Croeso i Ysgol Y Gyfraith Gogledd Cymru. Fel myfyriwr newydd, rydych ar un o deithiau mwyaf trawsnewidiol eich bywyd ac rydym wrth ein bodd y byddwch yn ymuno â ni ym Mhrifysgol Bangor wrth i chi gychwyn ar y cam nesaf yn eich addysg. Bydd y flwyddyn academaidd newydd wedi cyrraedd cyn i chi wybod a gobeithiwn eich bod yn edrych ymlaen at ddechrau eich gradd gyda ni.
Mae’r Ysgol academaidd hon yn gartref i’r meysydd pwnc canlynol:
- Cymdeithaseg
- Y Gyfraith
- Plismona
- Troseddeg
Gwyddom fod hwn yn gyfnod cyffrous i chi - yn llawn pobl, lleoedd a phrofiadau newydd. Mae astudio yn y brifysgol yn gyfle i greu atgofion gwych, ffrindiau am oes ac ennill gradd a fydd yn gwella eich rhagolygon ar unrhyw nifer o lwybrau gyrfa. Mae’r staff addysgu yn brysur yn paratoi ar gyfer y tymor newydd a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cefnogi wrth i chi ymgartrefu yn eich amgylchedd newydd.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd eich profiad myfyriwr yn un o ddysgu o safon a datblygiad personol, a gobeithiwn y bydd yr Wythnos Groeso yn ddechrau blynyddoedd difyr a ffrwythlon o astudio gyda ni.
Mae ein rhaglen Wythnos Groeso wedi’i datblygu i roi arweiniad ac mae’n cynnwys ystod o sesiynau a gweithgareddau gyda’r bwriad o’ch helpu i ymgyfarwyddo gyda’ch amgylchoedd. Yn ystod yr Wythnos Groeso cewch eich gwahodd i sesiwn gynefino. Byddwch hefyd yn cael cyfarfod gyda'ch Tiwtor Personol a fydd yn gallu cynnig cyngor ar fodiwlau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich rhaglen astudio.