr gennyf eich croesawu i Fangor a’ch croesawu’n ffurfiol i’r ysgol. Rydym yn un o'r ysgolion mwyaf blaenllaw gydag amrywiaeth o gyfleoedd i’w cynnig mewn Seicoleg, a Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer. Mae ein hymchwil, sydd gyda’r gorau yn y byd, yn cynnwys niwrowyddoniaeth wybyddol, ymyriadau clinigol, lles seicolegol, perfformiad elît a ffisioleg ddynol gymhwysol, ac mae’n cael effaith sylweddol yn y byd go iawn.  Rydym hefyd yn falch o'n rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac yn fyd-eang ac rydym yn falch iawn eich bod wedi dewis dod atom i ddilyn eich hyfforddiant academaidd, proffesiynol a galwedigaethol.  
 
Rydym yn ymwybodol bod hwn yn gyfnod hynod o bwysig i chi. Rydych yn dechrau ar gyfnod cyffrous yn eich bywyd ac yn dechrau cwrs astudio newydd a fydd yn cynnwys nifer o newidiadau a thrawsnewidiadau. Mae'n hollol normal gweld hyn fel rhywbeth cyffrous a brawychus. Rwy’n newydd i Fangor fy hun, ar ôl cael fy mhenodi’n Bennaeth yr Ysgol ym mis Gorffennaf 2022, felly gallaf uniaethu â’r llawenydd a’r pryder sy’n gysylltiedig â’r newid hwn.  Gallaf ddweud yn onest wrthych, o’m profiad diweddar iawn, fod ein staff yn hynod o gyfeillgar, ac rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i gynnig cefnogaeth fugeiliol a phersonol helaeth i chi.  Os oes gennych unrhyw bryderon neu broblemau neu os ydych yn teimlo'n ansicr ynglŷn â’ch teimladau, cysylltwch â'ch tiwtor personol cyn gynted â phosibl. Rydym i gyd yma i'ch helpu i ymgartrefu yn y brifysgol.
 
Mae ein rhaglen Wythnos Groeso wedi ei chynllunio i roi cefnogaeth ac arweiniad ac mae’n cynnwys amrywiaeth o sesiynau a gweithgareddau gyda’r bwriad o’ch helpu i ymgyfarwyddo â’ch amgylchedd newydd.  Byddwch yn cael sesiwn ragarweiniol, digwyddiadau cymdeithasol a chyfleoedd i gwrdd â'ch tiwtor personol a all ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych am eich rhaglen astudio.
 
Fel ysgol rydym wedi ymrwymo i addysgu pobl a fydd yn cyfrannu at gymdeithas y dyfodol ac yn ei harwain. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein hysgol.  Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod eich cyfnod ym Mhrifysgol Bangor yn un pleserus a thrawsnewidiol. Bydd eich profiad yn dylanwadu'n gadarnhaol ar eich bywyd ac yn eich galluogi i gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas ac ar fywyd pobl eraill ar ôl cwblhau eich astudiaethau.
 
Edrychaf ymlaen yn fawr at gyfarfod pob un ohonoch dros yr wythnosau nesaf. 
 
Cofion gorau
 
Yr Athro Dave Richardson
Pennaeth yr Ysgol

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?